Cyflwyno’r canlynol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 7 Rhagfyr, 2023 :-
· Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 – Datganiad o’r Cyfrifon 2022/2023.
· Adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid – Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/2023.
· Adroddiad Archwilio Allanol ynghylch yr archwiliad o’r datganiadau ariannol.
(Adroddiad ISA 260).
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar 7 Rhagfyr 2023.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Datganiad o Gyfrifon 2022/2023 a’r Adroddiad ISA 260 wedi cael eu trafod fel rhan o’r broses sgriwtini a’i gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio. Mae Archwilio Cymru wedi derbyn y cyfrifon ac nid ydynt wedi gofyn am unrhyw newidiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones fod angen i’r Datganiad o Gyfrifon fod ar gael i breswylwyr edrych arno i weld sut mae’r Cyngor yn defnyddio ei adnoddau ariannol. Cyfeiriodd at Gynllun Pensiwn y Cyngor a holodd a fyddai’n bosib derbyn adroddiad ar wahân gan fod y mater yn un mor gymhleth. Dywedodd hefyd fod dyledion rhenti tai wedi cynyddu gan fod pobl yn wynebu anawsterau oherwydd yr argyfwng costau byw. Cyfeiriodd hefyd at faterion amgylcheddol a holodd p’un a yw’r adnoddau ariannol yn mynd i’r afael â’r angen ym mhob un o wasanaethau’r Cyngor. Yn ei farn ef, mae angen i’r Pencampwr Amgylcheddol gyflwyno adroddiad blynyddol ar strategaeth amgylcheddol y Cyngor, a dylai’r 12 Pencampwr arall gyflwyno adroddiadau blynyddol ar eu meysydd cyfrifoldeb hwythau hefyd, er mwyn nodi eu hymdrechion i hyrwyddo’r gwasanaethau a gynrychiolir ganddynt.
Wrth ymateb i sylwadau’r Cynghorydd R Ll Jones, dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Datganiad Cyfrifon ar gael ar wefan y Cyngor er mwyn i breswylwyr weld sut mae adnoddau ariannol y Cyngor yn cael eu gwario ac mae’r Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiadau chwarterol hefyd. Nododd fod y Cynllun Pensiwn yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gwynedd ac mae adroddiadau rheolaidd a gweddarllediadau o gyfarfodydd y Pwyllgor Pensiynau ar gael ar eu gwefan ac mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd eu mynychu hefyd. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai at y sylw am gynnydd mewn dyledion rhent a dywedodd fod gan y Gwasanaethau Tai Dîm Cynhwysiant Ariannol a gallant ddarparu cyngor a chefnogaeth i denantiaid os ydynt yn wynebu anawsterau ariannol. Dywedodd fod y Pwyllgor Gwaith wedi trafod y mater yn ddiweddar, gan bwysleisio ei bod yn bwysig fod tenantiaid nad ydynt yn gymwys i dderbyn budd-dal tai a chefnogaeth ariannol ar hyn o bryd yn cael eu hannog i gysylltu â’r Cyngor os ydynt yn wynebu problemau ariannol. Mewn ymateb i’r sylwadau am yr amgylchedd, dywedodd arweinydd y Cyngor fod gan y Cyngor raglen gorfforaethol i leihau ôl-troed carbon pob gwasanaeth o fewn y Cyngor ac mae adroddiadau cynnydd blynyddol yn cael eu cyflwyno ar y gwaith hwnnw. Cyfeiriodd at y Pencampwyr gwasanaeth a nododd fod eu gwaith yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau a gyflwynir i’r Cyngor ac roedd yn cytuno efallai bod angen tynnu mwy o sylw at rôl y Pencampwyr gwasanaeth yn adroddiadau blynyddol y gwasanaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones fod anghysonderau hanesyddol yng nghronfeydd pensiwn rhai athrawon a gofynnodd a yw’r mater hwn wedi cael ei ddatrys. Gofynnodd hefyd a fydd Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid i ddatrys y problemau concrit RAAC mewn dwy ysgol uwchradd ar yr ynys. Cyfeiriodd hefyd at ffi Archwilio Cymru, gan nodi fod cynnydd o 20%, neu £75k, yn y sŵn a gofynnodd a fyddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn gallu rhoi pwysau ar Archwilio Cymru gan fod pob awdurdod lleol yn wynebu pwysau ar eu cyllidebau. Gofynnodd y Cynghorydd Jones hefyd a fyddai modd ad-dalu rhan o’r swm o £625k a ddyrannwyd ar gyfer astudiaethau archeolegol Horizon ar safle Wylfa, gan fod yr astudiaethau wedi’u cwblhau ar y safle a byddai modd defnyddio’r arian i hyrwyddo’r safle ar gyfer ei ddatblygu.
Mewn ymateb i’r sylwadau gan y Cynghorydd Aled M Jones, dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Gronfa Pensiynau Athrawon a Chronfa Bensiwn Gwynedd yn ddwy gronfa ar wahân, a chynghorwyd athrawon i edrych ar eu cronfa bensiwn a’u cofnodion cyflogaeth. O ran ffi Archwilio Cymru, dywedodd yr Aelod Portffolio nad oes dewis gan y Cyngor ond defnyddio gwasanaethau Archwilio Cymru ac maent yn gallu pennu eu ffioedd eu hunain am y gwasanaethau a ddarperir. Dywedodd ei fod yn cytuno y gallai CLlLC roi pwysau ar Archwilio Cymru a byddai’n codi’r mater yng nghyfarfodydd CLlLC yn y dyfodol. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor i’r sylwadau am y problemau concrit RACC mewn dwy ysgol uwchradd a dywedodd fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â chymorth ariannol i gywiro’r sefyllfa. Ymatebodd hefyd i’r sylwadau am y swm o £625k a ddyrannwyd i gwrdd â chostau astudiaethau archeolegol Horizon ar Safle Wylfa a nododd fod yr arian yn rhan o gynllun polisi cynllunio gyda Horizon i ddatblygu’r safle. Dywedodd y Prif Weithredwr fod eitemau archeolegol wedi’u canfod ar y safle a dywedodd bod rhaid ymdrin â’r eitemau hynny yn unol â dyletswyddau statudol a’r gobaith yw y bydd modd eu harddangos i’r cyhoedd eu gweld.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Owen nad oedd ei enw wedi’i gynnwys ar y rhestr o Aelodau Etholedig sy’n aelodau o Grŵp Rhanddeiliaid Wylfa, a gynhwysir yn Atodiad 1 yn yr adroddiad (Datgeliad Parti Cysylltiedig – Cynrychiolaeth Rhanddeiliaid gyda Sefydliadau Trydydd Parti).
PENDERFYNWYD:-
· Derbyn y Datganiad Cyfrifon ar gyfer 2022/2023 ac awdurdodi Cadeirydd y Cyngor Sir a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i lofnodi’r cyfrifon;
· Nodi’r cynnydd o £72k yn y tanwariant yng Nghronfa’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23, oherwydd diwygiadau a wnaed yn ystod y cyfnod archwilio sy’n effeithio ar Gronfa’r Cyngor. Mae hyn yn cynyddu’r tanwariant am y flwyddyn o £1.212m i £1.284m.
Dogfennau ategol: