Eitem Rhaglen

Aelodaeth a Chyfansoddiad y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc am y newidiadau deddfwriaethol yn sgil Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae’r gofyniad i awdurdod lleol sefydlu CYSAG wedi cael ei ddisodli gyda’r gofyniad i gynnwys Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Dywedodd y Cyfarwyddwr bod briff y CYS yn fwy eang na’r CYSAG a hynny am ei fod yn cynnwys nid yn unig crefydd, ond crefydd, gwerthoedd a moeseg o fewn Fframwaith y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae cyfansoddiad y CYS yn wahanol oherwydd mae’n rhaid iddo gynnwys cynrychiolwyr sydd ag argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol.

 

Ym mis Mawrth 2022 cyflwynwyd adroddiad i’r CYSAG a oedd yn awgrymu y dylid gwahodd aelod o Ddyneiddwyr y DU i ymuno â’r CYSAG. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, gofynnwyd am gyngor cyfreithiol a phenderfynwyd y dylid adolygu aelodaeth y CYSAG.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod Swyddogion o’r Gwasanaeth Dysgu wedi casglu a dadansoddi gwybodaeth ar wahanol grwpiau crefyddol ar Ynys Môn. Anfonwyd gohebiaeth at y grwpiau hyn yn gofyn iddynt rannu gwybodaeth am nifer eu haelodau, ac mae’r ymatebion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd nad yw’r data’n gyflawn. Er hynny, fe’i defnyddiwyd i gynnig argymhelliad i’r Cyngor Sir i fwrwmlaen â’r mater hwn. 

 

Gofynnwyd i’r CYSAG ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, h.y. i barhau i gynnig sedd i’r chwe enwad Cristnogol, y grefydd gryfaf ar Ynys Môn (51.5%).  Hefyd, bod sedd yn cael ei chynnig i gynrychiolydd o’r Tystion Jehova, y Dyneiddwyr ac Islam. Cynigir y bydd y newid yn sicrhau cynrychiolaeth deg o ran yr enwadau Cristnogol, crefyddau eraill ac argyhoeddiadau anghrefyddol, ac y bydd yn cydymffurfio â’r gofynion statudol.

 

Bu i aelodau’r CYSAG amlygu anghysondebau o ran niferoedd yr aelodau sy’n cynrychioli’r enwadau Cristnogol. Bu i aelodau’r CYSAG ddarparu’r diweddariad a ganlyn: -

 

  Roedd gan yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru 962 aelod yn 2022.

  Mae’r ffigwr a ddarparwyd ar gyfer yr Eglwys Gatholig yn cynrychioli nifer y

   mynychwyr ar un diwrnod o’r flwyddyn ac nid yw’r ffigwr yn adlewyrchu nifer

   aelodau’r Eglwys Gatholig.

  Mae gan Undeb Bedyddwyr Cymru 28 aelod ychwanegol o Undeb

   Bedyddwyr Prydain Fawr ac nid yw’r rhain wedi cael eu cynnwys yn y

   ffigurau.

 

Roedd aelodau’r CYSAG yn poeni am y ffigurau a ddarparwyd ar gyfer yr Eglwysi Cristnogol, yn enwedig yr Eglwys Bentecostaidd a’r Eglwys Arloesi (Pioneer Church), y gellid eu labelu’n eglwysi carismataidd, gyda nifer o aelodau gweithgar iawn. Amlygwyd y byddai’r ffigyrau ar gyfer yr eglwysi hyn, pe byddent yn cael eu cyfuno, yn uwch na’r ffigurau ar gyfer y cynrychiolwyr Cristnogol presennol sydd wedi cael eu rhestru yn yr adroddiad.

 

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â newid cyfansoddiad y CYSAG i sicrhau mwy o gydraddoldeb ac amrywiaeth. Awgrymwyd y dylid edrych ar aelodaeth bresennol y CYSAG ac ystyried gwahodd gwahanol eglwysi gyda mwy o aelodau i ymuno â’r CYSAG.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y byddai’n hapus i ofyn am ragor o gyngor cyfreithiol ar y mater hwn a chynnal adolygiad maes o law yn sgil y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfarfod heddiw mewn perthynas â’r enwadau crefyddol sy’n cael eu cynrychioli ar y CYSAG ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y CYSAG yn argymell bod y Cyngor llawn yn cytuno i addasu enw’r CYSAG i CYS a bod ei Gylch Gorchwyl yn cael ei gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor gan y Swyddog Monitro, yn unol â’r gofyniad cyfreithiol ar gyfer Y CYS.

  Bod y Cyngor Sir yn cymryd camau priodol er mwyn sicrhau bod yr aelodaeth y CYS yn gymesur â chryfder pob crefydd, enwad, neu argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol, yn ei ardal leol;

  Bod y Cyngor llawn, yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2024, yn cytuno bod aelodaeth y CYS yn cynnwys cyfanswm o 9 sedd, yn cynnwys 6 sedd ar gyfer yr aelodau presennol a 3 sedd ychwanegol newydd, fel a ganlyn: -

 

    Dyneiddwyr y DU

    Islam

    Tystion Jehova

    Bod adolygiad pellach yn cael ei gynnal o’r seddi Cristnogol presennol (gan felly eithrio’r Tystion Jehova o’r ymgynghoriad nesaf) yn dilyn sylwadau a wnaethpwyd pan ymgynghorwyd gyda’r CYSAG a’r ffigyrau sydd wedi dod i law.

Dogfennau ategol: