Eitem Rhaglen

Cylldeb Refeniw Ddrafft 2024/25

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori cynigion drafft cychwynnol y Gyllideb Refeniw am 2024/25.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid, yr adroddiad, gan ddweud bod setliad dros dro Llywodraeth Cymru yn dangos cynnydd o £169.8m yn lefel gyffredinol y cyllid i Gymru, sy’n cyfateb i gynnydd o 3.1% mewn arian parod. Mae’r setliad drafft wedi arwain at gynnydd o 2.5% i Ynys Môn (0.6% yn is na chyfartaledd Cymru a’r 17eg cynnydd uchaf o’r 22 awdurdod) sydd, ar ôl i’r prif newidiadau cyllidebol gael eu hystyried, yn gadael diffyg ariannu o £14.391m cyn unrhyw newid yn Nhreth y Cyngor. Byddai pontio'r bwlch hwn drwy Dreth y Cyngor yn unig yn golygu codi Treth y Cyngor 30%, sy'n annerbyniol ac afrealistig ym marn y Pwyllgor Gwaith. Mae'r Pwyllgor Gwaith, felly, yn cynnig gwneud iawn am y diffyg trwy gyfuniad o arbedion yn y gyllideb o £4.773m (cyllid i ysgolion 2.5% yn is na chwyddiant, gostyngiadau yn y gweithlu, arbedion eraill yn y gyllideb, yn unol â Thabl 4 ac Atodiad 3 yr adroddiad a defnyddio Premiwm Treth y Cyngor i gefnogi costau gwasanaeth), defnyddio £4.425m o gronfeydd wrth gefn (£1.6m o’r Balansau Cyffredinol a £2.825m o’r Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd) a chynnydd o 9.78% yn Nhreth y Cyngor ynghyd ag 1.12% ychwanegol i ariannu’r cynnydd yn Ardoll y Gwasanaeth Tân (gan nodi y gallai hyn newid yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf) gan wneud cyfanswm cynnydd o 10.9%. Byddai hyn yn mynd â thâl Band D (ac eithrio praeseptau’r Heddlu a Chynghorau Tref/Cymuned) i £1,592.37, cynnydd o £156.51 neu £3.01 yr wythnos.

 

Er pwysleisio nad oedd lefel y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Gwaith yn gyfforddus ag o, cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at y cyd-destun ariannol anodd a'r hinsawdd ariannol ansicr sydd wedi gwneud paratoi'r gyllideb refeniw dros dro 2024/25 yn dasg heriol. Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r Cyngor ddarparu cyllideb fantoledig ac, er gwaethaf y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor, sydd ar lefel debyg i gynnydd dangosol gan awdurdodau eraill, mae Ynys Môn yn parhau i fod yn un o’r awdurdodau sy’n codi’r dreth isaf yng Nghymru, wedi iddo reoli arian yn ddarbodus yn y blynyddoedd blaenorol. Mae hyn wedi cryfhau ei sefyllfa ariannol ac yn ei helpu i ymdrin yn y tymor byr â’r heriau y mae’n eu hwynebu. Os caiff cynigion y Gyllideb ddrafft eu cymeradwyo, byddir yn ymgynghori â’r cyhoedd yn eu cylch am bythefnos.

 

Manteisiodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar y cyfle i egluro’r broses o osod y gyllideb a’r opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor o ran pennu cyllideb fantoledig, sy’n ofyn cyfreithiol, a thynnodd sylw at y terfynau a’r cyfyngiadau ar y ffynonellau cyllid sydd ar gael i'r Cyngor. Daw’r rhan fwyaf o gyllid y Cyngor gan Lywodraeth Cymru ar ffurf y Grant Cynnal Refeniw, y gall y Cyngor ei wario fel y mae’n dymuno i ddiwallu anghenion a blaenoriaethau lleol. Caiff y grant ei ddosbarthu yn ôl fformiwla ariannu sy'n seiliedig ar setiau data amrywiol, gan gynnwys poblogaeth, nifer y bobl sy'n derbyn budd-daliadau a disgyblion ysgol ac ati, sy'n pennu faint o gyllid y mae cyngor yn ei dderbyn. Mae cyfran 2024/25 Ynys Môn o’r cyllid wedi cynyddu 2.5%, sy’n sylweddol is na chyfradd chwyddiant. Nid yw, chwaith, yn cwrdd â’r costau uwch o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor yn y flwyddyn i ddod, o ystyried hefyd y galw cynyddol am wasanaethau megis plant a gofal cymdeithasol a digartrefedd oedolion wrth i fwy o bobl ddefnyddio’r gwasanaethau hynny. Mae llawer o’r costau sy’n wynebu’r Cyngor, gan gynnwys tâl athrawon, tâl staff nad ydynt yn addysgu, pensiynau, ynni, y Cyflog Byw Cenedlaethol, Ardoll y Gwasanaeth Tân ac ati, y tu hwnt i’w reolaeth ac, er bod y gyllideb yn cynnwys ffioedd a thaliadau, mae cyfyngiadau ar faint y gellir cynyddu'r rhain, gyda chap ar rai codiadau mewn ffioedd. Yr unig ffynonellau ariannu eraill sydd ar gael i'r Cyngor yw'r arian sydd ganddo wrth gefn a Threth y Cyngor. Ni all y Cyngor ddechrau cyfrifo’r swm y mae angen iddo’i gynhyrchu o Dreth y Cyngor nes ei fod yn gwybod faint o gyllid y bydd yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, rhywbeth na chafodd ei gyhoeddi tan 20 Rhagfyr, 2023. Fel yn 2023/24, mae cynigion y gyllideb am 2024/25 yn cynnwys defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor i helpu i gwrdd â’r diffyg cyllid ac ynghyd ag arbedion cyllidebol, gyfyngu ar y cynnydd yn Nhreth y Cyngor, cyn belled ag y bo’n rhesymol bosibl. Er y bydd y dull hwn yn helpu’r Cyngor i osod cyllideb gytbwys am 2024/25, nid yw’n gynaliadwy yn y tymor hir ac nid yw'n mynd i'r afael â'r mater sylfaenol o ran cyllid digonol i allu darparu gwasanaethau yn unol â chostau a galw. Mae defnyddio arian sydd gan y Cyngor wrth gefn i wneud iawn am y diffyg yn y gyllideb, hefyd, yn gwanhau gwytnwch ariannol y Cyngor a’i allu i ymdrin â heriau ariannol yn y dyfodol, yn enwedig gan fod blwyddyn ariannol 2025/26 yn debygol o fod yr un mor heriol, os nad yn fwy heriol, o ran cost ariannu Llywodraeth Cymru, a'r dewisiadau a'r penderfyniadau y bydd yn rhaid eu gwneud o ganlyniad i hynny er mwyn galluogi'r Cyngor i fantoli ei gyllideb ac osgoi mynd yn fethdalwr.

 

Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth grynodeb o ymateb y Pwyllgorau Craffu i gynigion dros dro Cyllideb 2024/25 a'r materion a drafodwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 16 Ionawr 2024. Cadarnhaodd fod y Pwyllgor, yn dilyn trafodaeth, wedi cymeradwyo'r cynigion cyllidebol oedd yn cynnwys cyllideb ddrafft gychwynnol o £184.219m, gostyngiadau yn y gyllideb o £4.773m, defnyddio £4.425m o gronfeydd wrth gefn, cynnydd yn y premiwm ail gartrefi o 75% i 100% a chynnydd o 10.9% yn Nhreth y Cyngor oedd yn cynnwys cynnydd o 1.12% i dalu Ardoll y Gwasanaeth Tân.

 

Cydnabu’r Pwyllgor Gwaith fod drafftio Cyllideb 2024/25 wedi bod yn dasg hynod heriol gyda graddfa’r diffyg ariannol sy’n wynebu’r Cyngor yn llawer mwy na’r hyn a brofwyd yn ystod y cyfnod cychwynnol o galedi, gyda phenderfyniadau anodd yn gorfod cael eu gwneud ynghylch lleihau gwasanaethau a Threth y Cyngor. Disgrifiodd Aelodau’r Pwyllgor Gwaith yr heriau a wynebir gan eu meysydd portffolio unigol ac, er bod pwysau yn y maes gofal cymdeithasol oedolion a phlant o ganlyniad i boblogaeth sy'n heneiddio, galw cynyddol ac anghenion mwy cymhleth yn hysbys i bawb, pwysleisiwyd, hefyd, effaith llai o gyllid, gan gynnwys ansicrwydd ynghylch cyllid grant ar wasanaethau anstatudol, megis Hamdden a werthfawrogir gan drigolion Ynys Môn, nid yn unig i chwaraeon ond er budd iechyd a lles. Cyfeiriodd Aelodau'r Pwyllgor Gwaith at y cynigion fel cynnyrch trafodaeth hir dros fisoedd lawer a phwysleisiwyd nad oeddent yn cael eu cyflwyno ar chwarae bach. Ystyrir mai'r cyfuniad o ostyngiadau yn y gyllideb, defnyddio cronfeydd wrth gefn a chynnydd yn Nhreth y Cyngor yw'r ateb mwyaf rhesymol o ran lleihau'r effaith a diogelu gwasanaethau i'r rhai mwyaf bregus. Derbyniodd Aelodau'r Pwyllgor Gwaith nad yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy a holwyd y Swyddogion ynghylch y risgiau i'r Cyngor o allu parhau i gynnal perfformiad a rhoi gwasanaethau i'r un lefel ac ansawdd os na chynyddir cyllidebau yn unol â hynny.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod cynghorau, os nad y sector cyhoeddus ehangach, yn wynebu argyfwng ariannu a phwysleisiodd yr effaith y mae penderfyniadau cyllidebol y Cyngor yn ei chael ar gyrff eraill yn y sector cyhoeddus, megis y Bwrdd Iechyd a’r Heddlu. Er bod llawer o'r gwasanaethau statudol y mae'n ofynnol i'r Cyngor eu darparu mewn perthynas â gofal cymdeithasol a digartrefedd plant ac oedolion yn cael eu llywio gan alw, rhaid i'r Cyngor ymateb iddo waeth beth fo'r gyllideb, Mae gwasanaethau eraill yn ataliol eu natur ac yn helpu i leihau'r pwysau ar iechyd a phlismona. Dyma’r gwasanaethau sydd mewn perygl oherwydd toriadau yn y gyllideb neu ostyngiadau mewn cyllid grant, sy’n golygu y bydd y pwysau’n cael eu trosglwyddo i feysydd eraill yn y sector cyhoeddus gyda mwy o bobl yn cyrraedd pwynt argyfwng yn gynt. Mae'r Cyngor yn darparu ystod o wasanaethau anstatudol o ganolfannau hamdden i gyfleusterau cyhoeddus a datblygu economaidd, gwasanaethau sy'n cael effaith ar ansawdd bywyd y mae gan y bobl hynny, nad oes ganddynt ofynion addysg neu ofal cymdeithasol, ddisgwyliadau ohonynt fel Trethdalwyr a chyfranwyr. Er bod yn rhaid rheoli'r risg i'r gwasanaethau hyn yn 2024/25, yr hyn sy’n bwysig yn 2025/26 yw i ba raddau y gall y Cyngor gydymffurfio â gofynion statudol wrth ddarparu ei wasanaethau. Os bydd y bwlch cyllido’n parhau neu’n cynyddu yna bydd angen i Lywodraeth Cymru a rheoleiddwyr ailfeddwl am y trothwyon statudol neu bydd cynghorau’n methu’r rheini gan greu risg i’r boblogaeth hŷn a’r rhai sy’n ddibynnol ar wasanaethau’r Cyngor. Mae gostyngiadau yn y gyllideb, hefyd, yn cael effaith ar forâl a lles staff, yn ogystal ag ar safon y ddarpariaeth os bydd nifer y gweithlu’n lleihau. Mae penderfyniadau i gynyddu cyflogau a phensiynau, heb roi cyllid ychwanegol i gynghorau i ariannu’r codiadau hynny, yn golygu bod llai o staff ar gyflogau a phensiynau gwell a thimau llai i ddarparu gwasanaethau.

Penderfynwyd

 

·      Cymeradwyo’r gyllideb arfaethedig gychwynnol ar gyfer 2024/25 £184.219m.

·      Cymeradwyo cynnydd arfaethedig o 9.78% yn y Dreth Gyngor, ynghyd â1.12% i gwrdd ag Ardoll y GwasanaethTân, sef cyfanswm o 10.9% gan olygu bod y gost i eiddo Band D yn £1,592.37.

·      Cynnig yn ffurfiol bod y premiwm ar ail gartrefi’n codi o 75% i 100%.

·      Bod £4.425m yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol y Cyngor a chronfeydd wrth gefn clutnodedig er mwyn cydbwyso cyllideb refeniw 2024/25.

 

Dogfennau ategol: