Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – VAR/2023/58 – Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

VAR/2023/58

 

12.2 – FPL/2023/287 – Siop 2, Maes Athen, Llanerchymedd

FPL/2023/287

 

12.3 – FPL/2023/291 – Ysgol, Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern

FPL/2023/291

 

12.4 – FPL/2023/273 – Ysgol Gynradd Llanfechell, Lôn Mynydd, Llanfechell

FPL/2023/273

 

12.5 – FPL/2023/297 – Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

FPL/2023/297

 

Cofnodion:

12.1  VAR/2023/58 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/50 (addasu ac ehangu ynghyd â chreu lle chwarae treftadaeth a thirweddu cysylltiedig) ym Mharc Gwledig Morglawdd Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cyngor Sir yw ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y safle arfaethedig wedi'i leoli o fewn Parc Gwledig y Morglawdd ac mae canolfan wybodaeth ymwelwyr y warden presennol yn adeilad un llawr gyda cherrig naturiol a waliau wedi'u rendro gyda tho llechi naturiol.  Mae'r cais yn gais ôl-weithredol i gadw’r newidiadau a wnaed i’r adeilad, gan gynnwys adeiladu to’r estyniad a ganiatawyd yn flaenorol yn lefel â tho’r adeilad presennol, symud paneli solar a ganiatawyd yn flaenorol i leoliad newydd ar y to, lleihau maint y ffenestr to yng nghefn yr adeilad ynghyd â pheidio â chynnwys ffenestr yn y to ar flaen yr adeilad.  Y gwahaniaeth rhwng uchder to’r estyniad a gymeradwywyd yn flaenorol a’r to presennol oedd 0.25m.  Mae'r gwaith ar y safle o safon uchel ac mae'r ganolfan ymwelwyr a'r ardal chwarae plant yn boblogaidd gydag ymwelwyr â'r safle.  Trafodwyd y cais gyda'r Cynghorwyr Treftadaeth perthnasol ac ni chafwyd gwrthwynebiad oherwydd ystyrir mai mân amrywiadau yw’r rhai a gynigir a’u bod yn annhebygol o gael effaith sylweddol ar yr ardal.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R Ll Jones y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y cynnig i’w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.2  FPL/2023/287 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd hen siop (Dosbarth Defnydd A1) i neuadd amlbwrpas (Dosbarth Defnydd D1) yn Siop 2, Maes Athen, Llannerch-y-medd

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle'r cais yn eiddo i'r Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod hwn yn gais ar gyfer newid defnydd hen siop i neuadd amlbwrpas at ddefnydd y gymuned leol.  Mae safle'r cais wedi'i leoli o fewn ffin ddatblygu pentref gwasanaeth Llannerch-y-medd ac felly mae'n cydymffurfio â pholisi cynllunio ISA2 fel y nodir yn adroddiad y Swyddog.  Er bod lleoliad y cynnig o fewn canol ffin ddatblygu'r pentref, ystyrir ei bod yn hawdd ei gyrraedd ar droed neu drwy ddulliau trafnidiaeth eraill.  Fodd bynnag, mae yna lefydd parcio hefyd yn hen faes parcio'r orsaf sydd hefyd yn safle sy'n cael ei redeg gan y gymuned.  Yng nghefn yr hen siop mae 3 lle parcio ac mae parcio digyfyngiad hefyd o fewn ffordd Maes Athen.  Nododd y bydd yr adeilad presennol o raddfa a dyluniad priodol ar gyfer y newid defnydd arfaethedig, ac ni fydd yn cael mwy o effaith ar yr eiddo cyfagos na'r busnes siop blaenorol ar y safle. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd John I Jones y cynnig i’w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.3  FPL/2023/291 – Cais llawn i newid defnydd y byngalo gofalwr presennol at ddibenion addysgol yn Nhŷ’r Ysgol, Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern

 

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cyngor Sir yw ymgeisydd a pherchennog y tir. 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod hwn yn gais ar gyfer newid defnydd y byngalo gofalwr gwag i fod yn ystafelloedd dosbarth ychwanegol er mwyn darparu cyfleusterau ychwanegol fel canolfan cefnogi disgyblion.  Mae'r eiddo'n annedd unllawr ar wahân sydd ar dir Ysgol Uwchradd Bodedern ac sydd o fewn ffin ddatblygu Bodedern. Ystyrir bod y cais yn cydymffurfio â pholisi cynllunio ISA 2 'Cyfleusterau Cymunedol' fel y nodir yn adroddiad y Swyddog i'r Pwyllgor.  Mae pellter o dros 70 metr rhwng cefn yr eiddo a stad Maes Gwynfa, a leolir i’r gogledd i safle’r cais.  Mae pellter o 8.5m rhwng ffin yr eiddo sy'n wynebu Ffordd Llundain a mwy na 30m rhwng yr adeilad a chefn yr eiddo. Ystyrir na fydd y cynnig yn cael effaith niweidiol ar amwynderau eiddo cyfagos. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Alwen Watkin y cynnig i’w gymeradwyo. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.4  FPL/2023/273 - Cais llawn i godi uned fodiwlaidd newydd ar gyfer gofal plant yn Ysgol Gynradd Llanfechell, Ffordd y Mynydd, Llanfechell

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cyngor Sir yw ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod safle'r cais yn rhan o ardal cae chwarae y tu allan, sydd wedi’i leoli yng nghwrtil Ysgol Gynradd Llanfechell.  Bydd y ddarpariaeth gofal plant newydd yn ased pwysig i'r ysgol a bydd yn darparu cyfleusterau hanfodol i'r gymuned leol.  Ystyrir y bydd y cais yn cydymffurfio â pholisi cynllunio ISA 2 fel y nodir yn adroddiad y Swyddog i'r Pwyllgor.  Bydd dyluniad o ansawdd uchel gyda chyfuniad o gladin dur a choed, ffenestri a drysau llwyd UPVC, ynghyd â tho fflat rwber. Bydd ardal awyr agored i orllewin yr adeilad, yn cynnwys dwy ardal chwarae feddal rwber ac ardal chwarae wyrdd gyda ffens diogelwch 2m o uchder o’i amgylch. Bydd yr adeilad a’r ardal awyr agored yn cael eu gweld yng nghyd-destun adeiladau presennol yr ysgol, ac ystyrir bod y deunyddiau yn dderbyniol yn y lleoliad hwn. Gan y bydd yr adeilad ar dir yr ysgol ac yn cael ei weld yng nghyd-destun adeiladau presennol yr ysgol, ystyrir na fydd yn cael llawer o effaith ar yr eiddo cyfagos. Bydd yr uned gofal plant yn defnyddio'r maes parcio cyhoeddus presennol i'r gogledd-ddwyrain o'r ysgol sydd ag 20 o lefydd parcio ceir. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd John I Jones y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Neville Evans y cynnig i’w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.5  FPL/2023/297 – Cais llawn ar gyfer creu maes parcio yn cynnwys unedau gwefru EV, cabinet, estyniad i'r llwybr troed, golau, tirlunio ynghyd â gwaith  cysylltiedig ar dir yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cyngor Sir yw ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai'r datblygiad arfaethedig yn darparu cymysgedd o unedau gwefru dwbl chwim a chyflym ar gyfer cerbydau trydan ar dir yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur.  Bydd cyfanswm o 8 llefydd parcio yn cael eu darparu.  Mae'r safle'n cynnwys ardal o tua 0.23 hectar o dir nas defnyddir gyferbyn â mynedfa Canolfan Hamdden Plas Arthur.  Bydd lleoliad y fynedfa arfaethedig i'r safle yn dod o'r ffordd fynediad bresennol i Ganolfan Hamdden Plas Arthur.  Mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon gyda'r trefniadau parcio a gwelededd.  Mae'r cynnig yn cydymffurfio â'r holl bolisïau perthnasol a restrir yn adroddiad y Swyddog i'r Pwyllgor ac ystyrir na fydd yn cael effaith negyddol ar yr Adeiladau Rhestredig / Ardal Gadwraeth gerllaw nac eiddo preswyl cyfagos.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Neville Evans y cynnig i’w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: