Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol Tai Gwag 2023-2028

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Tai Gwag ar gyfer 2023 i 2028, i’w ystyried gan y Pwyllgor ac i graffu arno.

Cyflwynwyd yr adroddiad a’r Strategaeth gan y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor, a gyfeiriodd at lwyddiant y strategaeth flaenorol sydd wedi llwyddo i ddod â 525 o eiddo yn ôl i ddefnydd ers 2017. Yn yr un modd diben y cynllun dilynol yw sicrhau bod cyn lleied â phosib o dai gwag ac annog perchnogion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Mae’n nodi sut mae’r Cyngor yn delio gydag eiddo gwag ac mae’n ffurfio rhan o amrywiaeth o opsiynau tai a fydd yn cynorthwyo i gyflawni Cynllun y Cyngor 2023-28. Pwysleisiwyd pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â pherchnogion eiddo gwag a gwasanaethau eraill i fynd i'r afael â thai gwag ac fe amlygodd yr Arweinydd astudiaethau achos a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a oedd yn dangos rhai o’r ymyraethau a roddwyd ar waith yn llwyddiannus er mwyn dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd fel tai cymdeithasol.

Wrth adrodd ar gynnwys y cynllun strategol dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai bod eiddo gwag yn wastraff o adnoddau, yn enwedig yn sgil y pwysau cynyddol ar y farchnad dai a’r farchnad rhentu sector preifat.  Nod y cynllun yw gweithio gyda pherchnogion eiddo gwag a’u hannog i ddod â hwy yn ôl i ddefnydd yn ddelfrydol drwy negodi a dod i gytundeb ond gydag adnoddau i gymryd camau gorfodi os oes angen a dim ond pan fydd pob dim arall wedi methu.  Mae’r Gwasanaeth Tai yn cydnabod mai gweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddelio gyda’r gwahanol agweddau ar eiddo gwag ac mae’r cynllun strategol wedi cael ei ddatblygu ar sail gweithio mewn partneriaeth.    Mae’r Gwasanaeth hefyd yn ceisio lleihau costau drwy ddefnyddio’r cymorth ariannol sydd ar gael drwy grantiau a benthyciadau gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â defnyddio Premiwm y Dreth Gyngor i sicrhau bod yr adnoddau a’r capasiti sydd ar gael, sydd yn weddol fach o’i gymharu â’r 525 o eiddo y llwyddwyd i ddod yn ôl i ddefnydd ers 2017, yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau.

Wrth ystyried y Cynllun Strategol Tai Gwag codwyd y materion canlynol gan y Pwyllgor

·      Yr heriau o ran annog perchnogion tai gwag yn y sector preifat i ymgysylltu â’r Cyngor.

·      Gan nodi bod 77 eiddo wedi cael eu cofnodi’n wag ers dros 10 mlynedd a 128 ers rhwng 5 a 10 mlynedd, roedd y Pwyllgor yn dymuno cael gwybod faint o eiddo gwag hirdymor a oedd wedi cael eu dychwelyd yn ô i ddefnydd ers 2017.

·      Sut mae’r Cynllun Strategol yn cyfrannu tuag at gyflawni blaenoriaethu Cynllun y Cyngor  2023-28

·      Pa mor ddibynnol ydi’r Cyngor ar bartneriaid a chyllid grant allanol er mwyn cyflawni’r Cynllun Strategol.

·      Gofynnodd y Pwyllgor am fanylion ynglŷn â threfniadau llywodraethiant y Cynllun mewn perthynas â’i fonitro a’i werthuso ynghyd â’r Cynllun Gweithredu pan fydd wedi’i gyhoeddi.  

Darparodd yr Arweinydd a’r Swyddogion gyngor pellach a sicrwydd i’r Pwyllgor fel a ganlyn –

·      Wrth baratoi’r Cynllun Strategol anfonwyd arolwg at berchnogion eiddo gwag tymor hir, oedd yn gyfanswm o 542 eiddo. Nid yw hyn yn cynnwys eiddo sy’n derbyn eithriadau’r Dreth Gyngor megis eiddo mewn profeb, perchnogion sy’n derbyn gofal yn rhywle arall neu mewn gofal preswyl/ysbyty, neu berchnogion dan gadwad. Cafwyd cyfradd ymateb o 16% i’r arolwg.  Mae’r adborth yn yr ymatebion a derbyniwyd wedi cynnig awgrymiadau defnyddiol iawn ac mae’r Gwasanaeth yn gweithio ar yr awgrymiadau hyn ar hyn o bryd. Yn aml iawn mae’r cyswllt cyntaf lle rhoddir cyngor a gwybodaeth yn ddigon i gymell perchnogion i ddod â’r eiddo’n ôl i ddefnydd. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cyfeirio perchnogion eiddo gwag at fenthyciadau a grantiau sydd ar gael ac mae’r Cyngor, ynghyd â 16 awdurdod lleol arall yng Nghymru, yn rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Er bod y Cyngor yn gwneud ei orau i gyfathrebu â pherchnogion eiddo gwag, ni all fynd i’r afael â phob eiddo ac mae’n ceisio targedu’r rhai mwyaf problemus.

Bu i’r Pwyllgor nodi canlyniadau’r Arolwg Eiddo Gwag ac roedd o’r farn nad oedd cyfradd ymateb o 16% yn awgrymu nad yw perchnogion eiddo gwag yn dymuno gweithio gyda’r Cyngor.

·      Mae’r Cyngor wedi llwyddo i adnewyddu eiddo gwag hir dymor megis yr Hen Glwb Cymdeithasol ym Miwmares. Fodd bynnag, roedd y trosiant mwyaf yn gysylltiedig ag eiddo sydd wedi bod yn wag rhwng blwyddyn a phum mlynedd gan fod angen llawer iawn o ddyfalbarhad i weithio gydag, ac yn aml iawn dod o hyd i, berchnogion eiddo sydd wedi bod yn wag am 10 mlynedd neu fwy. Er bod Premiwm y Dreth Gyngor yn cael ei godi ar eiddo gwag (gyda rhai eithriadau penodol), mae perchnogion eiddo sydd wedi bod yn wag am beth amser fel arfer yn gwneud cais i’r Swyddfa Brisio i gael tynnu’r eiddo oddi ar y rhestr Dreth Gyngor gan nad ydi’r eiddo’n addas i fyw ynddo mwyach ac felly mae’n anodd dod o hyd i berchnogion wedi hynny.

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai bod y Gwasanaeth Tai yn dal i weithio gyda pherchnogion rhai eiddo gwag sydd wedi’u heithrio rhag talu’r Dreth Gyngor a bod yr eiddo hyn wedi’u cynnwys yn ystadegau’r Gwasanaeth ac felly mae’n bosib bod y data’n wahanol i ddata’r Gwasanaeth Cyllid. Mewn ymateb i awgrym y dylid codi’r premiwm ar eiddo gwag problemus, cynghorwyd y Pwyllgor y byddai’n rhaid creu polisi lleol er mwyn caniatáu categoreiddio eiddo gwag o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

Holwyd pe byddai modd i’r Cyngor brynu eiddo gwag hirdymor sydd wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr Dreth Gyngor oherwydd ei gyflwr gan dybio bod hyn yn awgrymu bod y perchennog yn dymuno cael gwared ar yr eiddo cyn iddo ddirywio’n waeth. Cynghorwyd y Pwyllgor y byddai modd i’r Cyngor ddod i gytundeb gyda’r perchennog i brynu’r eiddo gwag hirdymor, cyn belled bod hynny’n economaidd hyfyw i’r Cyngor. Un enghraifft o ymyrraeth o’r fath yw’r gwaith i ail-ddatblygu Plas Alltran yng Nghaergybi. 

·      Mae’r Cynllun Strategol yn cyfrannu at gyflawni blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28 gan mai un o’i flaenoriaethau yw sicrhau bod gan bawb yr hawl i alw rhywle’n gartref ac mae’r cynllun strategol yn helpu i ddiwallu’r angen hwn a thrwy alluogi pobl i aros yn eu cymuned leol mae’r Cynllun hefyd yn cyfrannu at greu cyfleoedd i ddysgu a siarad Cymraeg. Mae’r incwm sy’n cael ei gynhyrchu drwy’r premiwm eiddo gwag yn cefnogi prynwyr tro cyntaf i brynu eiddo gwag ac mae’r adnodd hwnnw’n cael ei wario’n lleol ac yn cefnogi contractwyr a’r economi leol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r Gymraeg a chyswllt lleol cadarnhawyd, oherwydd bod cymaint o gynlluniau ar gael, bod y meini prawf yn amrywio ond mae bod â chyswllt lleol yn un o’r meini prawf ar gyfer y cynllun sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a’r Cynllun Cymorth Prynu ac mae'r manylion ar gael ar wefan y Cyngor.

·      Bod y broses o adfywio eiddo gwag yn un y mae’r Cyngor yn ei gwblhau drwy ymgysylltu’n effeithiol â pherchnogion eiddo gwag a’i fod yn ddibynnol ar Lywodraeth Cymru ar gyfer ymyraethau grant a benthyciadau yn ogystal â gweithio gyda gwasanaethau eraill i fynd i’r afael â’r eiddo mwyaf problemus.

Ar ôl craffu ar y Cynllun Strategol Eiddo Gwag ar gyfer 2023-28 a nodi ymateb Swyddogion i’r materion a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell y Cynllun Strategol Eiddo Gwag 2023-28 i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith. (Fe wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones atal ei bleidiais)

Gweithred – bod y Pwyllgor yn derbyn manylion ynglŷn â threfniadau llywodraethiant a Chynllun Gweithredu’r Cynllun Strategol Eiddo Gwag pan fyddant wedi cael eu cyhoeddi. 

 

Dogfennau ategol: