Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol Adnoddau ac Ail-gylchu - 2023-2028

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar 22 Tachwedd, 2023. .

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor ei dderbyn – adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini ac Adfywio ar 22 Tachwedd 2023.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu ar gyfer 2023-2028 yn cefnogi dyheadau allweddol y Cyngor a geir yng Nghynllun y Cyngor. Mae Cynllun y Cyngor yn datgan bod rhaid i’r Cyngor gyrraedd cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2028 a chyrraedd y targed allyriadau carbon sero net erbyn 2030. Nododd fod dyletswydd ar yr holl breswylwyr ac ymwelwyr i leihau gwastraff ac ailgylchu mwy. Ychwanegodd y byddai cymeradwyo’r Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu’n dangos fod y Cyngor yn mynd i’r afael â materion amgylcheddol fel rhan o’r fenter ailgylchu. Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod perthynas waith dda’n bodoli rhwng y Cyngor a sefydliadau megis CLlLC, Llywodraeth Cymru a WRAP Cymru, a bydd hynny’n cynorthwyo’r Cyngor i gyflawni’r targed ailgylchu 70%. Mae cyfraddau ailgylchu Ynys Môn yn 65% ar hyn o bryd (ond gall y ffigwr amrywio yn ystod gwahanol gyfnodau yn ystod y flwyddyn). Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd dros gyfnod o chwe wythnos yn ddiweddar, rhwng 11 Medi a 20 Hydref 2023. Dyluniwyd yr ymgynghoriad i gasglu adborth ar ffrydiau gwaith allweddol i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mwy o wastraff domestig a derbyniwyd bron i 200 o ymatebion. Ychwanegodd fod rhai o’r ymatebwyr yn nodi nad yw’r bocs ailgylchu ar gyfer cardfwrdd yn ddigon mawr ac mae angen ystyried dulliau eraill o ddarparu ar gyfer yr anghenion hynny, e.e., darparu sachau i gasglu cardfwrdd ychwanegol. Nododd hefyd fod angen ail-addysgu pobl ynglŷn â phwysigrwydd ailgylchu, yn enwedig y genhedlaeth iau.

 

Roedd Arweinydd y Cyngor yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad, ond gan nad oedd y Cynllun Strategol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor tan ddiwedd Rhagfyr, cynigiodd welliant, sef bod y Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu’n cael ei weithredu rhwng 2024 a 2029.

 

Cyfeiriodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio at argymhellion y Pwyllgor i’r Cyngor yn dilyn ei gyfarfod ar 22 Tachwedd 2023, pan ystyriwyd y Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu. Roedd yr argymhellion yn cynnig rhoi camau penodol ar waith, gan gynnwys cynyddu cyfraddau ailgylchu bwyd; bod angen darparu bin gwastraff pan gyflwynir ceisiadau cynllunio am siopau gwerthu bwydydd cyflym; nodi bod ailgylchu a gwastraff yn gyfrifoldeb corfforaethol i nifer o wasanaethau’r Cyngor ac y dylid darparu ymgyrchoedd Cadw Cymru’n Daclus er mwyn addysgu plant am bwysigrwydd ailgylchu; mae ailgylchu gwastraff biniau yn ein trefi a’n cymunedau arfordirol yn agwedd y mae angen rhoi sylw pellach iddo ac mae’r mater hwn yn gysylltiedig â chynlluniau strategol eraill megis y Cynllun Rheoli Cyrchfan a’r Cynllun Rheoli Ardaloedd o Harddwch Naturiol.

 

Dywedodd y Cynghorwyr Jeff Evans a Pip O’Neill fod tipio anghyfreithlon wedi gwaethygu yng Nghaergybi ac mae angen cynorthwyo pobl nad ydynt yn gallu mynd â gwastraff i’r canolfannau ailgylchu. Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr Adain Rheoli Gwastraff yn darparu trwyddedau ar gyfer cerbydau sy’n tynnu trelar a faniau. Nododd mai bwriad y broses hon yw atal cerbydau masnachol rhag codi tâl ar bobl i gasglu eu gwastraff.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr Adran Rheoli Gwastraff a’r Tîm Cyfathrebu, yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini a Chyfathrebu, wedi cychwyn ymgyrch i dynnu sylw at broblemau tipio anghyfreithlon, gan annog pobl i fod yn gyfrifol am ailgylchu gwastraff yn briodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn y gwelliant, sef bod Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu Ynys Môn yn cael ei fabwysiadu ar gyfer y cyfnod 2024-2029 (cynllun 5 mlynedd).

 

Dogfennau ategol: