Eitem Rhaglen

Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol 2024/25

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod y gyfradd ar gyfer ffïoedd cartrefi gofal y sector annibynnol am 2024/25, yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion oedd yn nodi’r ffïoedd arfaethedig ar gyfer gofal Preswyl, gofal Preswyl yr Henoed Bregus eu Meddwl, gofal Nyrsio a gofal Nyrsio Henoed Bregus eu Meddwl, am y flwyddyn ariannol 2024/25. Mae’n ofynnol i’r Awdurdod Lleol adolygu ffïoedd cartrefi gofal y sector annibynnol yn flynyddol i gyd-fynd â newidiadau’r Llywodraeth Ganolog i lefelau budd-daliadau a phensiynau.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod angen i’r Cyngor, wrth osod lefelau ffïoedd i gartrefi gofal y sector annibynnol, ddangos ei fod wedi rhoi ystyriaeth lawn i gost y ddarpariaeth wrth bennu ffïoedd gofal safonol. Gwneir hyn mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru a'r Bwrdd Iechyd trwy ddefnyddio Methodoleg Ffïoedd Ranbarthol yn feincnod. Mae’r model hwn wedi’i ddefnyddio’n feincnod am 2024/25 ac mae’r pecyn cymorth methodoleg ranbarthol wedi’i addasu i gynnwys atodiad marchnad ar gyfer darpariaeth yr Henoed Bregus eu Meddwl eto eleni. Ar hyn o bryd nid oes cadarnhad y bydd pob awdurdod yng Ngogledd Cymru’n defnyddio'r fethodoleg ranbarthol yn sail i osod eu ffïoedd am 2024/25. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chymheiriaid y Cyngor yn y rhanbarth i sicrhau bod ffïoedd Ynys Môn yn gymaradwy. O ystyried amgylchiadau lleol, argaeledd y ddarpariaeth, pwysau galw yn ogystal â’r fformiwla ranbarthol, mae Ynys Môn yn cynnig cynyddu ei ffïoedd 8.8% am 2024/25 i gydnabod y pwysau ariannol a wynebir gan ddarparwyr. Mae hyn yn fwy na’r codiadau chwyddiant a gyfrifwyd gan ddefnyddio’r fethodoleg ranbarthol ac mae ymhell uwchlaw’r cynnydd o 2.5% yn setliad y Cyngor gan Lywodraeth Cymru. Mae ffïoedd arfaethedig Ynys Môn am 2024/25 wedi’u nodi yn Nhabl 2 o’r adroddiad. Os caiff y cynnydd o 8.8% ei gymeradwyo, bydd yn berthnasol i gartrefi sy’n derbyn cyfraddau safonol y Cyngor. Gofynnir i unrhyw un sy'n derbyn ffioedd uwch na'r gyfradd ddangosol ar hyn o bryd rannu gwybodaeth ariannol a byddir yn ystyried codiad ariannol. Bydd yr Awdurdod yn ystyried cyflwyniadau unigol gan ddarparwyr ynghylch ffioedd ac, os gellir dangos nad yw'r ffi a osodwyd yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol, bydd yr Awdurdod yn ystyried eithriadau i'r cyfraddau ffioedd, yn unol â'r broses a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd

 

·      Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu’r lefelau ffioedd fel a ganlyn

 

GofalPreswyl (Oedolion) - £774.47 yr wythnos

Preswyl (Pobl Hŷn Bregus eu Meddwl) - £865.46 yr wythnos

GofalNyrsio (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £851.81 yr wythnos

GofalNyrsio (Pobl Hŷn Bregus eu Meddwl) (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £1,005.03 yr wythnos

 

·      Awdurdodi’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Cyllid ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i edrych are eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sylfaen i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gyda’r Deilydd Portffolio Gwasanaethau Oedolion, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth(Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion o’r cyllidebau cyfredol.

 

Dogfennau ategol: