Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol Adnoddau ac Ail-gylchu - 2023-2028

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu 2023-2028 yn cefnogi prif uchelgeisiau’r Cyngor yng Nghynllun y Cyngor.  Mae Cynllun y Cyngor yn nodi bod angen i'r Cyngor gyrraedd cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2028 a chyrraedd y targed o allyriadau carbon sero-net erbyn 2030.  Nododd fod dyletswydd ar bob preswylydd a thwristiaid i leihau gwastraff a chynyddu cyfraddau ailgylchu.  Mae gan y Cyngor berthynas waith dda gyda sefydliadau partner o fewn CLlLC, Llywodraeth Cymru ac WRAP Cymru i helpu i gyrraedd y cyfraddau targed hyn o ailgylchu o 70%. Ar hyn o bryd y cyfraddau ailgylchu presennol ar Ynys Môn yw 64% (gall amrywio yn ystod gwahanol gyfnodau o fewn y flwyddyn).  Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at yr ymgynghoriad cyhoeddus diwethaf a gynhaliwyd am chwe wythnos rhwng 11 Medi a 20 Hydref, 2023.  Cynlluniwyd yr ymgynghoriad i gasglu adborth ar y ffrydiau gwaith allweddol i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mwy o wastraff cartref. Cafwyd ymateb gan bron i 200 i'r broses ymgynghori (tynnwyd sylw at yr ymateb a dderbyniwyd yn y ddogfen ymgynghori sy'n gysylltiedig â'r adroddiad).   Dywedodd ymhellach fod cyfeiriad wedi'i wneud nad yw'r blwch ailgylchu i ddal cardbord yn ddigonol a bod angen ystyried ffyrdd eraill o gasglu cardbord h.y. rhoi sachau ar gyfer cardbord ychwanegol.   Nododd ymhellach fod angen ail-addysgu pobl am bwysigrwydd ailgylchu ac yn enwedig y genhedlaeth iau .

 

Dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff mai'r prif flaenoriaethau strategol yw lleihau gwastraff, cynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau tipio anghyfreithlon, gwella lefel glanhau strydoedd ynghyd â gwella cyfraddau ailgylchu a gwastraff o fewn adeiladau'r Cyngor.  Nododd hefyd, er mwyn darparu gwasanaethau sy'n addas ar gyfer y dyfodol, y bydd angen fflyd effeithlon o gerbydau allyriadau isel iawn - bydd angen eu trosglwyddo o gerbydau disel i gerbydau trydan i gasglu gwastraff ac ailgylchu ynghyd â'r peiriannau o fewn y safle ailgylchu yng Ngwalchmai a Phenhesgyn yn y dyfodol.  Dywedodd ymhellach fod y broses ymgynghori yn cefnogi'r angen i gynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau'r gwastraff bin du.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol::-

 

·         Cyfeiriwyd at amcanion y Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu gan ddweud ei fod yn uchelgeisiol.  Codwyd cwestiynau ynghylch beth arall y gall y Cyngor ei wneud i gyflawni'r gyfradd ailgylchu statudol o 70% erbyn 2020.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff fod y gyfradd ailgylchu o 70% yng Nghymru yn uchel a bod trigolion yr Ynys eisoes wedi gallu cyflawni lefel ailgylchu o 64%.  Nododd y bydd angen edrych ar ffyrdd eraill o ailgylchu gan godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ailgylchu ac ystyried ffyrdd eraill o sicrhau bod popeth y gellir ei ailgylchu yn cael ei ailgylchu.  Mae dadansoddiad wedi'i wneud o gynnwys gwastraff y bin du ac mae deunyddiau y gellir eu hailgylchu o hyd o fewn y biniau du.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd y Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu yn helpu'r Cyngor i gyflawni ei ymrwymiad i fod yn garbon sero-net

erbyn 2030.  Codwyd cwestiynau pellach ynghylch a yw targed carbon sero-net 2030 Llywodraeth Cymru yn uchelgeisiol o ystyried yr economi ariannol. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff fod Cynllun Strategol Cymru hefyd yn nodi bod y rheswm dros ailgylchu yn bwysig fel bod targedau carbon sero-net yn cael eu cyrraedd a bydd angen ymchwilio i sut mae'r deunydd ailgylchadwy yn cael ei gasglu gyda'r angen am gerbydau trydan a hydrogen.  Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae cerbydau hydrogen yn cael eu datblygu gan ei fod yn rhan o dechnoleg newydd.   Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi ymrwymo i gyrraedd y targedau carbon sero-net erbyn 2030. Fodd bynnag, bydd cyrraedd y targed yn dibynnu ar adnoddau ariannol.  Cyfeiriodd at y 3 elfen yn y Cynllun Strategol h.y. mae angen datgarboneiddio adeiladau'r Cyngor os oes adnoddau ariannol ar gael, ond roedd o'r farn bod gan yr Awdurdod sawl adeilad hanesyddol y mae angen ystyried eu defnyddio yn y dyfodol. Mae angen ymchwilio i gynllun y fflyd ond mae hynny eto yn dibynnu ar adnoddau cyfalaf. Byddai proses dendro Cymru gyfan yn lleddfu baich costau awdurdodau lleol.  Bydd angen ymchwilio hefyd i fesurau caffael i sicrhau bod sefydliadau partner yn y sector preifat wedi ymrwymo i fod yn garbon sero-net.

·         Cyfeiriwyd at yr ymateb i'r broses ymgynghori a gynhaliwyd fel rhan o'r Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu.  Codwyd cwestiynau ynghylch y ganran a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad ac a oedd y ffaith mai dim ond 22% a ymatebodd yn cael ei ystyried yn ganran siomedig. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff fod y broses ymgynghori wedi'i chynnal trwy wefan y Cyngor a'i hyrwyddo drwy'r sianeli cyfryngau cymdeithasol.  Fe'i rhannwyd hefyd ymhlith fforymau cymunedol heneiddio'n dda Ynys Môn.  Dywedwyd ymhellach fod chwarter yr ymatebwyr o'r farn bod y gwasanaeth yn wael/gwael iawn.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Strategaeth Gwasanaeth a Busnes fod 75 o ymatebwyr wedi dweud bod y 'blychau troli ailgylchu' yn hawdd eu torri, nad oedd digon o le yn y blychau ar gyfer cardbord a phlastigion, bod sbwriel ar y strydoedd yn sgil casglu'r deunyddiau ailgylchu a bod pobl yn ansicr beth y gallant ei ailgylchu.   Nododd fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda WRAP Cymru i adolygu'r ddarpariaeth ar hyn o bryd.

·         Cyfeiriwyd yn ystod y broses ymgynghori at yr angen am focs gyda mwy o le ynddo i gasglu cardbord.  Codwyd cwestiynau ynghylch y ffaith na fu sôn am faint annigonol y bin bwyd brown gan y gellid arbed gwastraff bwyd rhag gorfod cael ei waredu i safleoedd tirlenwi gan gyfrannu at gynyddu allyriadau carbon.   Gwnaed sylwadau pellach fod nifer y biniau bwyd brown a oedd yn cael eu rhoi allan i'w casglu yn isel.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff fod dadansoddiad wedi'i wneud i wastraff bwyd mewn biniau du.  Er y cydnabyddir y dylid osgoi gwastraff bwyd, mae angen i'r Awdurdod ganolbwyntio ar wahanol ffyrdd o gasglu gwastraff bwyd.  Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Dudalen 10 o'r blaenoriaethau strategol sy'n canolbwyntio ar y ffordd ymlaen o ran ailgylchu a gwaredu gwastraff.  Nododd fod y Cynllun Strategol yn adnodd corfforaethol ar draws gwasanaethau'r Cyngor o ran addysgu a chyfathrebu â'r cyhoedd ynghylch yr angen i ailgylchu a lleihau gwastraff.  Awgrymodd y dylai'r Pwyllgor argymell i'r Pwyllgor Gwaith fod angen cynnal dadansoddiad pellach ar y mater hwn.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch sut y gellir casglu gwastraff ychwanegol drwy gael mwy o finiau casglu ar strydoedd.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff fod dros 600 o finiau casglu ar strydoedd ar yr Ynys; mae 15 bin sydd â chyfleusterau ailgylchu ar gyfer gwahanu gwastraff.   Nododd fod safon yr ailgylchu o fewn y biniau hyn yn wael oherwydd halogiad sy'n arwain at anawsterau ailgylchu.  Er bod rheoli'r cyfleusterau hyn yn her, mae angen gosod cyfleusterau ychwanegol mewn ardaloedd pellach ar yr Ynys dros y blynyddoedd nesaf.  Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylai'r Pwyllgor argymell i'r Pwyllgor Gwaith y dylid gosod rhagor o finiau casglu ar gyfer ailgylchu ar strydoedd, yn enwedig yng nghanol trefi ac ardaloedd arfordirol.  At hynny, dywedodd fod cysylltiad hefyd rhwng y Cynllun Cyrchfan a Chynllun AHNE yr Awdurdod.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch pa risgiau a nodwyd a allai effeithio ar gyflawni'r Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff mai'r prif risg i'r Cynllun Strategol yw adnoddau cyfalaf a bod newidiadau mawr o'n blaenau oherwydd bod angen newid y fflyd i gerbydau trydan/hydrogen, newid y biniau a'r gwasanaethau a ddarperir a chynnal y gwasanaethau presennol.  Dywedodd ymhellach fod risgiau i unrhyw newidiadau a allai ddigwydd i ddeddfwriaeth ac y gellid wynebu dirwyon os na chyrhaeddir targedau.  Mae'r deunyddiau sy'n cael eu hailgylchu ar hyn o bryd yn cael eu gwerthu i gynhyrchu incwm i ariannu'r gwasanaeth ond gall y farchnad ar gyfer deunyddiau o'r fath amrywio.  Codwyd cwestiynau pellach ynghylch y goblygiadau ariannol i'r Cyngor yn sgil gweithredu'r Cynllun Strategol.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddfog Rheoli Gwastraff bod goblygiadau ariannol cyfalaf enfawr fel y nodwyd o'r blaen ac mae angen buddsoddi adnoddau ariannol yn y seilwaith a mynd i'r afael ag unrhyw newidiadau i Reoliadau Iechyd a Diogelwch yn y dyfodol. 

·         Codwyd cwestiynau ynghylch a oes goblygiadau o ran costau os nad yw'r deunyddiau ailgylchu yn cael eu golchi a ph’un ai a yw'n ddiwerth.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff fod mwyafrif y preswylwyr yn cydymffurfio â'r gofyniad i olchi eu deunyddiau ailgylchu ond os yw safon yr ailgylchu yn wael yna mae gwerth yr ailgylchu yn lleihau.  Gwnaed sylwadau pellach ei bod yn ymddangos bod cynnydd mewn cyfleusterau 'tec-awe' yng nghanol trefi.  Codwyd cwestiynau ynghylch a ellir gosod amod cynllunio bod angen darparu bin gwastraff ynghlwm wrth unrhyw gais cynllunio a gymeradwyir ar gyfer siopau 'tec-awe'.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff y byddai'n croesawu amod o'r fath ar fusnes ‘tec-awe’, fodd bynnag, byddai angen gwahanu'r gwastraff pecynnu hefyd i'r blychau ailgylchu cywir.

·         Cyfeiriwyd o fewn y Cynllun Strategol at y ffaith bod angen mynd i'r afael â thipio anghyfreithlon.  Codwyd cwestiynau fel sut y gellir mynd i'r afael â hyn ar draws yr Ynys a faint sydd wedi cael eu herlyn am achosion o dipio anghyfreithlon y llynedd.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff nad oedd unrhyw achos o erlyniad am dipio anghyfreithlon ar yr Ynys y llynedd.  Nododd fod nifer yr erlyniadau am achosion o dipio anghyfreithlon mewn unrhyw awdurdod lleol drwy’r llys yn isel gan fod angen adnoddau i orfodi gorfodaeth ac i sicrhau tystiolaeth ac erlyn achosion o dipio anghyfreithlon.   Fodd bynnag, mae angen mesurau gorfodi i leihau tipio anghyfreithlon gan ei fod yn cael effaith negyddol ar drefi a chymunedau ac mae angen cyfleu bod tipio anghyfreithlon yn annerbyniol. Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Gwasanaeth a Busnes eu bod ar hyn o bryd yn ystyried cynyddu'r gosb ariannol am dipio anghyfreithlon sydd ar hyn o bryd yn £75 o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru sy'n codi rhwng £200 a £400.  Codwyd cwestiynau pellach ynghylch a ellid lleoli cyfleuster ailgylchu yng Nghaergybi gan ei bod yn ymddangos bod tipio anghyfreithlon yn uwch yn yr ardal hon. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff nad oes safleoedd ychwanegol wedi'u cynllunio ar Ynys Môn ar hyn o bryd.  Dywedodd y Prif Weithredwr nad oes gan rai pobl y modd i fynd â'u deunyddiau ailgylchu i'r ganolfan ailgylchu.  Nododd fod 'sgipiau cymunedol' wedi bod yn boblogaidd am sawl blwyddyn yn y cymunedau.  Mae'r Cyngor yn gweithio gyda sefydliad partner Cadwch Gymru'n Daclus mewn ardaloedd arfordirol ac mae gwirfoddolwyr yn helpu i glirio gwastraff.  Dywedodd y gallai gwahanol agweddau ar gyfleusterau ailgylchu gael eu trafod o dan y Cynllun Ffyniant a Rennir.

 

·         PENDERFYNWYD:-

 

·         Nodi’r Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu 2023-2028;

·         Argymell i’r Cyngor fabwysiadu’r Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu 2023-2028.

 

CAMAU GWEITHREDU:

 

  • Bod y Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu yn cynnwys y cynnydd mewn cyfraddau ailgylchu bwyd fel camau penodol;
  • Bod angen ystyried, pan fydd ceisiadau cynllunio yn cael eu cyflwyno ar gyfer siopau bwyd cyflym, bod angen darparu bin gwaredu gwastraff; 
  • Nodi bod ailgylchu a gwastraff yn gyfrifoldeb corfforaethol ar draws nifer o Wasanaethau'r Cyngor ac y dylid cynnal ymgyrchoedd Cadwch Ynys Môn yn Daclus i addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd ailgylchu;
  • Mae ailgylchu gwastraff biniau yn ein trefi a'n cymunedau arfordirol yn agwedd sydd angen sylw pellach ac mae'n fater sy'n gysylltiedig â chynlluniau strategol eraill megis y Cynllun Rheoli Cyrchfan, Cynllun Rheoli AHNE.

 

Dogfennau ategol: