Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd Siwrnai y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn nodi hynt y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a'r Gwasanaethau Oedolion, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion Gwasanaethau Cymdeithasol wedi’i atodi ynghyd â Chylchlythyr Oed Gyfeillgar cyntaf Ynys Môn.

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion drosolwg o’r gweithgareddau a’r datblygiadau diweddaf yn y Gwasanaethau Oedolion a oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad a chyfeiriwyd at y datblygiadau gwasanaeth diweddaraf mewn perthynas â Gwasanaethau Dydd Anableddau Dysgu a Gofal Cartref. Amlygwyd hefyd ymweliad Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru â Chanolfan Dementia Ynys Môn yn Llangefni a chais llwyddiannus Ynys Môn i ddod yn Aelod o Rwydwaith Cymunedau a Dinasoedd Oed Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd.

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol grynodeb o’r gwaith sydd ar y gweill yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn cynnwys y gwaith i ddod yn Ynys Ymwybodol o Drawma a hynt y Model Ysgol Rithiol yn ogystal â blwyddyn gyntaf gweithgareddau haf y Gwasanaeth ieuenctid. Soniwyd yn benodol am lwyddiant Maethu Môn Cymru yng Ngwobrau Rhagoriaeth Maethu 2023 wedi i’r tîm gipio’r wobr “Gofalwyr sy’n berthynas” a “Tîm Gwaith Cymdeithasol”.

Wrth nodi’r gweithgareddau Gwasanaethau Cymdeithasol fel rhan o’r diweddariad ar hynt a siwrnai’r Gwasanaethau Cymdeithasol fe amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y pwysau sydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion o ran yr her recriwtio, sydd ddim yn unigryw i Ynys Môn, a’r cynnydd yn y galw ac mewn anghenion mwy cymhleth sy’n cael effaith ar gyllidebau’r naill wasanaeth.

Wrth adolygu’r adroddiad trafododd y Pwyllgor y materion a ganlyn

·      Gan nodi a chydnabod y datblygiadau hyd yma a chan dderbyn bod misoedd y gaeaf yn debygol o fod yn heriol, roedd y Pwyllgor yn dymuno cael gwybod beth oedd blaenoriaethau’r Gwasanaethau Cymdeithasol dros y cyfod nesaf.

·      Beth sy’n gyfrifol am y cynnydd yn y galw am wasanaeth yn y naill wasanaeth ac a yw hwn yn faes y dylai’r Panel Sgriwtni Gwasanaethau Cymdeithasol edrych arno’n fanylach.

·      Goblygiadau defnyddio staff o du allan i Gymru yng Nghartrefi Clyd y Cyngor o ran y gost a’r gallu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.

·      Darparu gwasanaethau dementia ac argaeledd y gwasanaethau hynny.

·      Byddai wedi bod yn ddefnyddiol cael adborth ynglŷn â’r camau a gymerwyd a’r gwelliannau a wnaed o ganlyniad i’r cwynion a’r sylwadau a dderbyniwyd yn yr Adroddiad Blynyddol ar y Weithdrefn Sylwadau a Chwynion Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/23.

Ymatebodd Swyddogion i’r materion a godwyd gan y Pwyllgor a nodwyd y canlynol –

·      Cynghorwyd y Pwyllgor y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd ati dros y misoedd nesaf i edrych ar y modd y caiff gwasanaethau eu darparu i gleientiaid, nid er mwyn lleihau’r gwasanaeth a ddarperir ond er mwyn gweld a oes modd eu darparu’n wahanol, e.e. drwy wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg a thrwy gydweithio’n agosach â phartneriaid yn y Gwasanaeth Iechyd er mwyn bod yn fwy creadigol wrth ddylunio a darparu pecynnau gofal. Bydd canolbwyntio ar gynigion ataliol drwy ddefnyddio cyllid grant ac ymestyn prosiectau cyfredol i’r perwyl hwn hefyd yn helpu i leihau derbyniadau i’r ysbyty. Mae’r Gwasanaeth yn ceisio gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael iddo ac mae un enghraifft o hyn y cynnwys cyfuno gwasanaethau Anabledd Dysgu ac Iechyd drwy gomisiynu gwasanaethau ar y cyd fel y gall staff wneud defnydd gwell o’u hamser a fydd yn arwain at ddarparu gwell gwasanaeth i unigolion yn y pen draw. 

·      Cadarnhawyd bod y galw am wasanaethau wedi bod yn cynyddu’n raddol ers y pandemig Covid a bod iechyd nifer o bobl yn fwy bregus ers hynny; mae nifer y plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl wedi cynyddu yn ogystal. Hefyd, mae pobl yn byw’n hirach ac felly mae gan fwy o bobl anghenion iechyd yn gysylltiedig â’u hoed.  Mae awdurdodau lleol ledled y rhanbarth wedi gweld cynnydd tebyg yn y galw am wasanaethau. Mae gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng awdurdodau ac mae’r rhesymau dros y cynnydd hwn yn destun ymchwiliad. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn hapus i’r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol roi sylw pellach i’r mater.

·      Cadarnhawyd bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflogi staff asiantaeth drwy asiantaeth recriwtio sy’n rheoli’r broses ar ran y gwasanaeth, ac er bod yr asiantaeth y mae’r gwasanaeth yn gweithio â hi fel arfer yn recriwtio’n lleol nid yw hynny bob amser yn bosib ac mae staff yn cael eu cyflogi o ardal ddaearyddol ehangach o bryd i’w gilydd. Mae pawb yn ymwybodol o’r heriau recriwtio parhaus yn y sector gofal ac mae’r gwasanaeth wedi ceisio goresgyn yr heriau hyn drwy gynnig cyflogau cystadleuol i staff, yn cynnwys staff yng Nghartrefi Clyd y Cyngor, a thrwy fod yn rhagweithiol er enghraifft trwy hyrwyddo’r sector gofal fel llwybr gyrfa gyda myfyrwyr yng Ngholeg Menai. Fodd bynnag rhaid gwneud mwy o waith i godi proffil y sector ac edrych ar ffyrdd arloesol o fynd i’r afael â’r problemau recriwtio unwaith ac am byth. Yn y cyfamser mae staff asiantaeth yn cael eu defnyddio i lenwi unrhyw fylchau yn y rota.

·      Cynghorwyd y Pwyllgor bod tri gwasanaeth gwirfoddol sy’n cefnogi pobl â dementia wedi dod at ei gilydd yng Nghanolfan Dementia Ynys Môn yng Nghanolfan Glanhwfa yn Llangefni i greu gwasanaeth asesu cof ar gyfer eu cleientiaid, ac mae cyllid grant wedi cael ei fuddsoddi yng nghartref preswyl Garreglwyd i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel ar gyfer pobl â dementia.  Mae Canolfan Gofal Dementia yng nghartref preswyl Plas Crigyll. Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydnabod bod dementia yn gyflwr anodd a chymhleth ac maent yn gobeithio cael ychwaneg o ddarpariaeth gofal dementia yng Ngharreglwyd ac yn y gymuned yn y dyfodol.

Penderfynwyd –

·      Cadarnhau bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi derbyn sicrwydd bod y cynnydd parhaus a wnaed gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn rhesymol ac amserol. 

·      Argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod y cynnydd a chyflymder y gwelliannau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn amserol a Phriodol. .

Camau Gweithredu:

·         Bod y Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol yn edrych ar y galw cynyddol ar y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn nodi’r rhesymau posib dros y cynnydd.

·         Bod y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu gwybodaeth i’r Cynghorydd Aled M. Jones ynglŷn â’r staff asiantaeth sy’n gweithio yng Nghartrefi Clyd y Cyngor.

 

Dogfennau ategol: