Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol 2022/23

Cyflwyno adroddiad y Prif Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn amlinellu perfformiad yr Awdurdod mewn perthynas ag Iechyd a Diogelwch yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. Roedd yr adroddiad yn darparu trosolwg o weithgareddau iechyd a diogelwch o fewn y Cyngor yn ystod y cyfnod, ac roedd yn cynnwys dadansoddiad o ddamweiniau a digwyddiadau a’r prif lwyddiannau ynghyd â chynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn olynol. 

 

Pwyntiau a drafodwyd gan y Pwyllgor –

 

·      Oherwydd y cynnydd yn y digwyddiadau a gofnodwyd, a’r digwyddiadau yr oedd rhaid adrodd amdanynt o dan drefniadau RIDDOR yn 2022/23, o gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol, byddai’n ddefnyddiol pe bai data am y cyfnod cyn Covid wedi cael ei gynnwys er mwyn penderfynu p’un a oedd y ffigyrau’n debyg i’r ffigyrau ar gyfer y blynyddoedd yn union cyn Covid a’u bod yn adlewyrchu newid yn y cyfyngiadau Covid, neu p’un a ydynt yn arwydd bod rhywbeth o’i le a bod angen, felly, adolygu’r strategaeth iechyd a diogelwch.

·      A ellir gweld unrhyw batrymau yn y digwyddiadau a gofnodwyd yn 2023/24 neu a oes unrhyw dueddiadau’n dod i’r amlwg.

·      A yw’r achosion o lithro a syrthio yn cynnwys digwyddiadau yng nghartrefi gofal preswyl yr Awdurdod ac a fyddai’n bosib darparu mwy o fanylder yn yr adroddiad gan fod effaith syrthio’n gallu effeithio ar natur y gofal y mae pobl hyn yn ei dderbyn.

·      P’un a yw’r cynnydd mewn digwyddiadau iechyd a diogelwch wedi arwain at gynnydd mewn hawliadau yswiriant a chreu costau ychwanegol i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch ei bod yn anodd mesur 2022/23 yn erbyn blynyddoedd cynharach oherwydd bod y cyfyngiadau yn cael eu codi yn ystod y cyfnodau hynny ac, o safbwynt cymharu ffigyrau, mae’n debyg y byddai’n well cymharu â 2023/24 gan fod trefniadau gweithio mwy arferol wedi ailgychwyn. Esboniodd beth yw’r gofynion cyfreithiol o ran cadw gwahanol gategorïau o ddata am ddigwyddiadau iechyd a diogelwch a chadarnhaodd fod nifer y digwyddiadau a gofnodwyd hyd at Ionawr 2023 yn uwch na’r flwyddyn flaenorol, ond ychwanegodd nad yw’r cynnydd o reidrwydd yn arwydd o broblem a bod angen dadansoddi’r data cyn dod i gasgliad, yn hytrach na dim ond meincnodi’r data. Eglurodd y Swyddog fod y digwyddiadau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yn cynnwys yr holl ddigwyddiadau a gofnodwyd a’u bod yn cynnwys achosion lle mae cleientiaid wedi syrthio mewn cartrefi gofal, yn ogystal ag achosion o ddisgyblion yn llithro a syrthio mewn ysgolion a dywedodd y byddai’n bosib darparu data ar yr achosion o lithro a syrthio mewn cartrefi gofal i’r henoed pe byddai angen.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg nad oedd data ynglŷn â hawliadau yswiriant yn erbyn y Cyngor a’r costau yn ei meddiant ond bod y wybodaeth ar gael.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhelliad yr adroddiad, sef y dylai’r Cyngor ddilyn cynllun strategol ar gyfer rheoli Iechyd a Diogelwch a rhoi’r Cynllun Gweithredu Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ar waith.

 

Gweithredoedd ychwanegol –

 

·      Gofyn i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd gynnwys data ar gyfer digwyddiadau iechyd a diogelwch a gofnodwyd a’r digwyddiadau yr oedd rhaid hysbysu’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch amdanynt ar gyfer y cyfnod cyn Covid yn yr Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol 2023/24.

·      Bod y data ar gyfer achosion o lithro a syrthio yng nghartrefi gofal preswyl i’r henoed yr Awdurdod yn cael eu dangos ar wahân yn yr adroddiad.

·      Bod y pwyllgor yn derbyn gwybodaeth ynglŷn â hawliadau yswiriant yn erbyn y Cyngor a’r costau yn ystod yr un cyfnod.

 

Dogfennau ategol: