Eitem Rhaglen

Moderneiddio a Thrawsnewid Gweithgareddau Dydd yn Ardal Caergybi

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynnig i foderneiddio a thrawsnewid gwasanaethau dydd i oedolion ag anableddau dysgu yn ardal Caergybi.

 

Y rheswm am yr adroddiad oedd er mwyn ymateb i ddyheadau defnyddwyr gwasanaeth a chynnig profiad gwell a mwy amrywiol a gwireddu gweledigaeth y gwasanaethau Oedolion bod cymaint o weithgareddau dydd â phosibl yn cael eu darparu o leoliadau cymunedol, gan roi cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu fynd i weithgareddau prif ffrwd ac integreiddio i fywyd bob dydd a gweithgaredd eu cymunedau. Holwyd defnyddwyr gweithgareddau dydd i ganfod eu barn am weithgareddau a ddarperir o leoliadau cymunedol ym mis Awst a mis Medi 2023 a cheir croestoriad o ymatebion i’r ymarfer yn Atodiad 1 yr adroddiad. Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar ddyfodol gweithgareddau dydd yng Nghanolfan Morswyn yng Nghaergybi rhwng 23 Hydref a 1 Rhagfyr 2023 a cheir crynodeb o’r ymatebion yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, gan ddweud y byddai gwireddu’r weledigaeth hon yn fodd i bobl ag anableddau dysgu ddewis lle a phryd y dymunant fynd am weithgareddau. Disgrifiodd ei ymgysylltiad ei hun â phobl ag anableddau dysgu sydd, ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad, wedi dangos eu bod yn glir ynghylch yr hyn y maent yn ei hoffi ac yn ei fwynhau a’r hyn sydd ei eisiau arnynt o ran profiadau, bywyd llawnach, a mwy o reolaeth dros yr hyn y maent yn ei wneud a nhw sy'n llywio'r newidiadau. Cydnabyddir bod gan unigolion anghenion gwahanol ac y bydd angen mwy o gefnogaeth ar rai unigolion nag ar eraill. Bydd y Gwasanaeth yn edrych ar gefnogaeth sy'n ymateb i anghenion unigolion.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod gweithgareddau dydd i bobl ag anableddau dysgu, yn draddodiadol, wedi’u darparu o adeilad dynodedig. Mae gan y Cyngor bedwar safle penodol sy'n darparu gweithgareddau ar gyfer tua 110 o bobl, gan gynnwys Canolfan Ddydd Morswyn yng Nghaergybi. Er bod mynd i’r canolfannau yn ymateb i anghenion nifer o bobl ac yn cadw pobl yn ddiogel, mae’r model yn canolbwyntio ar fynd i leoliad a chyflawni gweithgareddau ffurfiol a all gyfyngu ar y dewisiadau sydd ar gael i unigolion a chyfyngu ar eu rheolaeth bersonol dros eu bywydau eu hunain. Gan mai ar gyfer pobl ag anableddau dysgu’n unig y mae'r canolfannau'n darparu, nid ydynt bob amser yn hyrwyddo'r nod o wella hyder ac annibyniaeth pobl ag anableddau dysgu nac yn rhoi cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu integreiddio i fywyd bob dydd eu cymunedau. Yn ardal Caergybi mae’r Adran wedi edrych ar ddull amgen o ddiwallu anghenion defnyddwyr, lle darperir gweithgareddau dydd o adeiladau/lleoliadau cymunedol. Roedd yr ymateb wedi bod yn gadarnhaol fel y tystiwyd gan yr ymatebion o’r ymgysylltu a’r ymgynghoriad ffurfiol. Lle mynegwyd pryder ynghylch cefnogi pobl ag anghenion cymhleth yn y gymuned bydd, y Gwasanaeth yn gweithio gyda'r unigolion hyn i nodi'r ffordd orau o ddiwallu eu hanghenion.

 

Y cynnig yw rhoi’r gorau i ddefnyddio Canolfan Ddydd Morswyn yng Nghaergybi. Cyn y pandemig roedd y ganolfan yn darparu gweithgareddau ar gyfer tua 20 o unigolion bob dydd. Mewn ymateb i heriau cyfyngiadau cysylltiedig â Covid-19, dechreuodd y Gwasanaeth Oedolion ddefnyddio adeiladau cymunedol yn nhref Caergybi i gynnal gweithgareddau dydd ac mae’r dull hwn wedi bod yn boblogaidd ac wedi arwain at lai o bobl yn mynd i Ganolfan Ddydd Morswyn. Mae'r adroddiad yn amlinellu'r arbedion ariannol o roi'r gorau i ddefnyddio canolfan Morswyn, sy'n cynnwys £11,500 o arbedion refeniw a £103,000 o gostau cynnal a chadw hanfodol dros y blynyddoedd nesaf. Nid oes disgwyl gwireddu arbedion yn y gyllideb staffio gan y bydd staff yn trosglwyddo i weithio yn y gymuned neu mewn canolfannau eraill.

 

Rhoddoddy Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, ymateb Sgriwtini i’r cynigion a chyfeiriodd at y materion a drafodwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2024 wrth ystyried y mater. Cadarnhaodd gefnogaeth y Pwyllgor i’r cynigion gyda’r Pwyllgor hefyd yn gofyn i’r Gwasanaethau Oedolion drefnu i aelodau etholedig ymweld â gwasanaethau awdurdodau lleol sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y cynigion yn rhai sy'n galluogi oedolion ag anableddau dysgu i fyw bywyd mwy annibynnol a chyffredin, gyda mwy o gyfleoedd i gymryd rhan a chael eu cynnwys yn eu cymunedau. Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, ar ôl darllen yr adroddiad a chlywed adroddiad yr Aelod Portffolio dros Wasanaethau Oedolion am ei sgyrsiau gyda phobl ag anableddau dysgu am eu dyheadau a’u dymuniadau, roedd yn gwbl gefnogol i'r datblygiad fel un a fydd yn agor drysau i brofiadau a chyfleoedd newydd i bobl ag anableddau dysgu a'r staff sy'n eu cefnogi er y bu ganddo amheuon yn y dechrau ynghylch cau Canolfan Ddydd Morswyn, oedd yn yn ei ward. Gan gydnabod bod gweithredu'r cynigion yn broses dros gyfnod o amser, roedd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn awyddus i sicrhau y rhoddir ar waith fesurau trosiannol a chefnogaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth a hefyd sicrwydd bod y cyfleusterau cymunedol yn ddigonol i ddiwallu anghenion unigol. Cynigiwyd a derbyniwyd adlewyrchu hyn yng ngeiriad y penderfyniad.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhelliad yr adroddiad fel a ganlyn

 

Integreiddio defnyddwyr i fod yn fwy o ran o’r gymuned ac ymateb i ddyheadau pobl sy’n mynychu gweithgareddau er mwyn darparu allbynnau gwell. Parhau i drawsnewid a moderneiddio’r ffordd o ddarparu Gweithgareddau Dydd gyda’r pwyslais ar ddefnyddio adeiladau cymunedol. Gan fod y defnydd o Morswyn wedi lleihau, dirwyn y gwasanaeth presennol i ben. Datgan yr eiddo yn weddilI i anghenion gan wahodd datganiad o ddiddordeb gan adrannau eraill. Os na fydd defnydd, gwaredu’r eiddo a throsglwyddo’r dderbynneb i’r Adran Oedolion. Sicrhau bod mesurau trosiannol i ddefnyddwyr a sicrhau bod addasiad trosiannol o’r gwasanaeth i ddefnyddwyr. Sicrhau hefyd bod adnoddau/ cyfleusterau yn y gymuned yn addas ac yn cwrdd ag anghenion unigolion.

 

Dogfennau ategol: