Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd : Panel Sgriwtini Addysg

Cyflwyno adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg.

 

Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, y Cynghorydd Gwilym O Jones, bod Addysg yn un o’r chwe amcan strategol yng Nghynllun y Cyngor a bod gan Aelodau Etholedig rôl hanfodol i’w chwarae o ran gwireddu’r amcan hon drwy graffu a galw i gyfrif, ac mae gwaith y Panel Sgriwtini Addysg yn cyfrannu at yr amcan hwn.  Fe nododd mai dyma drydydd adroddiad cynnydd y Panel a’i fod yn cwmpasu’r cyfnod Medi 2023 - Ionawr 2024.  Mae’r Panel wedi cwrdd ar 4 achlysur yn ystod y cyfnod hwn ac mae wedi ystyried y materion a ganlyn:-

 

·         Y Model Cydweithio Integredig;

·         Llesiant/Iechyd Meddwl/Diogelu;

·         Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant;

·         Ysgolion mewn Categori, Dilyniant Estyn neu’n derbyn Cymorth Ychwanegol;

·         Rhaglen waith y panel Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Mai 2023 – Ebrill 2024.

 

Wrth ystyried yr adroddiad holwyd sut y caiff iechyd a diogelwch disgyblion ei fonitro. Dywedodd yr Uwch Reolwr (Ysgolion Uwchradd) bod arferion da yn gysylltiedig ag iechyd a diogelwch ar Ynys Môn a bod ysgolion yn rhannu arferion da. Holwyd hefyd a oedd y Panel wedi ystyried, fel rhan o’u blaen raglen waith,  yr effaith y gall yr arbedion ariannol ei gael ar gynnydd ysgolion a p’un ai a oedd gan y Panel strategaeth er mwyn monitro’r effaith hwnnw.  Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y bydd y Gwasanaeth Dysgu’n monitro effaith yr arbedion ariannol yn barhaus ac y bydd y Panel yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.  Nododd y bydd aelodau’r Panel yn cael cyfle i ymweld ag ysgolion ac y bydd cynrychiolwyr o’r ysgolion yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd o’r Panel. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd y Panel Sgriwtini Cyllid a’r Panel Sgriwtini Addysg yn cael cyfle i ddod at ei gilydd ddiwedd y mis i ystyried effaith bosib yr arbedion effeithlonrwydd ar y ddarpariaeth addysg. Dywedodd hefyd bod ansicrwydd o ran yr arian grant i ysgolion ac y bydd yr effaith y gall hynny ei gael o’r flwyddyn ariannol nesaf ymlaen yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod o’r ddau Banel. 

 

Cyfeiriwyd at yr awgrymiadau sydd gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio er mwyn atgyfnerthu gwaith y Panel Sgriwtini Addysg. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n fanteisiol pe byddai’r Panel yn derbyn awgrymiadau ynglŷn â meysydd yn ymwneud â’r Gwasanaeth Dysgu gan yr Aelodau o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio sydd ddim yn aelodau o’r Panel. Holwyd a yw ‘llais y disgybl’ a ‘llais  rheini/gwarcheidwaid’  yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses graffu. Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini y bydd y Panel yn edrych ar ‘lais y dysgwr’ wrth graffu ar ei flaen raglen waith. Holwyd ynglŷn â’r meysydd penodol eraill y dylai’r Panel eu craffu. Dywedodd y Cadeirydd bod y Panel yn cwrdd yn rheolaidd ac yn trafod yr hyn y mae’n dymuno craffu arno gyda Swyddogion perthnasol o’r Gwasanaeth Dysgu.   Nododd bod y Gwasanaeth Dysgu wedi darparu adroddiadau i’r Panel Sgriwtini Addysg ar wahanol feysydd gwaith ar gais y Panel.     Pwysleisiodd bod y cyfarfodydd yn gyfrinachol gan fod ysgolion unigol yn cael eu trafod. Nododd yr Uwch Reolwr (Ysgolion Uwchradd) y bydd y Canllawiau Gwella Ysgolion yn dod yn statudol ym mis Medi 2024 ac y bydd y Panel Sgriwtini Addysg yn cael cyfle i drafod a chraffu ar y trefniadau.

 

Cyfeiriwyd at yr effaith y mae gwefannau a bwlio ar y cyfryngau cymdeithasol yn ei gael ar y maes amddiffyn plant. Holwyd a yw materion diogelwch y we yn cael eu hystyried.  Dywedodd yr Uwch Reolwr (Ysgolion Uwchradd) bod materion yn ymwneud â diogelu yn bwysig, yn cynnwys diogelwch ar y we mewn ysgolion a bod gan y Gwasanaeth Dysgu Swyddog Diogelu Data a Swyddog Diogelu sydd ar gael i gefnogi ysgolion. Dywedodd bod polisïau, canllawiau a phrosesau ar gael i gefnogi diogelwch ar y we.

 

Soniwyd am y cyfeiriad yn yr adroddiad cynnydd at y data diweddaraf ar bresenoldeb, gwaharddiadau a dadgofrestru yn ystodion yr Awdurdod Lleol.  Holwyd a oedd unrhyw bryder ynglŷn â’r data. Dywedodd yr Uwch Reolwr (Ysgolion Uwchradd) bod presenoldeb yn is na’r cyfnod cyn-covid ac er bod hyn yn peri pryder yr un yw’r patrwm ledled Cymru ers y pandemig. Nododd ei bod hi’n bwysig gweithio gydag ysgolion a llywodraethwyr i wella presenoldeb a monitro gwaharddiadau yn ein hysgolion.   Codwyd cwestiynau pellach ynglŷn â’r patrwm o ran absenoldebau. Dywedodd yr Uwch Reolwr (Ysgolion Uwchradd) nad yw’r Gwasanaeth Dysgu wedi dod o hyd i unrhyw batrymau penodol, ond mae’r Gwasanaeth Dysgu yn defnyddio swyddogion dynodedig i gysylltu â theuluoedd i fynd i’r afael â’r broblem.

 

Holwyd a yw’r rhaglen ‘Ynys sy’n ystyriol o Drawma’ wedi cael effaith gadarnhaol yn ein hysgolion. Dywedodd yr Uwch Reolwr (Ysgolion Uwchradd) bod llawer iawn o waith wedi cael ei gyflawni mewn perthynas â’r maes hwn a bod pob ysgol wedi ymrwymo i’r gwaith. Dywedodd ei bod hi’n rhy gynnar i adrodd ar effaith y rhaglen ac y bydd yn cymryd blynyddoedd i weld pa effaith y mae wedi’i chael ar ein hysgolion.  

 

Codwyd cwestiynau pellach ynglŷn â sut y gall y Gwasanaeth Dysgu fonitro’r gwahaniaeth rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a’r rhaid sydd ddim gan fod pob disgybl cynradd yng Nghymru yn gymwys i ginio ysgol am ddim erbyn hyn. Dywedodd yr Uwch Reolwr (Ysgolion Uwchradd) bod y canllawiau, sydd ddim yn statudol ar hyn o bryd, yn nodi bod rhaid i gyrff llywodraethol, gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Dysgu, sicrhau bod blaenoriaethu’r ysgol yn adlewyrchu’r angen i sicrhau cydraddoldeb ar gyfer pob disgybl.  Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod y ‘Mesur Cinio Ysgol Am Ddim’ wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac y bydd pob disgybl ysgol gynradd yn cael cinio ysgol am ddim erbyn diwedd 2024. Aeth ymlaen i ddweud bod y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â heriau’r Mesur yn parhau. 

 

Codwyd cwestiynau ynglŷn â Strategaeth hirdymor y Gwasanaeth Dysgu ar gyfer y dyfodol. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr er bod ein hysgolion yn wynebu heriau ariannol bydd rhaid i’r cyrff llywodraethol a’r Gwasanaeth Dysgu werthuso strategaethau tymor byr a hwy'r ysgolion. Dywedodd bod gan bob ysgol Gynllun Datblygu Ysgol sy’n gwerthuso rhaglenni tymor byr a hwy a dywedodd bod gweithio gyda GwE yn bwysig i lwyddiant ysgolion. Aeth ymlaen i ddweud ei bod hi’n bwysig cydweithio gydag ysgolion a bod rhannu arferion da yn bwysig er mwyn gwella. Holwyd a oedd pryder ynglŷn â chwtogi’r cymorth gan GwE. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd gostyngiad mewn grantiau ac adolygiad o’r ddarpariaeth haen ganol gan GwE.  Rydym yn aros am fanylion ynglŷn â’r newidiadau i’r gefnogaeth gan y consortia addysgol. Fe nododd y bydd newidiadau sylweddol o ran cyfrifoldebau GwE gyda’r chwe awdurdod lleol y maent yn eu cefnogi. Dywedodd y Prif Weithredwr bod trafodaethau wedi cael eu cynnal rhwng y chwe awdurdod lleol i amddiffyn y ddarpariaeth bwysig gan GwE. Aeth ymlaen i ddweud bod newidiadau sylweddol y bydd rhaid mynd i’r afael â hwy yn y dyfodol mewn perthynas â’r newidiadau a fydd yn effeithio ar yr ysgolion a bydd y Panel Sgriwtini Addysg yn cael gwybod am y newidiadau y bydd rhaid mynd i’r afael â hwy er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth orau ar gyfer y disgyblion.  

 

Cyfeiriwyd at y prinder Seicolegwyr Addysg. Holwyd faint sy’n rhaid i ddisgyblion aros cyn cael asesiad. Dywedodd yr Uwch Reolwr (Ysgolion Uwchradd) bod prinder Seicolegwyr Addysg, yn enwedig rhai dwyieithog, a bod rhaid i blant aros i gael eu hasesu. Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg bod y Panel wedi trafod y prinder hwn a’i fod yn broblem ledled Cymru.  

 

PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd dros y cyfnod diwethaf gyda gwaith y Panel Sgriwtini Addysg. 

 

CAMAU GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.

Dogfennau ategol: