Eitem Rhaglen

Penderfyniadau gan Banel Dyfarnu Cymru

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar benderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru yng Nghymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 14 Mehefin 2023.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn crynhoi’r materion a gyfeiriwyd at Banel Dyfarnu Cymru (PDC) gan yr Ombwdsmon ac sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y PDC ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.

 

Roedd yr achos cyntaf yn cynnwys gwrandawiad dros dro yn ymwneud â honiadau bod aelod etholedig o Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth wedi cyflawni toriadau difrifol yn erbyn y Cod Ymddygiad mewn perthynas â phum honiad gwahanol o aflonyddu rhywiol. Dywedodd fod PDC wedi gwahardd y Cynghorydd am 6 mis.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro mai dyma’r tro cyntaf i’r PDC ddefnyddio ei bwerau gwneud penderfyniadau i gosbi Cynghorydd ar sail dros dro. Ddywedodd y bydd y Panel yn cyflwyno penderfyniad pellach yn fuan.

 

Roedd yr ail achos yn cyfeirio at aelod etholedig blaenorol a oedd wedi torri’r Cod Ymddygiad drwy anfon gohebiaeth yn rheolaidd at sawl derbynnydd a oedd yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol. Roedd y Cynghorydd wedi anwybyddu cyngor a roddwyd iddi. Cafodd y Cynghorydd ei diarddel gan y PDC am 18 mis.

 

O ran diarddel, dywedodd y Swyddog Monitro y bydd yn rhaid i aelodau etholedig ddilyn proses ddemocrataidd er mwyn cael eu hail-ethol. Dywedodd y gall aelodau sy’n derbyn cosb dros dro ddychwelyd i’w dyletswyddau etholedig unwaith y bydd y gosb wedi dod i ben, os yw hynny o fewn cyfnod swydd. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at benderfyniad blaenorol a wnaed mewn achos cyfreithiol, sef “Calver”, ble nodwyd bod rhaid i uwch swyddogion y Cyngor feithrincroen tew” er mwyn delio gyda bygythiadau a heriau gan y cyhoedd ac aelodau etholedig. Dywedodd y Swyddog Monitro fod yr achos hwn yn profi, er y penderfyniad, os yw ymddygiad unigolyn ddigon difrifol, ac yn parhau am gyfnod, bydd y Panel yn darparu cymorth i uwch swyddogion.

 

Roedd y trydydd achos yn ymwneud ag aelod blaenorol o Gyngor Tref a Chadeirydd y Cyngor hwnnw, a oedd wedi bod yn anonest gydag Archwilio Cymru wrth archwilio mater caffael. Cafodd yr aelod ei ddiarddel am 15 mis. Pwysleisiodd y Swyddog Monitro bod nifer o ffactorau gwaethygol ynghlwm â’r cais hwn, gan fod y Cynghorydd wedi osgoi hysbysu’r archwilydd ei fod wedi gwneud gwallau. Nid oedd y Cynghorydd wedi cydnabod ei fod ar fai, ac roedd wedi ceisio cuddio ei gamgymeriadau.

 

Roedd y pedwerydd achos yn cyfeirio at aelod blaenorol o Gyngor Tref a oedd wedi pledio’n euog o drosedd dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003. Pwysleisiodd y Swyddog Monitro bod nifer o ffactorau gwaethygol ynghlwm â’r cais hwn, gan arwain at gosb o ddiarddeliad am 9 mis. Er bod y Cynghorydd wedi pledio’n euog yn yr achos Llys, nid oedd wedi ymddiheuro am ei ymddygiad o ran y Cod, ac nid oedd wedi delio â’r mater gyda digon o ddifrifoldeb ym marn PDC.

 

Nodwyd y bydd y Pwyntiau Dysgu o’r achosion hyn yn cael eu rhannu yn y Cylchlythyrau gydag aelodau etholedig ac aelodau Cynghorau Tref a Chymuned yn fuan.

 

PENDERFYNWYD nodi’r astudiaethau achos a gyflwynwyd yn yr adroddiad.

 

Cam: Dim.

Dogfennau ategol: