Eitem Rhaglen

Rhenti a Thaliadau Gwasanaethau Tai 2024/25

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, a oedd yn ymgorffori Rhenti Tai a Thaliadau Gwasanaeth y CRT ar gyfer 2024/2025, ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai nad yw’r codiad rhent blynyddol cyfredol o MPD +1% yn gymwys gan fod y mynegai prisiau defnyddwyr (MPD) yn 6.7% ym mis Medi 2023 ac mae hynny tu allan i’r amrediad o 0% i 3%. Oherwydd hynny bydd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru’n penderfynu ar y cynnydd priodol ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol ar gyfer 2024/25. Mae’r Gweinidog wedi penderfynu mai’r codiad rhent uchaf ar draws yr holl stoc dai fydd hyd at 6.7%.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod Llywodraeth Cymru’n disgwyl i’r Awdurdod ymrwymo i gwrdd â Safonau Ansawdd Tai Cymru 2 (SATC2) a lansiwyd yn ddiweddar erbyn 2033 os yw’r Cyngor yn cytuno i godiad o 6.7% yn y rhent blynyddol. Mae disgwyl hefyd i bob Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru barhau i gynyddu niferoedd tai cymdeithasol fforddiadwy er mwyn cyflawni eu huchelgais o greu 20,000 o gartrefi newydd. Yn ystod y 3 blynedd diwethaf, mae’r Gwasanaeth Tai wedi cwblhau 131 o unedau newydd ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar 39 o gartrefi newydd, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer Cynllun Tai Gofal Ychwanegol ym Mhorthaethwy. Serch hynny, wrth ystyried cynyddu’r rhent blynyddol mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sawl ymrwymiad a chynllun newydd, gan gynnwys gwahardd troi tenantiaid allan oherwydd caledi ariannol yn ystod tymor y setliad cyn belled â bod tenantiaid yn cadw mewn cysylltiad â landlordiaid; targedu cefnogaeth i bobl sy’n profi caledi ariannol er mwyn iddynt dderbyn cymorth. Mae’n ofynnol hefyd gwneud y defnydd gorau o’r holl stoc tai cymdeithasol addas. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai hefyd at y gofyn i asesu fforddiadwyedd cyfartalog presennol rhenti i denantiaid ac mae’r adroddiad yn cyfeirio at hynny. Anfonwyd holiadur at yr holl denantiaid i ganfod a ydynt o’r farn fod eu rhenti’n deg, yn fforddiadwy a bod y gwasanaeth y maent yn ei dderbyn yn cynnig gwerth am arian. Cafodd 779 o holiaduron eu dychwelyd a’r bwriad oedd cyrraedd cymaint â phosib o denantiaid nad ydynt yn derbyn unrhyw fudd-daliadau sy’n cyfrannu tuag at dalu eu rhenti gan y byddai unrhyw gynnydd posib yn y rhenti’n debygol o effeithio arnynt. Roedd 82% o denantiaid yn cytuno fod y rhenti’n fforddiadwy ac roedd 18% yn anghytuno. Yn ogystal â hynny roedd mwy na 61% o’r holiaduron wedi cael eu cwblhau gan denantiaid sy’n gweithio’n llawn amser sy’n dangos fod yr arolwg wedi targedu tenantiaid nad oeddent o bosib yn gymwys i dderbyn budd-dal tai neu gredyd cynhwysol. Dywedodd hefyd fod Tîm Cynhwysiant Ariannol yn y Gwasanaethau Tai sydd ar gael i ddarparu cyngor a chefnogaeth i denantiaid.

 

Pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith bwysigrwydd annog tenantiaid nad ydynt yn gymwys i dderbyn budd-dal tai a chymorth ariannol ar hyn i bryd i gysylltu â’r Cyngor os ydynt yn wynebu caledi ariannol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo:-

·           cynnydd rhent o 6.7% ar draws yr holl unedau rhent cyffredinol, yn unol â pholisi rhent y Llywodraeth ar gyfer casglu dros 52 wythnos;

·           cynnydd o 63c yr wythnos ar gyfer rhenti pob garej;

·           bod y taliadau gwasanaeth fel y nodir yn adran 6.3 yn yr adroddiad yn cael eu codi ar bob tenant sy’n derbyn y gwasanaethau perthnasol;

·           gweinyddu’r ‘Cynllun Cymorth Rhent’, sef cynllun lleol i gefnogi tenantiaid sy’n talu eu rhent eu hunain.

 

Dogfennau ategol: