Eitem Rhaglen

Cynllun Cydraddoldeb Strategol : 2024-2028

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

 Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn gyhoeddiad allweddol bwysig sy’n cyd-fynd â Chynllun y Cyngor ac y bydd yn cyfrannu at gyflawni ei amcanion strategol a’i weledigaeth. Dywedodd  bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn gynllun uchelgeisiol er mwyn creu cymdeithas decach i bobl Ynys Môn. Er mwyn creu ynys lle gall pob ffynnu rhaid i ni gydnabod bod anghydraddoldeb yn bodoli ac y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a sicrhau fod pawb yn cael ei drin yn gyfartal. Dywedodd y bydd Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor maes o law.

 

Wrth ystyried yr adroddiad cyfeiriwyd at yr wyth amdan yn y cynllun. Holwyd a oedd hyn yn rhy uchelgeisiol o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol. Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod hi’n bwysig bod pobl Ynys Môn yn ganolog i’r gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor. Dywedodd y bydd yn heriol cwrdd â’r amcanion yn y Cynllun, fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gryfhau cydraddoldeb ac mae enghreifftiau wedi cael eu rhannu yn yr eitem flaenorol mewn perthynas ag addysg. Holwyd sut y bydd yr amcanion yn y Cynllun yn cael eu mesur.  Ymatebodd y Pennaeth Democratiaeth y bydd Grŵp Llywio mewnol yn cael ei sefydlu a fydd yn gyfrifol am fonitro’r Cynllun Gweithredu Blynyddol ac mai prif dasg y Grŵp fydd datblygu dangosyddion perfformiad. Dywedodd na fydd aelodaeth y Grŵp yn cael ei gytuno hyd nes y bydd y Cynllun Cydraddoldeb yn cael ei gymeradwyo.  Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd y Grŵp Llywio yn cadarnhau pwy sydd gan gyfrifoldeb corfforaethol dros bob amcan strategol i sicrhau bod pob adran yn chwarae ei ran er mwyn datblygu’r amcanion.

 

Codwyd cwestiynau ynglŷn â’r bwriad ar gyfer y pedair blynedd nesaf o ran codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y Cyngor.  Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg mai’r gobaith yw canolbwyntio mwy ar gydraddoldeb o fewn y Cyngor ac y bydd negeseuon rheolaidd yn cael eu hanfon at staff ac aelodau etholedig, yn debyg i’r hyn sydd eisoes yn digwydd gyda’r Gymraeg. Nododd bod cynnydd wedi’i wneud o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth a’i fod wedi’i gynnwys fel egwyddor gyffredinol yng Nghynllun y Cyngor sy’n amlygu’r disgwyliadau gan eu bod yn berthnasol i’r Cyngor cyfan. Bydd y Grŵp Llywio yn sefydlu cyfeiriad strategol ar gyfer cydraddoldeb o fewn y Cyngor. Dywedodd ei bod hi’n bwysig bod aelodau staff newydd yn ymwybodol o’r disgwyliadau o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth a bod gan reolwyr rôl ganolog i’w chwarae o ran hyrwyddo’r disgwyliadau hynny.  

 

Cyfeiriwyd at Amcan 3: Gofal Cymdeithasol a Llesiant yn y Cynllun Cydraddoldeb. Codwyd cwestiynau ynglŷn â’r heriau y bydd yr Awdurdod yn eu hwynebu  wrth geisio cyflawni’r amcan hon yn sgil yr argyfwng costau byw er mwyn i’r Cyngor allu cyflawni ei ddyhead i wneud yn siŵr bod gan bawb rywle i’w alw’n gartref a bod trigolion yn gallu datblygu a ffynnu. Dywedodd yr Arweinydd bod y Cyngor yn dymuno dangos mai ei weledigaeth yw gwella bywydau trigolion Ynys Môn.  Dywedodd yr Is-gadeirydd ei bod hi’n bwysig bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cyfeirio at yr amcanion ar gyfer pobl hŷn yn ein cymdeithas.  Cyfeiriodd at bwysigrwydd Fforwm Pobl Hŷn y Cyngor a Chymuned Pobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd y mae’r Cyngor yn rhan ohono. Dywedodd ei bod hi’n bwysig bod pobl yn cael cyfle i ymateb i brosesau ymgynghori  gan nad ydi pawb ar-lein ac felly mae’n bwysig bod copïau papur ar gael. Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod copïau o ddogfennau ymgynghori h.y., yr ymgynghoriad ar y gyllideb, ar gael yn ein llyfrgelloedd a’i bod hi’n bwysig bod pawb yn cael cyfle i ymateb.

 

Cyfeiriwyd at Amcan 3 yn y Cynllun mewn perthynas â safonau byw. Rhoddwyd enghraifft o ddatblygiadau sy’n rhan o’r broses gynllunio. Dywedwyd bod angen gwella’r cyfathrebu rhwng pobl leol a datblygwyr gan y gall datblygiadau mawr gael effaith andwyol ar bentrefi bach. Roedd y sylwadau’n cynnwys pwysigrwydd sicrhau tai fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc. Rhaid iddynt barhau i fod yn fforddiadwy os cânt eu codi wrth ardaloedd drutach ar yr Ynys. Dywedodd yr Arweinydd ei bod hi’n bwysig cydymffurfio â pholisïau cyfreithiol mewn perthynas â’r broses gynllunio.  Dywedodd ei bod hi’n bwysig bod trigolion lleol yn cael cyfle i ddweud eu dweud fel rhan o’r broses gynllunio.   Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod hi’n bwysig bod perchnogion tir a datblygwyr yn cysylltu’n effeithiol â chymunedau gwledig pan fyddant yn cyflwyno ceisiadau cynllunio.  Holwyd ynglŷn â’r sefyllfa o ran tai cymdeithasol gwag ar yr Ynys gan fod cymaint o angen am gartrefi. Dywedodd yr Arweinydd bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi codi’r mater wrth edrych ar y Cerdyn Sgorio Corfforaethol a bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi cael ei sefydlu i wella’r broses fel y gellir gosod eiddo gwag yn gynt. 

 

Cyfeiriwyd at Amcan 2: Gwaith o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Holwyd ynglŷn â’r camau a fydd yn cael eu cymryd i sicrhau cyfle cyfartal a lleihau’r bwlch tâl. Rhoddodd Arweinydd y Cyngor enghraifft gan sôn am y statws Porthladd Rhydd a’r rheswm pam bod yr Awdurdod wedi oedi cyn mynegi diddordeb ar ddechrau’r broses yn Lloegr. Dywedodd nad oedd hawliau gweithwyr wedi’u diogelu ar ddechrau’r broses a’n bod fel Awdurdod wedi sicrhau bod hawliau gweithwyr yn greiddiol i’r broses wrth ymgynghori â datblygwyr.    Dywedodd y Prif Weithredwr bod y Cynllun Cydraddoldeb yn cyfeirio at y camau i sicrhau bod y Cyngor yn gyflogwr cyfle cyfartal ac i leihau’r bwlch tâl a bod hyn yn gallu digwydd o ganlyniad i ddylanwad anuniongyrchol gan bobl eraill fel y soniodd yr arweinydd wrth gyfeirio at y broses Porthladd Rhydd.   Nododd y gallai’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen drafod y mater yn fanwl dros y 18 mis nesaf i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ar gyfer 2024-28.

 

CAMAU GWEITHREDU : Ystyried y priodoldeb o addasu teitl Amcan Cydraddoldeb 2 (Gwaith) er mwyn cynnig clirdeb ynghylch rôl y Cyngor fel cyflogwr.

 

Dogfennau ategol: