Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2024/25 - Cynigion Drafft Terfynol ar gyfer y Gyllideb Refeniw

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Rheolwr Sgriwtini.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn gosod y cyd-destun ar gyfer y broses o osod Cyllideb 2024/25, ynghyd â’r prif faterion a chwestiynau i’w craffu wrth werthuso cynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb refeniw. Mae adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a gafodd ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror, 2024, lle cafodd y cynigion manwl ar gyfer cyllideb refeniw 2024/25 eu hadolygu am y tro olaf a’u cymeradwyo cyn cyfarfod y Cyngor Llawn ar 7 Mawrth 2024, wedi’i atodi yn Atodiad 1.

 

Bu i’r Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, amlinellu cyd-destun y cynigion terfynol ar gyfer cyllideb refeniw 2024/25, gan nodi bod y Pwyllgor gwaith wedi cynnig cyllideb ar gyfer 2024/25 o £184.219m yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr 2024, ac oherwydd darpariaeth y Cyllid Allanol Cyfun o £126.973m, byddai angen cynnydd o 10.9% yn y Dreth Gyngor ac y byddai’n rhaid defnyddio gwerth £4.425m o falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn cydbwyso’r gyllideb. Roedd y cynigion gwreiddiol ar gyfer y gyllideb ddrafft hefyd yn cynnwys arbedion/gostyngiadau yn y gyllideb, gan gynnwys gosod cap ar y cynnydd mewn chwyddiant o’r gyllideb ddynodedig i ysgolion o 2.5%. Yn dilyn hynny, cwblhawyd proses ymgynghori gyhoeddus fer ar gynigion y gyllideb, ac mae’r canlyniadau wedi’u crynhoi yn Atodiad 2 yr adroddiad, gydag addysg ac ysgolion, cefnogi plant ac oedolion bregus, a chasglu gwastraff ac ailgylchu ymhlith prif flaenoriaethau’r ymatebwyr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod nifer o ddatblygiadau wedi digwydd ers cyflwyno’r cynigion gwreiddiol ar gyfer cyllideb drafft 2024/25, gan gynnwys cau pen y mwdwl ar benderfyniadau’n ymwneud â’r gyllideb mewn perthynas â chyrff sy’n codi ardollau a sefydliadau eraill sy’n derbyn cyfraniad gan y Cyngor, cynnydd o £332k yng Nghyllid Allanol Cyfun Ynys Môn yn dilyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i gynnydd mewn cyllid ar gyfer cynghorau yn Lloegr, a throsglwyddo tri grant refeniw i’r setliad (para 5.4). Wrth lunio’r cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb, adolygwyd nifer o gyllidebau ac mae hyn wedi rhoi ychydig o hyblygrwydd i’r Pwyllgor Gwaith ynghylch y cynnig terfynol. Mae’r newidiadau hyn wedi cael eu hegluro yn adran 5.5. yr adroddiad, ac mae effaith yr holl newidiadau ar y gyllideb refeniw i’w weld yn Nhabl 2, paragraff 5.6, sydd wedi arwain at gyllideb refeniw diwygiedig ar gyfer 2024/25 o £183.459m gyda chyllid diwygiedig o £184.82m sy’n rhoi cyllid gwarged o £1.373m.

 

O ran yr amrywiaeth o opsiynau a gafodd eu hystyried gan y Pwyllgor Gwaith i gyd-fynd â’r cyllid diwygiedig yn y gyllideb ddiwygiedig, mae’r defnydd o arian wrth gefn i gydbwyso cyllideb 2024/25 yn sylweddol, ai dyma’r swm uchaf sydd wedi’i gynnig ers nifer o flynyddoedd. Argymhelliad y Swyddog Adran 151 yw na ddylai lefel yr arian wrth gefn ddisgyn dan 5% o’r gyllideb refeniw net, sef yr isafswm o arian wrth gefn cyffredinol sydd wedi’i osod gan y Pwyllgor Gwaith. Ar ôl ystyried yr holl ffactorau, mae cynigion y gyllideb refeniw derfynol gan y Pwyllgor Gwaith yn addasu’r cynigion gwreiddiol fel y nodir isod, ac mae’n arwain at gyllideb refeniw net ddiwygiedig ar gyfer 2024/25 o £184.164m, sy’n cael ei ariannu fel y gwelir yn Nhabl 3 yr adroddiad -

·      Mae’r cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi lleihau i 9.5 %, ac mae 0.9% yn berthnasol i’r cynnydd yn lefi’r Awdurdod Tân, ac mae 8.6% yn berthnasol i ofynion cyllidebol y Cyngor. Mae’r cynnydd yn gyffelyb i gynnydd yn y Dreth Gyngor mewn awdurdodau eraill yng ngogledd Cymru.

·      Mae’r cap ar y cynnydd chwyddiannol i ysgolion wedi gostwng o 2.5% i 1.5%. Yn ychwanegol at hyn, mae £200k wedi’i danwario yng nghyllideb eleni a bydd yn dychwelyd i falansau ysgolion ar ddiwedd 2023/24, sy’n cyfartalu i 0.4% pellach, sy’n golygu mai’r 1% o ostyngiad gwirioneddol fydd yn cael ei weithredu yng nghyllidebau ysgolion.

·      Nid yw’r arbedion o £100k ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu gweithredu yn 2024/25.

·      Mae £50k o’r arbedion arfaethedig mewn perthynas â gwasanaethau cymorth gofal cymdeithasol anstatudol yn cael ei gadw i ariannu’r costau trosiannol a brofwyd wrth ail-fodelu’r gwasanaeth.

·      Bydd £46k yn cael ei ychwanegu i’r gyllideb glanhau cyfleustodau cyhoeddus i fodloni costau ychwanegol yn dilyn ail-dendro’r gwasanaeth.

·      Fod y cais i gyfyngu oriau agor y Canolfannau Hamdden yn cael ei addasu i ganiatáu Canolfan Hamdden Amlwch i aros ar agor dan 3pm yn hytrach na chau am 1pm.

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y risgiau sy’n wynebu’r gyllideb a fanylwyd arnynt yn adran 6.3 yr adroddiad, ac fe ymhelaethodd arnynt gyda’r prif risg yn ymwneud â chwyddiant tâl. Gyda’r bil cyflog yn mynd y tu hwnt i £100m, gallai gwall o 1% yn y rhagdybiaeth chwyddiant tâl arwain at sefyllfa gyda diffyg cyllid gwerth £1m yn 2024/25.  Ar ôl caniatáu i ddefnyddio £4.425m fel cyllid ar gyfer cyllideb refeniw 2024/25, byddai’r balans diwygiedig yn disgyn i £10.79m neu 5.88% o’r gyllideb refeniw net, sydd yn uwch na’r isafswm o 5% a osodwyd gan y Pwyllgor Gwaith. Ar ôl ystyried lefel arian wrth gefn y Cyngor, balansau ysgolion, arian wrth gefn wedi’i glustnodi a’r gyllideb wrth gefn, mae’r Swyddog Adran 151 o’r farn bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn gadarn i wynebu’r heriau a all godi yn 2024/25 os na fydd y gyllideb refeniw arfaethedig yn gallu bodloni costau gwirioneddol fydd y Cyngor yn eu hwynebu yn ystod 2024/25. Mae’r gyllideb refeniw arfaethedig ar gyfer 2024/25 yn sicrhau bod yr adnoddau sy’n wedi’u neilltuo i bob gwasanaeth yn gallu bodloni pwysau cyllidebol presennol a chyflawni’r galw am swyddogaethau statudol y mae’n rhaid i wasanaethau eu darparu, yn ogystal â chyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol y Cyngor i osod cyllideb gytbwys.

 

Bu i’r Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, adrodd ar drafodaethau’r Panel o’i gyfarfod ar 22 Chwefror 2024, lle rhoddwyd ystyriaeth bellach i’r cynigion ar gyfer cyllideb refeniw 2024/25. Y prif fater a drafodwyd mewn perthynas â’r cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb refeniw oedd y pryderon a godwyd gan benaethiaid ynghylch effaith bosibl y cap o 1.5% ar y cynnydd chwyddiannol ar gyfer ysgolion ar faint dosbarthiadau a lefelau staff, darpariaeth a gweithgareddau allgyrsiol a gwasanaethau llesiant a chymorth emosiynol ar gyfer dysgwyr.

Penderfynodd y Panel bod tri maes angen eu craffu ymhellach mewn perthynas â’r gwasanaethau plant a theuluoedd, gwasanaethau oedolion, addysg ac ysgolion. Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a thystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Panel yn gefnogol o’r cynnig, oni bai am y cyllid ar gyfer ysgolion, y mae wedi argymell y dylid ei addasu a’i osod 1% dan chwyddiant (yn lle’r 1.5% a gynigiwyd) gyda chost o oddeutu £250k yn cael ei ariannu drwy arian wrth gefn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, er y byddai defnyddio’r arian wrth gefn yn hwyluso’r gwaith o weithredu’r addasiadau arfaethedig, byddai defnyddio mwy o arian wrth gefn i gydbwyso cyllideb refeniw 2024/25 yn golygu na fyddai’r arian a wariwyd ar gael ar gyfer 2025/26, a bydd y bwlch mewn cyllid yn 2025/26 yn cynyddu o £250k.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer cyllideb refeniw 2024/25, ac er mai dim ond rhwng 24 Ionawr a 8 Chwefror 2024 roedd ar gael oherwydd y cyfyngiadau o fewn yr amserlen i osod y gyllideb, cafwyd bron iawn i 900 o ymatebion. Cadarnhaodd fod allbwn yr ymgynghoriad wedi cael ei ystyried yn ofalus wrth lunio’r cynigion terfynol.

 

Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor –

 

·      I ba raddau mae’r cynigion ar gyfer y gyllideb refeniw yn ymateb yn briodol i’r pwysau ar y gwasanaeth a’r heriau.

·      Effaith, os o gwbl, y cynigion ar ddinasyddion Môn neu unrhyw grwpiau gwarchodedig, ac a oes angen unrhyw fesurau lliniaru i leihau’r effaith.

·      A yw’r arbedion arfaethedig yn gyraeddadwy yn ystod 2024/25.

·      Y camau mae’r Pwyllgor Gwaith yn bwriadu eu cymryd i fynd i’r afael â’r bwlch a ragwelir mewn cyllid yn 2025/26 a 2026/27, ac a ellir llacio’r ymrwymiad i gynnal balansau’r Cyngor ar lefel sy’n cyfartalu â 5% o’r gyllideb refeniw net pe byddai amgylchiadau’n mynnu hynny.

·      A yw’r cynigion i leihau’r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn creu risg ariannol ar gyfer dyfodol y Cyngor.

·      Effaith y cynnydd arfaethedig o 9.5% yn y Dreth Gyngor ar bobl sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd i dalu, ac a oes unrhyw gefnogaeth ar gael ar eu cyfer.

·      Yr ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus o gymharu â blynyddoedd blaenorol.

 

Mewn ymateb i’r pwyntiau a godwyd, cynghorodd yr Aelod Portffolio Cyllid a’r Swyddogion fel a ganlyn –

 

·      Gall nifer o wasanaethau brofi newid yn y galw am ei wasanaethau. Y ddwy gyllideb sy’n profi’r galw mwyaf a’r pwysau mwyaf o ran costau yw Gofal Cymdeithasol Oedolion a’r Gwasanaethau Plant, ac mae £2.9m a £900k ychwanegol wedi’i gynnwys yn y gyllideb mewn perthynas â hyn. Bydd unrhyw gynnig yn y galw am yr hyn sydd wedi’i ddarparu yn y gyllideb yn arwain at orwariant yn y gwasanaethau hyn, a byddai’n rhaid eu hariannu drwy arian cyffredinol a balansau’r Cyngor, sy’n rhoi mwy o bwyslais ar sicrhau bod lefel briodol o arian wrth gefn ar gael, neu gallai Cyngor wynebu heriau ariannol.

·      Er bod yr arbedion/gostyngiadau arfaethedig ar gyfer 2024/25 wedi cael eu ffurfio fel nad ydynt yn cael effaith ar unrhyw rai o’r grwpiau gwarchodedig sy’n cael eu crybwyll yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2020 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, ac nad ydynt yn newid gwasanaethau mewn unrhyw ffordd sylweddol, mae perygl y bydd y galw am rai gwasanaethau yn llethu capasiti yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gan ei gwneud hi’n anodd i gynnal yr un lefel o ddarpariaeth ar draws gwasanaethau’r Cyngor. Drwy ei brosesau monitro ac adrodd, bydd y Cyngor yn ceisio adnabod pwyntiau pwysau yn gynt a defnyddio’r wybodaeth honno i wneud penderfyniadau’n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.

·      Er bod y mwyafrif o’r arbedion arfaethedig yn cael eu hystyried yn gyraeddadwy, mae’r prif pryderon ynghylch hynny yn ymwneud â’r targed o 1m o arbedion drwy leihau staff, fydd yn dod i’r amlwg drwy swyddi gwag ac ailstrwythuro gwasanaethau.

·      Bydd y broses o ystyried cyllideb 2025/26 yn dechrau ar unwaith ar ôl i gyllideb 2024/25 gael ei chymeradwyo gan y Cyngor Llawn, er mwyn ceisio ymdopi â’r her gymhleth o cyllideb gytbwys, sy’n bodloni anghenion trigolion Môn ac sy’n cyflawni dyletswyddau statudol y Cyngor. Mae llywodraeth leol wedi wynebu nifer o galedi, ac yng ngoleuni costau uwch a chynnydd mewn galw, mae cynghorau wedi derbyn cyllid digonol i’w galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y cymunedau a’r unigolion sy’n dibynnu arnynt. O ran balansau, mater i’r Cyngor yw lefel y balansau cyffredinol yn seiliedig ar gyngor y Swyddog Adra 151, ac fel rheol, mae 5% o’r gyllideb refeniw net yn lefel dderbyniol. Os bydd yn hanfodol, mae’n bosibl i’r arian wrth gefn fynd yn is na’r lefel hon, a byddai’r asesiad hwnnw’n cael ei wneud bryd hynny, ond byddai’n rhaid cael cynllun i sicrhau bod yr arian wrth gefn yn cyrraedd 5% dros amser o bydd yr arian wrth gefn yn cael ei ddefnyddio i’r perwyl hwn.

·      Fod y cynigion ar gyfer y gyllideb a’r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn sicrhau bod y Cyngor yn llai tebygol o wynebu heriau ariannol (nododd y Swyddog Adran 151 y goblygiadau o gyhoeddi hysbysiad Adran 114, fel y mae nifer o gynghorau yn Lloegr eisoes wedi’i wneud gan nad ydynt yn gallu bodloni eu hymrwymiadau gwario, ac nad oes ganddynt arian wrth gefn i gynorthwyo’r gwariant). Gan nad yw’r cyllid gan Lywodraeth Cymru’n ddigon i alluogi’r Cyngor i fodloni costau a’r galw cynyddol, yr unig opsiwn arall yw i gynhyrchu incwm ychwanegol drwy gynyddu lefel y Dreth Gyngor a defnyddio arian wrth gefn ar gyfer y tymor byr, fel arall, efallai na fyddai’r Cyngor yn gallu cydbwyso’r gyllideb.

·      Gall bobl sy’n ei chael hi’n anodd i dalu’r Dreth Gyngor fod yn gymwys am gefnogaeth drwy’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ac mae cyngor a chefnogaeth ar gael gan Gyngor ar Bopeth a Chanolfan James O’Toole. Er bod dyletswydd ar y Cyngor i gasglu’r Dreth Gyngor, mae’n ceisio ymateb i amgylchiadau pobl a helpu pobl i ddod o hyd i ffyrdd o dalu eu Treth Gyngor, ond dylent gysylltu â’r Cyngor cyn gynted â phosibl os ydynt yn cael trafferth i dalu.

·      Bod yr ymateb i’r ymgynghoriad ar y gyllideb yn gadarnhaol o ystyried yr amserlen fer, ac na chodwyd unrhyw faterion annisgwyl o ran blaenoriaethau’r bobl.

Ar ôl craffu cynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyllideb refeniw 2024/25, ac ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod, yn ogystal â chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a safbwynt y Panel Sgriwtini Cyllid, penderfynwyd cefnogi ac argymell y cynigion terfynol ar gyfer cyllideb refeniw 2024/25 i’r Pwyllgor Gwaith fel y’u cyflwynwyd, gan dderbyn yr argymhelliad mewn perthynas â chap chwyddiannol ar gyfer ysgolion, gyda’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn argymell ei ostwng i 1% a defnyddio gwerth oddeutu £250k o arian wrth gefn y Cyngor i ariannu hyn.

 

Dogfennau ategol: