Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn: 2022/23

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, yn absenoldeb yr Aelod Portffolio fod yr Adroddiad Blynyddol yn rhoi cyfle i weld yr ystadegau a'r heriau gan fod gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i ddiogelwch cymunedol. 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol::-

 

·         Codwyd cwestiynau i ba raddau y mae'r Pwyllgor yn cytuno â blaenoriaethau'r Bartneriaeth, sy'n seiliedig ar broses asesu anghenion lleol, ac a oes materion eraill y mae angen eu blaenoriaethu.  Codwyd cwestiynau pellach wrth i'r adroddiad gyfeirio at y newidiadau mewn adrodd ac o ran sut mae'n bosibl cael darlun cywir o unrhyw welliant neu ddirywiad mewn cymunedau unigol. Mewn ymateb, dywedodd Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn fod blaenoriaethau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn o fewn y Cynllun Gweithredu yn seiliedig ar strategaeth ranbarthol gan Fwrdd Gogledd Cymru Mwy Diogel. Ffocws y Bwrdd yw sicrhau bod Gwynedd a Môn yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef .  Mae Strategaeth y Bartneriaeth hefyd yn cael ei dylanwadu gan Asesiad Strategol yr Heddlu ac mae’n adrodd ar y materion troseddol yn yr ardal. Mae'r Strategaeth yn gosod fframwaith o flaenoriaethau ar gyfer yr holl sefydliadau sy’n rhan o’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.  Nododd fod y newidiadau i'r broses gofnodi wedi eu hamlygu yn yr adroddiad a bydd gan yr Heddlu gyfnod estynedig i flaenoriaethu dioddefwyr troseddau heb orfod dyblygu cofnodion.  Bydd hyn yn sicrhau dull cyson o gofnodi ar draws y DU sy'n fwy cywir na'r system flaenorol.  Nododd ymhellach fod Gogledd Cymru mewn lle cadarnhaol o ran lleihau troseddau.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch pa ffyrdd y mae'r bartneriaeth statudol yn ychwanegu gwerth ac yn gweithio mewn modd effeithiol ac effeithlon yn unol â disgwyliadau Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998.  Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol o dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 fod dyletswydd ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i weithio'n agos gyda'i sefydliadau partner i sicrhau mwy o gydweithio a rhannu gwybodaeth.  Nododd fod gwahanol feysydd gwaith yn cael eu gwneud gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ac mae'r awdurdodau lleol mewn gwell sefyllfa i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a allai godi.  Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr, fel Cadeirydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, fod gwaith yn cael ei wneud ar broses strategol i godi ymwybyddiaeth o wahanol faterion pryder na fyddent fel arall wedi bod yn ymwybodol ohonynt, a bod modd gweithredu’n bwrpasol a gwella’r modd yr ymdrinnir â materion trosedd a allai godi. Cyfeiriwyd ymhellach gan y Pwyllgor ei fod yn nodi yn yr adroddiad nad yw'r Swyddfa Gartref yn cydnabod ymddygiad gwrthgymdeithasol fel trosedd, ond mae Awdurdod yr Heddlu yn cydnabod bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn drosedd.  Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ei bod yn deall nad yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei gofnodi fesul achos ond ei fod yn cael ei gofnodi ar sail faint o alwadau sy'n cael eu derbyn gan Ystafell Reoli'r Heddlu.  Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ei fod yn bwriadu gwahodd yr Heddwas sy'n mynychu'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i'r cyfarfod hwn wrth drafod yr Adroddiad Blynyddol yn y Pwyllgor hwn maes o law.

·         Cyfeiriwyd at y cynnydd yr adroddwyd amdano mewn dwyn o siopau yn y cyfryngau yn ddiweddar ac mae manwerthwyr yn cwyno nad yw'r Heddlu yn bresennol mewn unrhyw ddigwyddiadau’n ymwneud â dwyn o siopau.  Codwyd cwestiynau ynghylch a yw dwyn o siopau ar gynnydd yn Ynys Môn a ledled Cymru gan nad yw dwyn o siopau’n cael ei gofnodi a ph’un ai a oes Tasglu am gael ei sefydlu i leihau achosion o ddwyn o siopau.   Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ei bod yn ymwybodol bod dwyn o siopau manwerthu yn flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru ac mae gwaith wedi'i wneud gydag archfarchnadoedd o ran cynllun siopau i sicrhau nad yw eitemau gwerth uchel yn cael eu gosod ger y drysau allan.  Dywedodd hefyd fod Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn targedu prif droseddwyr i ddeall y rhesymau dros ddwyn o siopau ac i newid patrymau ymddygiad.  Cynhaliwyd Wythnos Gweithredu Busnes Mwy Diogel gan yr Heddlu yn ddiweddar gydag archfarchnadoedd gan eu hannog i gysylltu â'r Heddlu i gael cyngor a chefnogaeth ac i fynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol a mynych. Nododd fod tuedd i weld cynnydd mewn dwyn o siopau yn ystod cyfnod y Nadolig ac mae gwaith wedi'i wneud ar draws yr heddlu i baratoi ar gyfer hyn. 

·         Codwyd cwestiynau ynghylch a oes gostyngiad yn nifer y troseddau a adroddwyd yn sgil y ffaith nad yw dioddefwyr yn adrodd am droseddau gan eu bod yn credu na fydd yr Heddlu yn bresennol.  Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ei fod yn fodlon trafod y mater gyda'r Heddlu.

·         Cyfeiriwyd at achosion o dwyll dros y ffôn ac ar-lein. Codwyd cwestiynau ynghylch a yw digwyddiadau o'r fath yn cynyddu ar Ynys Môn gan fod twyllwyr yn defnyddio'r Gymraeg wrth ffonio pobl. Nodwyd bod yr Adran Safonau Masnach yn trefnu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o dwyll dros y ffôn ac ar-lein. Gall Facebook a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol hefyd fod yn ddull o rannu rhybuddion i’r gymuned am dwyllwyr sy'n ffonio pobl. Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol fod achosion o dwyll dros y ffôn ac ar-lein wedi cynyddu'n sylweddol yn y DU ac yn enwedig targedu pobl oedrannus sy'n agored i niwed.  Nododd fod twyll dros y ffôn ac ar-lein yn flaenoriaeth gan yr Heddlu. Rhoddwyd hyfforddiant y llynedd i'r Swyddogion yn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol sy'n delio â digwyddiadau ac i gefnogi dioddefwyr.  Pwysleisiodd y Prif Weithredwr fod gan yr Awdurdod rwydwaith Oed-gyfeillgar ac mae angen tynnu sylw at rannu gwybodaeth am dwyll dros y ffôn ac ar-lein a dargedir ar yr henoed a phobl agored i niwed.

 

PENDERFYNWYD Nodi cynnwys yr adroddiad a’r dogfennau atodol, a nodi a yw’r Pwyllgor Sgriwtni yn cefnogi’r blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.

 

 

CAM GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: