Eitem Rhaglen

Moderneiddio Cyfleon Dydd : Anableddau Dysgu (ardal Caergybi)

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion bod oddeutu 20 unigolyn gydag anableddau dysgu yn mynychu Canolfan Ddydd Morswyn yn adeilad hen Ysgol Morswyn cyn y pandemig Covid. Pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio, nid oedd yr adeilad yn ddigon mawr ar gyfer yr un faint o bobl gan fod yn rhaid cadw pellter cymdeithasol. Mewn ymateb i’r her, dechreuodd y Gwasanaethau Oedolion gynnal gweithgareddau mewn adeiladau cymunedol yng Nghaergybi.  Mae defnydd cyson ar adeiladau ‘Boston Centre Stage’ a’r ‘Sgowtiaid Morwrol’. Yn draddodiadol mae gweithgareddau dydd ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu yn cael eu darparu mewn adeiladau dynodedig ac mae gan y Cyngor bedwar safle penodol sef Canolfan Ddydd Morswyn, Caergybi, Canolfan Ddydd Gors Felen, Llangefni, Canolfan Ddydd Blaen y Coed, Llangoed a Gerddi Haulfre, Llangoed.  Mae’n bwysig iawn bod dewis o weithgareddau ar gael i bobl ag anableddau dysgu a’u bod yn cael eu cefnogi i fyw bywydau llawn a gweithgar,  magu hyder ac annibyniaeth a dod yn rhan annatod o’u cymuned leol. Nododd bod y Gwasanaethau Oedolion yn dymuno datblygu’r model ac ehangu’r nifer o leoliadau sy’n darparu gweithgareddau dydd i bobl gydag Anabledd Dysgu yn ardal Caergybi a byddai dargyfeirio adnoddau o Ganolfan Morswyn yn caniatáu buddsoddiad pellach yn y weledigaeth honno.  Rhwng mis Awst a mis Medi 2023, casglodd yr Adran Oedolion farn y bobl sy’n defnyddio gweithgareddau dydd yn ardal Caergybi a’u teuluoedd. Bwriad yr ymarferiad oedd mesur barn defnyddwyr a’u teuluoedd am y gweithgareddau sy’n cael eu darparu o leoliadau cymunedol, a be fyddai pobl yn dymuno ei weld yn y dyfodol. Rhwng 23 Hydref, 2023 a 01 Rhagfyr, 2023 cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar ddyfodol gweithgareddau dydd yng Nghanolfan Morswyn (roedd crynodeb o’r ymatebion ynghlwm â’r adroddiad). Bu i’r Aelod Portffolio amlygu bod y mwyafrif yn dymuno gweld mwy o amrywiaeth yn y ddarpariaeth gofal dydd a mwy o weithgareddau’n cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau. Nododd y byddai rhoi’r gorau i’r gweithgareddau dydd yng Nghanolfan Ddydd Morswyn yn rhyddhau adnoddau ac yn galluogi’r Gwasanaethau Oedolion i symud adnoddau a staff fel y gellir ymestyn y gweithgareddau dydd sy’n cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol eraill.  Fodd bynnag, roedd unigolion heb brofiad o weithgareddau cymunedol yn llai cefnogol. Bydd y Gwasanaethau Oedolion yn gweithio gyda’r unigolion yma i weld sut orau i gwrdd  â’u hanghenion. 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mai’r hyn sy’n gyrru’r uchelgais i foderneiddio’r cyfleusterau dydd ar gyfer pobl gydag anableddau dydd yw’r angen i ymestyn y cyfleusterau mewn cymunedau lleol a chwrdd ag anghenion y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Yn dilyn y pandemig, mae’r rhan fwyaf o’r bobl a oedd yn mynychu Canolfan Ddydd Morswyn yn cymryd rhan mewn pob math o gyfleoedd mewn cyfleusterau eraill yn y gymuned. Nododd nad ydi’r ddarpariaeth yng Nghanolfan Ddydd Morswyn yn cwrdd â gofynion y defnyddwyr gwasanaeth ac y byddai rhoi’r gorau i ddarparu gweithgareddau dydd yn y Ganolfan yn rhyddhau adnoddau ac yn galluogi’r adran i symud staff ac adnoddau er mwyn sefydlogi ac ymestyn y gweithgareddau dydd sy’n cael eu cynnal mewn adeiladu cymunedol eraill.   Mae angen llawer o waith cynnal a chadw yn adeilad Canolfan Morswyn dros y blynyddoedd nesaf fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Wrth ystyried yr adroddiad gofynnwyd sut y bydd y rhaglen moderneiddio yn cael ei monitro. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bydd cyfnod trawsnewid ac y bydd yn cymryd amser i’r defnyddwyr gwasanaeth addasu i’r newidiadau. Bydd y newidiadau’n cael eu monitro am chwe mis, a bydd cyfle i’r unigolion a’u teuluoedd roi adborth i’r ddarpariaeth a’r lleoliadau newydd sy’n cael eu darparu gan y gwasanaeth. Dywedodd mai anghenion yr unigolyn yw’r peth pwysicaf.

 

Cyfeiriwyd at anghenion unigolion ag anableddau dwys neu gorfforol a bod angen eu hystyried hwy a’u teuluoedd wrth drawsnewid y gwasanaeth. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod anghenion pawb yn wahanol ac y byddai integreiddio cyfleoedd yn rhoi cyfle i bobl ddatblygu. Bydd y gwahanol opsiynau’n cael eu trafod i weld pa rai sy’n addas gan y bydd angen cymorth ychwanegol o bosib.  Nododd ei fod yn ffyddiog bod darpariaeth addas ar gael. Dywedodd mai barn y staff yw’r peth pwysicaf gan eu bod yn adnabod yr unigolion ac yn gwybod sut y gallant ddatblygu. Bydd trafodaethau’n cael eu cynnal gyda’r defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd i fynd i’r afael ag unrhyw anghenion ychwanegol. Nododd bod darpariaeth benodol ar gael yng Nghanolfan Ddydd Gors Felen, Llangefni os ydi unigolion yn dymuno defnyddio’r cyfleusterau sydd ar gael yno. Holwyd ynglŷn â chludiant gan fod nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth yn byw gyda rhieni sy’n heneiddio ac sydd heb fodd o gludo eu mab/merch i’r gweithgareddau hyn. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bydd gwahanol opsiynau yn cael eu hystyried yn cynnwys cludiant a chynnal gweithgareddau yn nes at adref a rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal gydag unigolion ynglŷn â’r math o weithgareddau yr hoffent eu mynychu.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod rhai defnyddwyr gwasanaeth wedi nodi yn ystod yr ymgynghoriad ar foderneiddio cyfleon dydd yng Nghaergybi nad ydynt yn dymuno gweld Canolfan Ddydd Morswyn yn cau ac nad ydynt yn dymuno teithio i leoliadau eraill. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod y Gwasanaethau Oedolion wedi holi barn y bobl sy’n defnyddio’r gweithgareddau dydd yng Nghaergybi ynghyd â’u teuluoedd rhwng mis Awst a mis Medi 2023 a dywedodd bod yr ymatebion yn gadarn o blaid y newid arfaethedig.  Dywedodd ei bod hi’n bwysig nodi pwy wnaeth ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ddiwedd y llynedd. Nodwyd mai’r gweithgareddau sy’n bwysig ac nid y lleoliad a bod y staff a’r defnyddwyr gwasanaeth yn cael cyfle i gymryd rhan mewn pob math o wahanol gyfleoedd a gweithgareddau.

 

Cyfeiriwyd at yr ymgynghoriad cyhoeddus sy’n cael ei drafod yn yr adroddiad. Holwyd i ba raddau oedd y prosesau yn gynhwysfawr, priodol a chadarn.   Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau oedolion ei fod o’r farn bod y broses ymgysylltu gyda’r defnyddwyr gwasanaeth wedi bod yn gynhwysfawr a chadarnhaol. Comisiynwyd cymorth allanol i sicrhau bod y cwestiynau yn briodol ac yn hawdd i’w darllen a’u deall a rhannwyd rhifau ffôn yn ogystal er mwyn trafod unrhyw bryderon. Nododd bod yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor am 5 wythnos er mwyn rhoi cyfle i bobl ymateb.  Holwyd a oedd darpariaethau addas ar gael yn y lleoliadau arfaethedig h.y. offer codi, ystafelloedd newid preifat ayb.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod mwyafrif y defnyddwyr gwasanaeth wedi symud i gyfleusterau cymunedol a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Fodd bynnag, bydd rhaid gweld sut y gellir diwallu anghenion y defnyddwyr gydag anghenion dwys sy’n dal i ddefnyddio Canolfan Ddydd Morswyn ar ôl trafod y mater gyda’u teuluoedd i weld a ydynt yn dymuno symud i ddarpariaeth arall. 

 

Holwyd sut mae’r cynigion arfaethedig yn galluogi’r Awdurdod i wireddu blaenoriaethau strategol Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023/2028.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod hyn yn rhan annatod o’r blaenoriaethau yng nghynllun y Cyngor i foderneiddio a thrawsnewid gwasanaethau gan roi pwyslais  ar feithrin cysylltiadau â’r gymuned. Nododd ei bod hi’n bwysig bod unigolion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol sy’n atgyfnerthu’r adnoddau cymunedol sydd ar gael.    

 

Mewn ymateb i gwestiynau ynghyn â’r heriau a’r risgiau i’r Cyngor wrth geisio gwireddu’r cynlluniau yn ardal Caergybi, dywedodd y Pennaeth Oedolion bod capasiti yn ardal Caergybi i ddefnyddio adeiladau cymunedol ar gyfer darparu cyfleon dydd i bobl gydag anableddau dysgu er mwyn rhoi mwy o ddewis  a chynnig gweithgareddau amrywiol. Y risg fyddai peidio â chynnig gwahanol opsiynau ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu gan ei bod hi’n bwysig eu bod yn teimlo’n rhan o’r gymuned a’u bod yn gallu cael mynediad at weithgareddau modern mewn gwahanol leoliadau.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau lleol fynegi barn ar y cynnig i foderneiddio a thrawsnewid cyfleon dydd ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu yn ardal Caergybi.

 

Roedd yr Aelodau Lleol yn cytuno y dylai pobl gydag anableddau dysgu gael cyfle i fyw bywydau llawn a chymryd rhan mewn gweithgareddau modern. Dywedwyd y byddai’n fanteisiol pe byddai’r aelodau’n cael cyfle i ymweld â’r lleoliadau lle mae gweithgareddau’n cael eu cynnal ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu. 

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion bod yr aelodau etholedig yn cael cyfle i ymweld â’r gwahanol leoliadau lle mae gweithgareddau’n cael eu cynnal ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu. Dywedodd ei bod hi’n bwysig bod yr aelodau etholedig yn ymweld â’r lleoliadau hyn er mwyn cael cyfle i feithrin cyswllt â’r defnyddwyr gwasanaeth.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod hi’n bwysig bod pobl gydag anableddau dysgu yn cael dewis pa fath o weithgareddau y  maent yn dymuno cymryd rhan ynddynt a’u bod yn cael cyfle i fyw bywydau llaw

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Cefnogi’r cynigion i foderneiddio a thrawsnewid cyfleon dydd Anableddau Dysgu yn ardal Caergybi;

 

·         Argymell i’r Pwyllgor Gwaith gefnogi’r argymhelliad:-

 

Integreiddio defnyddwyr i fod yn fwy o ran o’r gymuned ac ymateb i ddyheadau pobl sy’n mynychu gweithgareddau er mwyn sicrhau canlyniadau gwell. Parhau i drawsnewid a moderneiddio’r ffordd y caiff gweithgaredd dydd eu darparu gyda phwyslais ar ddefnyddio adeiladau cymunedol. Gan nad oes cymaint o ddefnydd yn cael ei wneud o Ganolfan Morswyn erbyn hyn, dod â’r gwasanaeth presennol i ben. Datgan bod yr adeilad bellach yn ddiangen a gwahodd Adrannau eraill i fynegi diddordeb ynddo. Os na ellir dod o hyd i ddefnydd ar gyfer yr adeilad, cael gwared ar yr eiddo a throsglwyddo’r derbyniadau cyfalaf i’r Gwasanaethau Oedolion.

 

 

GWEITHRED: Gwasanaethau Oedolion i drefnu bod Aelodau Etholedig yn cael cyfle i ymweld â’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan yr Awdurdod Lleol i gefnog oedolion gydag anableddau dysgu. 

 

Dogfennau ategol: