Eitem Rhaglen

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·         Roedd y Cadeirydd yn dymuno diolch i Menter Môn am drefnu nifer o orymdeithiau i nodi dydd Gŵyl Dewi. Dywedodd iddi gael y fraint o fynychu gorymdaith Llangefni a braf oedd gweld cymaint o blant ysgol ifanc lleol yn dathlu eu Cymreictod. Bu ysgolion Môn yn dathlu dydd Gŵyl Dewi hefyd. Cafodd plant Ysgol Henblas neges fideo arbennig iawn gan Archdderwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mererid Hopwood.

 

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at Ŵyl Gorawl Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Llandudno dros y penwythnos ac roedd Côr Ieuenctid Môn yn fuddugol yng nghategori Corau Sioe ac yn ail yn y categori Lleisiau Ifanc.

 

·         Llongyfarchiadau i Mr Tom Bown o Lannerch-y-medd. Mae Mr Bown wedi bod yn mesur glawiad bob diwrnod ers 1948 ac mae’n parhau traddodiad teuluol a gychwynnodd gyda’i daid. Cafodd ei anrhydeddu am ei wasanaeth yn ddiweddar gan y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru.

 

·         Llongyfarchiadau i Mr Peter Jones o Ynys Môn sydd wedi derbyn MBE yn ddiweddar fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth tuag at dir mawn Cymru. Mae Mr Jones yn Uwch Ymgynghorydd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac mae’n arbenigo mewn ecosystemau mawn ar hyd a lled Cymru.

 

·         Dymunodd y Cadeirydd yn dda i Siop Sglodion Finneys ym Menllech sydd wedi cyrraedd rownd derfynol categori ‘Tec-awê y Flwyddyn’ yng ngwobrau cenedlaethol y National Federation of Fish Fryers. Rhain yw gwobrau mwyaf mawreddog y diwydiant.

 

·         Llongyfarchiadau i Mr Tomos Parry, sydd yn wreiddiol o Ynys Môn, am ennill ei ail seren Michelin. Enillodd ei seren gyntaf yn 2018 am ei fwyty ‘Brat’ yn Llundain ac yn awr mae wedi llwyddo i ennill ei ail seren gyda’i fwyty newydd ‘Mountain’.

 

·         Llongyfarchiadau i’r athletwraig ifanc, Eli Jones, ar ddod yn bencampwr dan 20 Cymru ar y 60 medr a’r 200 medr dan do.

 

·          Llongyfarchiadau hefyd i Meinir Thomas, o Langefni, sydd wedi ei dewis yn aelod o garfan hoci dros 55 oed Meistri Cymru unwaith yn rhagor. Bydd yn cystadlu mewn tair cystadleuaeth – sef Pencampwriaeth y Gwledydd Cartref yn Nottingham, cystadleuaeth pedwar gwlad yn yr Almaen, a Chwpan y Byd yn Seland Newydd ym mis Tachwedd.

 

*          *          *        *          *

 

Cydymdeimlwyd â theulu’r cyn Gynghorydd Vaughan Hughes, a fu farw ar ddechrau’r flwyddyn. Bu Mr Hughes yn gynghorydd sir am ddeng mlynedd a chyn hynny, roedd yn ddarlledwr adnabyddus, yn gyflwynydd ac yn gynhyrchydd teledu. Bu hefyd yn golygu cylchgrawn barn hyd at ei farwolaeth. Treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd ym Môn ac roedd yn frwd dros yr Ynys. Bydd gwobr goffa flynyddol yn ei enw’n cael ei sefydlu yn Eisteddfod Môn.

 

Cydymdeimlwyd hefyd â theulu Mr Iolo ‘Trefri’ Owen a fu farw’n ddiweddar. Roedd yn amaethwr ac yn ddyn busnes arloesol. Cafodd y fraint yn 2021 o agor Ffair Aeaf Môn fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad aruthrol i’r byd amaeth ar yr Ynys.

 

Cydymdeimlwyd â theulu’r diweddar Ms Bethan James a oedd yn ymgynghorydd gyda GwE ac yn mynychu cyfarfodydd CYSAG y Cyngor.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor Sir neu Staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.

 

Safodd Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.