Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod penderfyniad wedi'i wneud i beidio â chyflwyno cais yn y Rhaglen Ffyniant Bro gyntaf oherwydd bod yr amserlen i ddatblygu cais manwl digonol yn afrealistig. Yn hytrach, penderfynwyd canolbwyntio ar wahodd datganiadau o ddiddordeb gan bartneriaid allanol ar gynlluniau y gellid eu cyflawni mewn cydweithrediad â'r Cyngor Sir i baratoi ar gyfer ail gylch y Gronfa Ffyniant Bro. Yn ystod yr asesiad, daeth i'r amlwg mai dim ond cais yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghenion economaidd-gymdeithasol Caergybi fyddai'n debygol o fodloni gofynion penodol Llywodraeth y DU a chael unrhyw siawns o fod yn llwyddiannus. Cyflwynwyd cyfanswm o 5 datganiad o ddiddordeb o Gaergybi a oedd yn cynnwys Cymunedau Môn yn Gyntaf a'r Cyngor Tref; Yr Eglwys yng Nghymru; Canolfan Ucheldre; Amgueddfa Forwrol a Chyngor Sir Ynys Môn – Adfywio Treftadaeth. Nododd fod adroddiad cynnydd wedi'i baratoi sy'n cynnwys y trefniadau llywodraethu ar gyfer y rhaglen gyda threfniadau rheoli llym ar waith i sicrhau rheolaeth ariannol, cydymffurfiaeth a rheoli risg. Dymunai'r Arweinydd ddiolch i'r staff a fu'n rhan o'r prosiect am y gwaith o gyflawni'r cais llwyddiannus hwn.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol:-
· Codwyd cwestiynau ynghylch sut y caiff prosiectau’r Gronfa Ffyniant Bro eu mesur o ran allbynnau uniongyrchol ac anuniongyrchol. Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Rhaglen Ffyniant Bro fod trefniadau llywodraethu cadarn yn cael eu cyflwyno ar ddechrau'r broses gais i Lywodraeth y DU a oedd hefyd yn cynnwys sefydlu Bwrdd Rhaglen mewn partneriaeth â'r sefydliadau partner. Nododd fod y Bwrdd yn cyfarfod yn rheolaidd bob chwe wythnos i sicrhau bod adroddiadau monitro a chynnydd yn cael eu trafod yn enwedig mewn meysydd fel caffael er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â rheoliadau. O ran manteision uniongyrchol i ardal Caergybi, ystyrir diwylliant y dref h.y. Eglwys Sant Cybi; ailddatblygu adeiladau gwag i’w defnyddio unwaith eto; uwchraddio'r siopau yng nghanol y dref; cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol yn yr ardal. Nododd mai'r manteision anuniongyrchol yw'r defnydd ychwanegol o fuddion cymunedol yng nghanol y dref; llongau mordeithio yn ymweld â'r dref; cynyddu awyrgylch cyffredinol y dref i ddenu ymwelwyr.
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod 5 prif risg sy'n gysylltiedig â'r rhaglen yn cael eu trafod yn yr adroddiad. Codwyd cwestiynau ynghylch pa gamau sydd yn eu lle i reoli a lliniaru'r risgiau hyn? Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr y Rhaglen Ffyniant Bro fod camau llywodraethu cynhwysfawr wedi'u rhoi ar waith o fewn y broses graffu. Mae cofrestr risg gorfforaethol wedi'i sefydlu sy'n cael ei monitro'n rheolaidd gan Fwrdd y Rhaglen. Dywedodd y Prif Weithredwr fel Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen, mai'r prif risg yw caffael, a bod y rhaglen yn cael ei monitro i sicrhau bod modd ei chyflawni o ran costau ac yn unol ag amserlen benodol cyllid y Gronfa Ffyniant Bro. Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor ei bod yn anodd craffu ar raglen y Gronfa Ffyniant Bro ar hyn o bryd gan y bydd mwy o fanylion ar gael ym mis Mawrth i'r Pwyllgor hwn wrth i'r prosiectau ddatblygu ac unrhyw risgiau cysylltiedig.
· Codwyd cwestiynau ynghylch a fyddai ardaloedd gwahanol o fewn Ynys Môn yn elwa o drydedd cylch cyllid y Gronfa Ffyniant Bro (prosiectau a ddaeth yn ail o fewn ail gam y cyllid). Dywedodd y Prif Weithredwr fod y prosiectau yng Nghaergybi wedi eu cymeradwyo oherwydd eu bod yn barod i symud ymlaen. Mae Llywodraeth y DU bellach wedi diwygio'r gyllideb ar gyfer cyllid y Gronfa Ffyniant Bro ac yn ystyried y prosiectau o fewn yr ail gam a oedd yn aflwyddiannus ac nid oes unrhyw ardal wedi cyllid o’r Gronfa Ffyniant Bro fwy nag unwaith.
· Cyfeiriwyd at y ffaith fod y Rhaglen yn trafod rôl sylweddol partneriaid allanol yn y broses o gwblhau Rhaglen y Gronfa Ffyniant Bro yn llwyddiannus. Codwyd cwestiynau ynghylch sut mae'r Cyngor yn gweithio gyda'i gilydd ac yn eu cefnogi i sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn a llwyddiannus. Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Rhaglen y Gronfa Ffyniant Bro fod y prif sefydliad partner yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni'r ceisiadau sydd hefyd yn fanteisiol i'w ceisiadau. Mae cyfarfod gyda'r sefydliadau partner yn cael ei drefnu bob mis lle mae cyfle i godi unrhyw bryderon. Nododd eu bod fel Swyddogion yn gweithio yn nhref Caergybi ddwywaith yr wythnos, sy'n caniatáu i unrhyw sefydliadau partner allu gofyn am gymorth ar unrhyw fater. Mae swyddogion y Cyngor yn cyfarfod Swyddogion Llywodraeth y DU bob mis i sicrhau bod y prosesau’n cydymffurfio â gofynion cyllid y Gronfa Ffyniant Bro.
· Codwyd cwestiynau ynghylch pa sicrwydd y gellir ei roi y bydd yr holl gronfa yn cael ei gwario'n llwyddiannus, gan sicrhau cydymffurfiaeth a gwerth am arian. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rhaglen y Gronfa Ffyniant Bro fod yr amserlen i wario cyllid y Gronfa Ffyniant Browedi’i chyfyngu (Mawrth 2025) gyda phwysau ar bob un o'r sefydliadau partner i allu gwario'r cyllid o fewn yr amserlen.
· Codwyd cwestiynau ynghylch pa drefniadau sydd ar waith ar gyfer y broses ymgeisio a pha drefniadau sydd ar waith i sicrhau tryloywder. Codwyd cwestiynau pellach a fyddai cwmnïau adeiladu lleol yn cael gwneud cais am y prosiectau. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd fod y broses ymgeisio wedi'i chynnal yn 2022 gyda phroses mynegi diddordeb yn dilyn hynny er mwyn galluogi partneriaid allanol i gyflwyno prosiectau posibl ar gyfer cyllid y Gronfa Ffyniant Bro. Cafodd y prosiectau eu hasesu yn erbyn meini prawf Llywodraeth y DU, ac roedd yn amlwg mai prosiectau Caergybi oedd yr unig brosiectau a fyddai'n llwyddiannus. Mae manylion y prosesau a wnaed yn cydymffurfio â disgwyliadau Llywodraeth y DU. Nodwyd bod yr holl gontractau ar gyfer y prosiectau adeiladu ar gael ar wefan 'Gwerthwch i Gymru' a chynhaliwyd digwyddiad prynwr hefyd ym mis Mehefin 2023 yng Ngwesty Bae Trearddur lle gwahoddwyd contractwyr ar draws Gogledd Cymru.
· Cyfeiriwyd yn yr adroddiad at y ffaith y gallai 65 o gyfleoedd cyflogaeth gael eu creu yn sgil prosiectau’r Gronfa Ffyniant Bro. Codwyd cwestiynau ynghylch a yw'r swyddi hyn ar gael i bobl leol a pha fath o swyddi y rhagwelir y bydd ar gael. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rhaglen y Gronfa Ffyniant Bro y rhagwelir y bydd y swyddi o fewn maes lletygarwch a manwerthu, ond mae’n rhy gynnar o fewn y broses i gyfeirio'n benodol at fanylion cyflogaeth ar hyn o bryd. Nododd fod Cyngor Tref Caergybi wedi hysbysebu'n ddiweddar am gyfleoedd busnes newydd ar Draeth Newry a rhagwelir y bydd y busnesau hyn yn arwain at gyfleoedd cyflogaeth newydd yn nhref Caergybi.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi cynnydd o ran datblygu a chyflawni rhaglen y Gronfa Ffyniant Bro yng Nghaergybi;
· Nodi y gweithredir Rhaglen y Gronfa Ffyniant Bro yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU;
· Cydnabod rôl y Cyngor wrth gefnogi partneriaid cyflawni’r rhaglen.
CAM GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.
Dogfennau ategol: