Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn ymgorffori’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024-28 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cynllun a dywedodd ei fod yn nodi sut fydd y Cyngor yn cyflawni’r ddyletswydd a osodir ar gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 i roi sylw dyledus i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng gwahanol grwpiau ym mhob agwedd o’i waith. Mae’r Cynllun yn un uchelgeisiol a’i amcan yw sicrhau fod cydraddoldeb yn cael ei ymgorffori ym mhob agwedd o waith y Cyngor.
Cyfeiriodd y Pennaeth Democratiaeth at yr wyth amcan hirdymor yn y cynllun ar gyfer cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb ar Ynys Môn ac o fewn y Cyngor ac maent yn seiliedig, yn fras, ar ‘feysydd bywyd’ y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer monitro cydraddoldeb. Mae’r Cynllun hefyd yn cynnwys trefniadau ar gyfer monitro cynnydd y Cyngor tuag at gyflawni ei amcanion cydraddoldeb, ac, yn ogystal â hynny, mae’n cyfrannu at weledigaeth ehangach Cynllun y Cyngor, sef creu Ynys Môn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu.
Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod ymgysylltu uniongyrchol gyda rhai grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys y Fforwm Ieuenctid, Mencap Môn a defnyddwyr darpariaeth gofal dydd, wedi dylanwadu ar y Cynllun. Un o’r prif ddatblygiadau sy’n deillio o weithredu’r Cynllun yw’r pwyslais ar sut mae’r Cyngor fel cyflogwr yn defnyddio ei ddylanwad i hyrwyddo cydraddoldeb ym mhob rhan o’r sefydliad. Bydd strwythurau mewnol y Cyngor yn cael eu hadolygu er mwyn cryfhau’r gallu hwn a bydd grŵp cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant newydd, gyda chynrychiolwyr o bob gwasanaeth, yn cael ei sefydlu.
Cafwyd adborth gan y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio o gyfarfod y Pwyllgor ar 18 Ionawr 2024 pan graffwyd ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024-28. Cyfeiriodd at y materion a drafodwyd yn y cyfarfod hwnnw a chadarnhaodd fod y Pwyllgor wedi argymell y Cynllun i’r Pwyllgor Gwaith, gyda chais iddo hefyd ystyried addasu teitl Amcan Cydraddoldeb 2 (Gwaith) er mwyn egluro rôl y Cyngor fel cyflogwr.
Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod Amcan Cydraddoldeb 2 wedi cael ei addasu i gyfeirio at y “Gweithle”.
Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r Cynllun Strategol drafft fel un amserol o ystyried y tensiynau cymdeithasol sy’n bodoli ar hyn o bryd a’i fod hefyd yn greiddiol i bopeth a wna’r Cyngor, gan gynnwys ei wasanaethau a’i arferion cyflogi. Wrth gydnabod bod llwyddo i gyflawni’r wyth amcan cydraddoldeb yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni yn bryder i’r Pwyllgor Sgriwtini, nododd y Pwyllgor Gwaith mai gweledigaeth y Cyngor a gyflëir yng Nghynllun y Cyngor yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu a phwysleisiwyd na all pobl a chymunedau ffynnu oni bai bod cyfle cyfartal yn cael ei sicrhau i bawb a bod anghenion yr holl grwpiau mewn cymdeithas yn cael eu trin yn gyfartal ac mae’r Cynllun, felly, yn bwysig gan ei fod yn darparu fframwaith i alluogi hynny. Cyfeiriodd nifer o aelodau’r Pwyllgor Gwaith at eu hymwneud â Mencap Môn a gwerth gwrando ar safbwyntiau unigolion nad yw eu lleisiau bob amser yn cael eu clywed. Cyfeiriwyd hefyd at gyd-destun amcan cydraddoldeb 5 mewn perthynas â diogelwch personol, yn ogystal â’r cynnydd a gofnodwyd mewn troseddau casineb ac, er mwyn egluro sefyllfa’r Cyngor, gofynnwyd pwy sy’n delio â’r troseddau hyn.
Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod yr Heddlu’n gyfrifol am ddelio gyda throseddau casineb a dywedodd hefyd fod Swyddog Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol, sydd wedi’i leoli yn y Cyngor, yn cael ei gyflogi i weithio ar draws Ynys Môn, Conwy a Gwynedd ac mae’n cydweithio â’r Heddlu ar faterion cydlyniant cymunedol ac ymwybyddiaeth.
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb Stratgeol drafft am 2024-2028 ac yn awdurdodi’r Swyddogion mewn ymgynghoriad â’rDeilydd Portffolio i gwblhau a chyhoeddi’r Cynllun erbyn 31 Mawrth 2024.
Dogfennau ategol: