Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2024/25 - Cynigion Cychwynnol Drafft ar gyfer y Gyllideb Refeniw

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i'w ystyried gan y Pwyllgor. Amlinellodd yr adroddiad gyd-destun proses gosod Cyllideb 2024/25 ynghyd â'r materion a'r cwestiynau allweddol ar gyfer Craffu wrth werthuso cyllideb refeniw gychwynnol arfaethedig y Pwyllgor Gwaith. Atodwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i'w gyflwyno i gyfarfod 23 Ionawr, 2024 y Pwyllgor Gwaith sy’n nodi'r gyllideb refeniw dros dro ar gyfer 2024/25 fel Atodiad 1.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid drosolwg o’r broses gyllidebol a goblygiadau'r Setliad Llywodraeth Leol dros dro ar gyfer 2024/25 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2023. Dangosodd y setliad dros dro gynnydd o £169.8m yn lefel gyffredinol y cyllid ar gyfer Cymru sy'n cyfateb i gynnydd o 3.1% mewn termau arian parod. Roedd y setliad drafft wedi arwain at gynnydd o 2.5% ar Ynys Môn (0.6% yn is na chyfartaledd Cymru a'r 17eg gynnydd uchaf o'r 22 awdurdod) sydd, ar ôl i'r prif newidiadau i'r gyllideb gael eu hystyried, yn gadael diffyg ariannol o £14.391m cyn unrhyw newid yn y Dreth Gyngor. Byddai pontio'r bwlch hwn drwy'r Dreth Gyngor yn unig yn golygu codi’r Dreth Gyngor 30% ac mae'r Pwyllgor Gwaith yn credu bod hynny'n annerbyniol ac afrealistig. Felly, mae'r Pwyllgor Gwaith yn cynnig bod y diffyg yn dod o gyfuniad o arbedion cyllidebol o £4.773m (cyllido ysgolion 2.5% yn is na chwyddiant, lleihau’r gweithlu, arbedion cyllidebol eraill yn unol â Thabl 4 ac Atodiad 3 yr adroddiad a defnyddio’r Premiwm i gefnogi costau gwasanaethau), defnyddio £4.425m o gronfeydd wrth gefn (£1.6m o Falansau Cyffredinol a £2.825m o Gronfeydd Wrth Gefn wedi'u Clustnodi) a chynnydd o 9.78% yn y Dreth Gyngor ynghyd â 1.12% ychwanegol i ariannu'r cynnydd yn Ardoll y Gwasanaeth Tân (gan nodi, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf, y gallai hyn newid) sy’n dod â chyfanswm y cynnydd i 10.9%. Byddai hyn yn golygu bod tâl Band D (ac eithrio praeseptau'r Heddlu a'r Cyngor Tref / Cymuned) yn £1,592.37, cynnydd o £156.51 neu £3.01 yr wythnos.

Gan bwysleisio nad yw lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Gwaith yn gyfforddus ag ef, cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at y cyd-destun ariannol anodd a'r hinsawdd ariannol ansicr sydd wedi gwneud y gwaith o baratoi'r gyllideb refeniw dros dro ar gyfer 2024/25 yn dasg heriol. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r Cyngor ddarparu cyllideb gytbwys ac er gwaethaf y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor sydd ar lefel debyg i gynnydd dangosol gan awdurdodau eraill, Ynys Môn yw un o'r awdurdodau sy’n codi’r tâl isaf ar gyfer y dreth gyngor yng Nghymru oherwydd rheolaeth ariannol ddarbodus yn y gorffennol. Mae’r rheolaeth honno wedi cryfhau ei sefyllfa ariannol ac yn ei helpu i ddelio yn y tymor byr â'r heriau y mae'n eu hwynebu.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 gyd-destun ychwanegol gan ddweud nad yw'r heriau ariannol a ddisgrifir yn yr adroddiad yn unigryw i Ynys Môn. Mae nifer o awdurdodau lleol yn Lloegr wedi cyhoeddi hysbysiadau Adran 114 lle mae'r Prif Swyddog Ariannol yn hysbysu, yn y flwyddyn ariannol, y disgwylir i'r gwariant gan yr Awdurdod fod yn fwy na'r adnoddau sydd ar gael i ariannu'r gwariant hwnnw. Er nad oes unrhyw gyngor yng Nghymru wedi cyhoeddi hysbysiad Adran 114, mae'r pwysau ariannol sy'n wynebu cynghorau Cymru yn debyg i'r rhai yn Lloegr. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn amcangyfrif bod cynghorau Cymru yn wynebu pwysau cyllidebol o £720m yn 2024/25 a phwysau pellach o £516m yn 2025/26 a £524m yn 2026/27. Pe bai'r sefyllfa yn Ynys Môn yn adlewyrchu amcangyfrif CLlLC, byddai'n rhaid i gyllideb y Cyngor godi £16m yn 2024/25 ac yna cynnydd o £12m yn 2025/26 a 2026/27.

 

Ymhelaethodd y Swyddog Adran 151 ar y pwysau a’r risgiau ariannol o ganlyniad i hynny sy'n wynebu'r Cyngor, nifer ohonynt yn cynnwys y galw am wasanaethau, chwyddiant, costau pensiwn, ardollau a osodir gan gyrff eraill a gofynion gwasanaeth newydd neu newid mewn gofynion a osodir gan Lywodraeth Cymru a/neu Lywodraeth y DU sydd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Caniatawyd ar gyfer rhai o'r risgiau hynny yn y gyllideb arfaethedig, tra byddai'n rhaid i falansau cyffredinol a chronfeydd eraill gael eu defnyddio ar gyfer eraill pe bai'r risg yn arwain at gost ariannol yn 2024/25. Manylir ar y prif newidiadau i'r gyllideb yn adran 4 yr adroddiad ac amlinellir y risgiau cyllidebol yn adran 6. Mae'r rhain i gyd wedi cyfrannu at y pwysau ar gyllidebau'r Cyngor ac wedi creu'r angen am gynnydd yn y Dreth Gyngor fel y gellir sicrhau cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25. Gwasanaethau sydd wedi dod o dan bwysau arbennig oherwydd galw cynyddol ac atgyfeiriadau, cost darpariaeth a chymhlethdod achosion yw gofal cymdeithasol Oedolion a Phlant. Mae'n annhebygol y bydd grantiau a ddarparwyd yn 2023/24, sydd wedi helpu i liniaru'r gorwariant yn y gwasanaethau hyn, yn cael eu hailadrodd yn 2024/25 ac felly mae cywiro’r gyllideb o £2.9m ar gyfer gofal cymdeithasol Oedolion a £0.9m ar gyfer Gwasanaethau Plant wedi'i wneud yng nghyllideb ddigyfnewid 2024/25.

 

Gan edrych ymlaen at 2025/26 a thu hwnt ni ragwelir y bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cyngor yn cynyddu mwy nag 1% neu ychydig dros £1m (os o gwbl). Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd y Cyngor yn wynebu'r un pwysau ariannol yn sgil galw cynyddol a chostau. Amcangyfrifir y bydd hyn yn ychwanegu oddeutu £5m i gyllideb y Cyngor yn 2025/26 gan adael diffyg ariannol o £4m o'r cychwyn cyntaf. Yn ogystal â hyn, bydd y Cyngor wedi defnyddio tua £8m o'i gronfeydd wrth gefn i gydbwyso cyllidebau 2023/24 (£3.78m) a 2024/25 (£4.225m), sefyllfa sy'n anghynaladwy yn y tymor hir. Mae'r defnydd o gronfeydd wrth gefn yn galluogi'r Cyngor i adolygu ei ofynion cyllidebol yn y tymor hir lle mae'n rhaid ail-alinio'r gwasanaethau a ddarperir â'r cyllid craidd sydd ar gael. Mae'r gyllideb arfaethedig ar gyfer 2024/25 yn dechrau'r broses o leihau'r gwasanaethau a ddarperir, ond bydd yn rhaid cwtogi gwasanaethau yn sylweddol eto yn 2025/26 a'r blynyddoedd dilynol i alluogi'r Cyngor i osod cyllideb gytbwys ac i gadw'r cynnydd yn y Dreth Gyngor ar lefel resymol a fforddiadwy. Oni wneir hynny, cynyddir y risg y bydd y Cyngor yn anghynaladwy yn ariannol erbyn 2026/27 neu 2027/28.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r Swyddog Adran 151 am yr adroddiad a'r cyflwyniad gan gydnabod bod y broses gyllidebol ddrafft wedi bod yn anodd ond gan gydnabod hefyd bod Ynys Môn mewn sefyllfa ariannol well na llawer o awdurdodau eraill. Wrth ystyried yr adroddiad rhoddwyd sylw i Ardoll y Gwasanaeth Tân gan nodi bod Awdurdod Tân Gogledd Cymru yn cynllunio cynnydd o 10.8% yn yr ardoll ar gyfer y chwe awdurdod, gan greu cynnydd o £4.8m yn y gyllideb. Oherwydd y newid yn y boblogaeth, mae cyfraniad Ynys Môn tuag at yr ardoll yn cynyddu o 9.92% i 10.03% o gyfanswm yr ardoll gan arwain at gynnydd o £533k i'r ardoll ar y Cyngor, sy'n cyfateb i gynnydd o 1.12% yn y Dreth Gyngor. Bydd yr ardoll a gyllidir gan y Cyngor yn cynyddu i £4.936m. Roedd y Pwyllgor eisiau gwybod a oedd tynnu sylw at yr ardoll yn rhywbeth newydd gan nad oedd cyfeiriad ato fel rhan o drafodaethau blaenorol ar y gyllideb. Tynnodd y Cynghorydd Ieuan Williams sylw at y ffaith ei fod wedi gofyn i'r Prif Swyddog Tân mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn ddiweddar a allai sicrhau bod copi o strwythur corfforaethol y Gwasanaeth ar gael i aelodau graffu arno i weld a oedd unrhyw arbedion posibl. Gwnaed cais bod y Prif Swyddog Tân yn cael gwahoddiad i fod yn bresennol y flwyddyn nesaf er mwyn rhoi cyfle i aelodau graffu ar y strwythur, er y nodwyd hefyd gan y Pwyllgor fod y Cyngor hwn, fel y pum cyngor arall yng Ngogledd Cymru, wedi ethol aelodau’n gynrychiolwyr ar Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a bod gan yr Awdurdod Bwyllgor Gweithredol ac Archwilio hefyd i graffu ar y materion hyn a'u pennu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn deall bod gwaith sylweddol wedi'i wneud gan Awdurdod y Gwasanaeth Tân i edrych ar ostyngiadau mewn costau gorbenion canolog er mwyn diogelu gwasanaethau rheng flaen a bod panel wedi'i sefydlu i’r pwrpas hwnnw. Cynhaliwyd trafodaethau helaeth ynghylch y pwnc hwn ac efallai y bydd yn bosibl gwneud cais fod allbwn y trafodaethau hynny ar gael i'w ystyried y tu allan i'r cyfarfod hwn ond hefyd gyda golwg ar osod cyllideb y flwyddyn nesaf. Oherwydd y sefyllfa ariannol heriol y mae cynghorau Ynys Môn a chynghorau eraill Gogledd Cymru yn ei hwynebu, trafodwyd a phenderfynwyd y dylid gwahaniaethu a chyfathrebu'n glir ynghylch cynnydd yn y Dreth Gyngor mewn cysylltiad â gwasanaethau'r cyngor a chynnydd yn y dreth gyngor mewn cysylltiad ag ardoll y Gwasanaeth Tân. Er bod rhai awdurdodau wedi bod yn gwneud hyn ers tro, ystyrid ei bod yn bwysig fod awdurdodau Gogledd Cymru’n gweithredu yr un fath. Mae yna hefyd rywfaint o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i drafod y syniad fod awdurdodau'r gwasanaeth tân yn dod yn awdurdodau praeseptu eu hunain fel bod y drafodaeth rhwng yr Awdurdod Tân a'r cyhoedd yn digwydd ar wahân i brosesau cynghorau sir. Er bod cynrychiolaeth o blith aelodau etholedig y Cyngor ar Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, mae'n briodol fod Swyddogion ac Aelodau Etholedig eraill yn cael cyfle i ystyried a herio'r ardoll os ydynt yn dymuno gwneud hynny gan ei fod wedi'i nodi ar ddogfennau biliau’r Dreth Gyngor. Hefyd, o ystyried y sefyllfa ariannol ddifrifol, mae'n rhaid i gynghorau edrych ar bob dull posibl o gadw gwariant o fewn y gyllideb er mwyn osgoi cynnydd yn y Dreth Gyngor a chwtogi gwasanaethau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau pellach gan y Pwyllgor, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 fod gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yr hawl i ofyn am ardoll ychwanegol a hefyd yr hawl i gadw arian wrth gefn ar gyfer unrhyw orwariant yn y flwyddyn.

 

Wrth siarad fel Cadeirydd Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, cadarnhaodd y Cynghorydd Dylan Rees y craffwyd yn ofalus ac yn fanwl ar gyllideb yr Awdurdod ar gyfer 2024/25. Er mai'r cynnydd arfaethedig gwreiddiol yn yr ardoll oedd 10.8%, y cynnig a fydd nawr yn cael ei gyflwyno i'r Awdurdod mewn cyfarfod ar 22 Ionawr 2024 yw cynnydd o 8.85% yn dilyn defnydd cynyddol o gronfeydd wrth gefn. Er bod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn wynebu'r un heriau ariannol ag awdurdodau lleol, gallai sicrhau'r Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi gwneud gwaith helaeth i leihau'r cynnydd yn yr ardoll cyn belled ag y bo modd.

 

Mewn ymateb i faterion eraill a godwyd ar gynigion y gyllideb, dyma ymateb yr Aelod Portffolio a'r Swyddogion–

 

·      O ran sefyllfa cronfeydd wrth gefn y Cyngor a ph’un ai a oes ganddo ddigon o "arian ar gyfer cyfnod anodd" neu hyblygrwydd o ran ei gyllideb i osgoi mynd i drafferthion, dywedwyd wrth y Pwyllgor y rhagwelir y bydd lefel bresennol y Cyngor o falansau cyffredinol nas dyrennir yn £11.1m erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2023/24. Byddai'r defnydd arfaethedig o £1.6m o'r balansau hynny yn 2024/25 yn gadael cyfanswm o £9.5m sy'n cyfateb i 5% o'r gyllideb refeniw net, sef y balans cyffredinol lleiaf fel y pennwyd gan y Pwyllgor Gwaith. Mae'r balansau hyn ar gael os bydd y Cyngor yn wynebu unrhyw wariant annisgwyl neu heb ei gynllunio yn 2024/25. Mae cynghorau sydd wedi cyhoeddi hysbysiadau Adran 114 wedi rhedeg allan o falansau i bob pwrpas ac nid ydynt yn gallu ariannu gorwariant, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd cynnal lefel iach o gronfeydd wrth gefn. Pe bai'n rhaid i'r Cyngor wneud defnydd sylweddol o’i falansau yn 2024/25 yna byddai’n rhaid iddo roi strategaeth ar waith i ailgyflenwi'r balansau hynny yn y blynyddoedd sy’n dilyn.

·      O ran dechrau'r broses o osod y gyllideb yn gynt yn enwedig os yw gwneud arbedion neu gwtogi gwasanaethau yn rhan o'r broses honno, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr arbedion sy'n rhan o gynigion Cyllideb 2024/25 wedi'u cyflwyno oherwydd bod mai bach iawn fydd eu heffaith ac oherwydd ystyrir y gall y Cyngor reoli'r gostyngiad mewn capasiti yn y flwyddyn i ddod. Mae trafodaethau anffurfiol ynglŷn â chyllideb 2025/26 eisoes wedi dechrau gyda'r Tîm Arweinyddiaeth a'r Pwyllgor Gwaith, gan gynnwys y math o ddewisiadau y bydd yn rhaid eu gwneud a’r prosesau y bydd yn rhaid eu dilyn i allu sicrhau cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn honno o ystyried bod disgwyl iddi fod hyd yn oed yn fwy o her na gosod cyllideb 2024/25.

·      Gan nodi nad yw'r Cyngor bellach yn gallu diogelu addysg ac ysgolion rhag gostyngiad yn eu cyllidebau, gofynnwyd a oedd yn bosibl mewn achosion lle y gall toriadau effeithio ar ansawdd yr addysgu a/neu nifer y disgyblion, i'r Gwasanaeth weithio gyda'r ysgol i lunio cynllun i'w alluogi i fynd i ddyled am flwyddyn neu ddwy. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai hon yw'r flwyddyn gyntaf y mae’r Cyngor wedi gorfod gwneud toriad sylweddol yng nghyllideb ysgolion ac nad oedd modd ei osgoi gan fod yr heriau ariannol yn rhy fawr i wasanaethau eraill y Cyngor eu hysgwyddo ar eu pennau eu hunain. Mae sefyllfa ar y gorwel lle fydd hi'n anodd cyflawni cyfrifoldebau statudol gan fod y pwysau'n fwy na'r capasiti a'r cyllid y mae'r Cyngor yn ei dderbyn. Mae angen trafod gyda Llywodraeth Cymru ynghylch gostwng y trothwyon mewn rhai meysydd er mwyn lleihau costau, er y gallai hynny arwain at ddirywiad yn lefel y gwasanaeth neu "ostyngiad a reolir." Fodd bynnag, oni cheir y sgwrs hon mae risg y bydd cynghorau yng Nghymru yn mynd yn fethdalwyr oherwydd y bwlch cynyddol rhwng y galw ac adnoddau.

O ran ysgolion â diffyg yn y gyllideb dywedodd y Swyddog Adran 151 fod y Cyngor yn gweithio gyda'r ysgolion hynny'n unigol i'w helpu i fantoli eu cyllideb, ac er y derbynnir bod rhai ysgolion yn gallu gwella o sefyllfa o ddiffyg ariannol o fewn blwyddyn neu ddwy, ni fydd y Cyngor yn caniatáu i ysgol fod mewn sefyllfa o ddiffyg ariannol flwyddyn ar ôl blwyddyn heb allu dangos bod ganddi gynllun i unioni'r sefyllfa honno.

 

·      O ran pryder y gallai'r ddarpariaeth o 3.5% a wnaed yng nghyllideb ddigyfnewid 2024/25 ar gyfer chwyddiant yng nghyflogau staff nad ydynt yn athrawon a'r ddarpariaeth o 2% ar gyfer chwyddiant yng nghyflogau athrawon fod yn annigonol a'r goblygiadau i'r gyllideb os yw hynny'n wir, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod hyn wedi'i nodi fel risg i'r gyllideb. Efallai y bydd mwy o eglurder ynglŷn â’r sefyllfa cyn i'r gyllideb derfynol ar gyfer 2024/25 gael ei chymeradwyo ac efallai y bydd yn rhaid addasu'r gyllideb yn unol â hynny. Yr her yw sicrhau cydbwysedd ac osgoi gor-ddarparu ar gyfer chwyddiant cyflogau gan y byddai hynny'n golygu cynnydd uwch yn y Dreth Gyngor gan ystyried hefyd bod disgwyl i’r gyllideb adlewyrchu mor gywir â phosibl y costau amcangyfrifedig o weithredu gwasanaethau'r Cyngor yn 2024/25.

·      O ran cefnogi ymarferwyr mewn ysgolion i gael mynediad at ffynonellau cyllid a/neu grantiau eraill nad ydynt efallai'n ymwybodol ohonynt, neu efallai nad oes ganddynt yr amser i wneud cais amdanynt, dywedwyd wrth y Pwyllgor, ar wahân i grantiau mawr Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg, fod y Gwasanaeth Dysgu yn ceisio sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol o’r gwahanol ffynonellau cyllid, bach fel arfer sydd ar gael drwy fwletinau wythnosol. Byddai'r Gwasanaeth Dysgu yn hapus i edrych ar y ffynonellau cyllid sydd ar gael gyda'r bwriad o ganolbwyntio ar ychydig o brif ffynonellau a bydd yn ystyried cynorthwyo ysgolion i gael mynediad at y cyllid hwn os oes amser a chapasiti ar gael.

Dywedodd y Swyddog Adran 151 fod ysgolion yn derbyn llawer iawn o gyllid drwy grantiau a bod yn rhaid iddynt addasu eu cyllidebau wrth i'r grantiau hynny gynyddu neu leihau. Nid yw hyn yn ddelfrydol gan ei fod yn gwneud y gwaith cynllunio a rheoli ariannol yn anos, ac os yw'r grantiau hynny'n cynnwys proses gais, mae hynny'n golygu bod yn rhaid treulio amser ac adnoddau ar baratoi cais. Byddai'n well pe bai cyfran uwch o gyllid grant ar gyfer ysgolion a gwasanaethau eraill y Cyngor yn cael eu cynnwys yn y setliad gan y byddai hynny'n lleihau'r baich gweinyddol sy'n gysylltiedig â grantiau.

 

·      O ran fod y prinder cyllid yn sbarduno newidiadau yn y ffordd y mae gwasanaethau'r cyngor yn cael eu cynllunio a’u darparu gyda phwyslais cynyddol ar gyfuno  a rhannu, dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oes trafodaethau ar hyn o bryd ynghylch ailstrwythuro llywodraeth leol a bod dau ffactor allweddol sef yr amser y byddai ailstrwythuro yn ei gymryd a faint o arbedion y byddai ailstrwythuro yn eu cynhyrchu. Nid yw strwythurau mwy eu maint bob tro yn arwain at leihad mewn costau. Mae'r Cyngor eisoes yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau a sectorau eraill ac mae gweithio mewn partneriaeth yn un o'i werthoedd craidd. Pan fydd yn ymgysylltu ag eraill, mae'r Cyngor yn gwneud hynny'n dda ac yn effeithiol gyda Swyddogion yn edrych i weld lle gall cydweithio arwain at ganlyniadau gwell a mwy cost-effeithiol.

Agorodd y Cadeirydd y drafodaeth i'r rhai a wahoddwyd i'r cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd Ken Taylor fod ganddo hyder yn swyddogion a staff y Cyngor ac oherwydd ei fod yn pryderu am effaith cyllid a thoriadau i wasanaethau ar forâl cymunedol roedd y Cynghorydd Jeff Evans yn awyddus i roi gobaith i’r cyhoedd ynghylch y dyfodol a chyfeiriodd yn benodol at y cyfleoedd a'r manteision a allai ddeillio er enghraifft, o Borthladd Rhydd Môn a Chodi’r Gwastad.

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gwahaniaeth rhwng sefyllfa ariannol y Cyngor a'i allu i gynnal lefelau gwasanaeth presennol a’r cyfeiriad cyffredinol y mae’r Ynys yn mynd iddo. Mae newid yr economi yn cymryd amser ac yn gofyn am gymorth ac ymyriadau Llywodraeth Cymru a'r DU. Mae effaith colli swyddi dros y 10 i 20 mlynedd diwethaf bellach yn cael ei deimlo wrth i'r gostyngiad yn nifer y bobl o oedran gweithio ar yr Ynys gael ei adlewyrchu yn y setliad ac felly mae angen sicrhau Porthladd Rhydd Môn ac Ynys Ynni fel ffyrdd o wyrdroi dirywiad a reolir.  Mae creu swyddi o safon yn allweddol i'r ymdrech honno ac er y gall y Cyngor hwyluso a chwarae rhan yn y broses honno, mae pryder y gallai'r rhagolygon ariannol ar gyfer y blynyddoedd nesaf danseilio gallu'r Cyngor wrth iddo ganolbwyntio ar ei gyfrifoldebau statudol. Mae yna le i obeithio yn ogystal â bwriad ac ymrwymiad i ddenu buddsoddiad i'r Ynys ac i greu twf cyflogaeth. Cyflwynwyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn i Lywodraeth Cymru cyn y Nadolig ac mae disgwyl penderfyniad arno ar ôl Mawrth 2024 sy'n golygu y bydd yn rhaid ystyried manteision posibl statws Porthladd Rhydd wrth osod cyllideb 2025/26. Er bod optimistiaeth o ran y tymor hir, ni ellir ei gynnwys ym mhroses gosod cyllideb y Cyngor gan fod hynny'n delio â'r presennol.

Cyflwynodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid adborth y Panel o'i dri chyfarfod yr wythnos flaenorol i graffu ar Gyllideb ddrafft gychwynnol arfaethedig 2024/25. Yn ogystal â chael adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar y cynigion hynny, derbyniodd y Panel adroddiadau llafar gan yr Aelodau Portffolio a'r Penaethiaid Gwasanaeth mewn perthynas â Dysgu ac Ysgolion, Hamdden, Plant a Theuluoedd a Gwasanaethau Oedolion. Ar ôl ystyried y dogfennau a gyflwynwyd a'r eglurhad a ddarparwyd gan Swyddogion ac Aelodau Portffolio ynghylch manylion ac effeithiau'r cynigion, penderfynodd y Panel gefnogi cynigion y gyllideb fel y'u cyflwynwyd ac argymell y canlynol i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol –

·         Cyllideb Refeniw net arfaethedig ar gyfer 2024/25 o £184.219m

·         Arbedion cyllidebol o £4.773m

·         Cynnydd yn y Premiwm Ail Gartrefi o 75% i 100%

·         Rhyddhau £4.425m o Falansau Cyffredinol y Cyngor a chronfeydd wedi'u clustnodi i gydbwyso Cyllideb Refeniw 2024/25

·         Cynnydd yn y Dreth Gyngor o 9.78% yn ogystal â 1.12% i dalu am Ardoll y Gwasanaeth Tân.

Ar ôl craffu ar Gyllideb Refeniw ddrafft gychwynnol arfaethedig 2024/25 ac ystyried y pwyntiau a godwyd yn y drafodaeth ac ymatebion y Swyddogion a'r Aelod Portffolio ynghyd ag adborth y Panel Sgriwtini Cyllid, penderfynwyd cefnogi ac argymell cynigion drafft Cyllideb Refeniw 2024/25 fel y'u cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith sy'n cynnwys y canlynol -

·      Cyllideb Refeniw net arfaethedig ar gyfer 2024/25 o £184.219m

·      Arbedion cyllidebol o £4.773m

·      Cynnydd yn y Premiwm Ail Gartrefi o 75% i 100%

·      Rhyddhau £4.425m o Falansau Cyffredinol y Cyngor a chronfeydd wedi'u clustnodi i gydbwyso Cyllideb Refeniw 2024/25

·      Cynnydd yn y Dreth Gyngor o 9.78% yn ogystal â 1.12% i dalu am Ardoll y Gwasanaeth Tân.

(Roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn dymuno iddo gael ei nodi ei fod wedi pleidleisio’n unig dros gyflwyno’r cynigion ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ac nid ar gyfer y cynigion eu hunain).

 

Dogfennau ategol: