Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

 12.1 – FPL/2023/348 - Ysgol Syr Thomas Jones, Ffordd Tanybryn, Amlwch

FPL/2023/349

 

12.2 – FPL/2023/343 - Parc Carafanau Golden Sunset, Benllech

FPL/2023/343

 

12.3 – FPL/2023/176 – Swyddfa Bost, Ffordd Caergybi, Gwalchmai

FPL/2023/176

 

12.4 – VAR/2023/67 – Lon Garreglwyd, Caergybi.

VAR/2023/67

 

Cofnodion:

12.1  FPL/2023/349 – Cais llawn ar gyfer canopi annibynnol gyda tho uwchben ynghyd â lloches beiciau yn Ysgol Syr Thomas Jones, Ffordd Tanybryn, Amlwch

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei wneud ar gyfer canopi annibynnol gyda tho uwchben ynghyd â lloches beiciau.  Fel y nodwyd yn y cyfarfod diwethaf mae Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch yn Adeilad Rhestredig Gradd 11* a'r brif ystyriaeth yw effaith y cais ar yr adeilad hanesyddol hwn. Bydd y canopi annibynnol yn mesur 3.3 metr x 15 metr a 38 metr o uchder a bydd y lloches beiciau yn mesur 4.1 metr x 2.3 metr a bydd yn cael ei osod o dan y cysgod.  Ymgynghorwyd â Swyddog Treftadaeth y Cyngor Sir ac ystyrir na fydd y cais yn cael effaith negyddol ar yr adeilad hanesyddol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Liz Wood y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad. 

 

12.2  FPL/2023/343 – Cais ôl-weithredol ar gyfer yr estyniad i'r decin presennol ym Mharc Carafannau Golden Sunset, Benllech

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Ms Carol Price, wrth annerch y Pwyllgor, fel gwrthwynebydd i'r cais, fod y gwrthwynebiad tuag ato ar sail ei fod yn gwaethygu iechyd a diogelwch, ynghyd â diffyg unrhyw lywodraethu (asesiad risg, dyletswydd mewn perthynas â diogelwch y cyhoedd ar Barc Gwyliau Golden Sunset neu gerllaw iddo ac unrhyw esgeulustod gweladwy fel trwyddedai cyfrifol Deddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960) i gyngor offerynnau statudol o ran dwysedd agos a lle rhwng carafanau cyfagos eraill a allai gyfrannu tuag at dân yn lledaenu rhwng unedau gan achosi risg tân annerbyniol i'r preswylwyr; yn ychwanegol at hyn mae'r garafán sefydlog yn ymestyn dros ffin yr eiddo a'r tu mewn i'r ffin ar y cyd, felly, nid oes unrhyw fwlch rhwng y garafán hon a’r ffin fel y cynghorir yn Neddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960.  Lleolir y garafán ar y ffin ag eiddo cyfagos ger y maes carafanau ac mae'n amlwg yn mynd yn groes i unrhyw bellter diogelwch 3 metr o ymyl y ffin gan achosi risg tân annerbyniol ychwanegol i'r preswylwyr.

 

Dywedodd Mr Stan Johnson, wrth y Pwyllgor, fel yr ymgeisydd, iddo ef a'i wraig  brynu’r garafán ym mis Chwefror 2021 ar gyfer defnydd penodol ein teulu estynedig.  Dywedodd ei fod yn edifar bod gwaith ar yr estyniad decin wedi dechrau cyn gofyn am ganiatâd cynllunio, gan nad oedd yn ymwybodol bod caniatâd cynllunio wedi'i roi yn 2016 ar gyfer y decin gwreiddiol ac, felly, byddai angen caniatâd newydd yn ar gyfer y decin hwn, fodd bynnag, cafwyd caniatâd gan berchennog y safle cyn dechrau unrhyw waith. Mae'r estyniad yn ychwanegiad bach (tua 2m x 4m) ar ochr ogleddol y decin, h.y. ar ochr arall y garafán, nid yr un ochr â'r ffin a defnyddir yr adeilad fel llety gwyliau. Er mwyn rhoi hyn mewn persbectif, mae'r estyniad tua'r un ardal sydd ei hangen ar gyfer bwrdd bwyta a chadeiriau. Roedd dau bwrpas i’r estyniad: yn gyntaf, cael ardal o ddecin oedd allan o'r cysgod ddiwedd y prynhawn, ac yn ail creu lle diogel i'n hŵyr 1 mlwydd oed chwarae. Credwn fod yr estyniad hwn yn lleihau unrhyw darfu posibl ar breifatrwydd defnyddwyr yr eiddo i'r de o'r garafán. Ar wahân i'r estyniad cymedrol hwn, nid oes unrhyw newidiadau eraill wedi'u cynllunio. Mae'r sgrin y cyfeirir ato yn y caniatâd cynllunio 2016 yn rhan annatod o'r decin ac mae'n barhaol. I fod yn gywir, nid bambŵ ydyw. Pan brynon ni'r garafán, roedd sgrin wedi’i phlethu wedi llwydo ac nid oedd yn ddigon tywyll ar gyfer ein hanghenion. Cafodd ei newid am sgrin blastig lwyd tywyll a roddwyd yn sownd wrth y ffrâm bren gadarn. Dywedodd ei fod wedi'i synnu fod angen i ddau uwch swyddog gorfodi cynllunio, swyddog cynllunio, a swyddogion tân ac iechyd yr amgylchedd gynnal ymweliadau safle ar gyfer y cais hwn. Yn ôl yr hyn yr oedd yn ei ddeall, roedd pob un wedi cadarnhau bod yr estyniad yn cydymffurfio â'r safonau gofynnol, ac nid oes unrhyw faterion ychwanegol wedi'u codi. Diolchodd i'r swyddogion am eu hamser a'u dealltwriaeth. Mae'n ymddangos nad yw materion eraill a godwyd gan yr achwynydd yn uniongyrchol gysylltiedig â'r cais hwn ac efallai y byddai’n fwy priodol i'r achwynydd fynd i'r afael â'r rhain yn uniongyrchol â pherchennog y safle. Fodd bynnag, mae’n eironig braidd fod pryderon ynglŷn ag agosrwydd y garafán i'r adeilad cyfagos gan fod yr adeilad hwn wedi'i ymestyn yn nes at y ffin (ac yn ôl rhai mapiau o bosibl ar ei draws) yn 2018-2021 cyf cynllunio HHP/2018/15.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Aelod Lleol wedi cyflwyno'r cais i'r Pwyllgor oherwydd pryderon iechyd a diogelwch, yn benodol bod poteli nwy yn rhy agos at danciau olew eiddo cyfagos ac oherwydd materion yn ymwneud â diffyg cydymffurfio ag amodau.  Mae'r garafán dan sylw yn y cais hwn wedi'i lleoli ger y ffin gydag eiddo cyfagos Bryn Môr.  Mae'r cais a gyflwynir yn gais ôl-weithredol ar gyfer ymestyn y decin presennol sydd wedi'i gyflwyno yn dilyn ymchwiliad gorfodi.  Rhoddwyd caniatâd cynllunio ym mis Hydref 2016 ar gyfer codi ardal ddecio.  Mae'r decin hwn yn mesur tua 12.6m o hyd a 5.3m o led, gan ymestyn 3m y tu hwnt i flaen y garafán.  Ar hyn o bryd mae sgrin preifatrwydd bambŵ ar ymyl ddeheuol y decin, rhag goredrych dros eiddo cyfagos Bryn Môr.  Cyflwynwyd Hysbysiad Torri Amod i berchennog blaenorol y garafán am fethu â chadw'r sgrin yn ei lle fel sy'n ofynnol gan amod (01) o'r caniatâd cynllunio yn 2016.  Y cais ôl-weithredol arfaethedig o flaen y cyfarfod hwn yw ymestyn y decin ar ei ochr ogleddol, i mewn i safle’r garafán, ymhellach i ffwrdd o'r ffin â'r eiddo cyfagos.  Mae'n estyniad ar raddfa fach, sy'n ymestyn 2m y tu hwnt i’r ochr ogleddol a 4.6m am yn ôl o’r tu blaen.  Mae ei uchder yn cyfateb i'r decin presennol fel y mae'r balwstrad gwydr ar y rheiliau blaen a phren ar yr ochr.  Mewn ymateb i bryderon yr Aelod Lleol a'r gwrthwynebydd, o ran tân ac iechyd, adroddwyd bod pryderon iechyd a diogelwch y tu allan i gwmpas y cais hwn.  Mae'r materion a godwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori wedi cael eu hanfon ymlaen i sylw'r Awdurdod Tân a'r Adran Safonau Masnach. Maent wedi ymateb ac o'r farn bod y silindrau LPG ger y garafán yn ddiogel ac yn ddigon pell, 5 metr o ffin yr eiddo cyfagos.  Yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret M Roberts Aelod Lleol fod Parc Carafannau Golden Sunset yn faes carafanau helaeth sydd i'w weld o'r traeth ym mhentref Benllech.  Mae'r carafanau ar y safle, dros y blynyddoedd, wedi dod yn fwy o ran maint gyda decin.  Mae'r carafanau bellach yn nes at ei gilydd sy’n golygu eu bod yn nes at ffin eiddo cyfagos.  Nododd fod caniatâd cynllunio wedi'i roi yn 2016 ar gyfer decin ar y safle hwn gydag amod bod sgrin preifatrwydd yn cael ei chodi ond dros y blynyddoedd nid yw'r sgrin wedi'i chynnal ar draul yr eiddo cyfagos. Y cais ôl-weithredol presennol yw ymestyn yr ardal ddecio fwy na thraean ei maint ac roedd yr ymgeisydd yn ymwybodol bod angen caniatâd cynllunio cyn i'r gwaith ddechrau.  Dywedodd ymhellach fod angen gweithredu amod bod yn rhaid i’r sgrin preifatrwydd fod yn barhaol i ddiogelu amwynderau eiddo cyfagos. 

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod caniatâd cynllunio wedi'i gymeradwyo yn 2016 ar gyfer yr ardal ddecio a bod y cais hwn ar gyfer estyniad bach i ddecin 2m o led a 4.6m o ddyfnder.  Nododd fod amod yn cael ei orfodi ar y caniatâd cynllunio a gymeradwywyd yn 2016 ar gyfer codi sgrin am y cyfnod y caniatawyd i'r perchnogion blaenorol ddefnyddio'r garafán ar y safle.  Nododd fod y cynnig hwn yn cynnwys sgrin preifatrwydd parhaol a fydd yn cael ei sicrhau rwy amod i unrhyw gymeradwyaeth i'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad. 

 

12.3  FPL/2023/176 – Cais llawn i ddymchwel 2 adeilad allanol ynghyd â chodi 2 annedd fforddiadwy , 4 annedd marchnad agored ynghyd â chreu mynedfa gerbydau ar dir tu ôl i Swyddfa'r Post, Ffordd Caergybi, Gwalchmai

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Neville Evans, ac Aelod Lleol am gynnal ymweliad safle oherwydd pryderon gan Gyngor Cymuned Trewalchmai a thrigolion ynghylch materion traffig a gallu'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus i ddarparu ar gyfer llifoedd ychwanegol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John I Jones y dylid ymweld â’r safle.  Eiliodd y Cynghorydd Geraint Bebb y cynnig.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.4  VAR/2023/67 – Cais o dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod (02) (i ganiatáu mân ddiwygiadau i gynllun, dyluniad a chynnydd yn uchder yr unedau cymeradwy) cyfeirnod caniatâd cynllunio FPL/2021/266 (Cais llawn ar gyfer codi 8 fflat preswyl fforddiadwy, adeiladu mynedfa gerbydau newydd, adeiladu ffordd newydd ar y safle ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled) er mwyn caniatáu mân ddiwygiadau i gynllun, dyluniad a chynnydd yn uchder yr unedau a gymeradwywyd ar dir yn Lôn Garreglwyd, Caergybi

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Jamie Bradshaw, wrth siarad i gefnogi'r cais, ei bod yn bwysig nodi bod y cais hwn ar gyfer mân newidiadau i gynllun sydd eisoes wedi'i gymeradwyo gan y Pwyllgor hwn ym mis Ionawr 2023. Yr unig newid yw’r addasiadau cymedrol i ddyluniad, cynllun ac uchder cyffredinol yr adeilad.  Mae'r caniatâd hwnnw wedi'i roi ar waith a gellid ei orffen ar unrhyw adeg, ac mae hon yn sefyllfa bwysig i'w chofio. Yr unig faterion i'w hystyried yw mân ddiwygiadau i gynllun yr adeilad; mae dyluniad y to wedi'i ddiwygio er mwyn i’r grib fod yr un uchder ac mae’r dyluniad yn symlach; mae'r gorffeniadau allanol wedi'u diwygio i newid yr wyneb brics a gymeradwywyd a’r rendr am ddau liw o rendr a rhannau bach o gladin pren; mae uchder y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf wedi cynyddu tua 700mm, ond mae uchder y grib wedi'i gadw’r un fath neu'n debyg i’r uchder â'r cynllun a gymeradwywyd.  Felly, er y byddai cynnydd bach yn uchder rhannau o'r adeilad cyffredinol, cynigiwyd hyn gan ei fod yn caniatáu i'r ymgeisydd gloddio llai o'r safle. Mae'n bwysig bod y Pwyllgor yn deall mai'r unig ddewis arall sydd gan yr ymgeisydd, os yw'r Pwyllgor yn dewis gwrthod y cynnig yn y cyfarfod hwn, yw dychwelyd i'r cynllun a gymeradwywyd yn wreiddiol a fyddai'n golygu llawer mwy o gloddio ar y safle i greu’r lefelau gorffenedig a gymeradwywyd yn flaenorol a mwy o darfu ar gymdogion.  Nid yw'r newidiadau cymedrol chwaith yn effeithio ar breifatrwydd nac amwynder cymdogion y safle, gan fod lefel gyffredinol y datblygiad ac uchder yr adeilad yr un fath â'r cynllun a gymeradwywyd.  Cyflwynwyd cynlluniau cymharol sy'n dangos hyn, a dylid nodi bod y Swyddogion Cynllunio wedi dod i'r un casgliad ar ôl ystyried y mater yn ofalus.  Er bod rhai pryderon wedi eu codi gan gymdogion mewn perthynas â materion eraill fel priffyrdd a draenio, mae'n bwysig nodi bod y rhain wedi cael sylw fel rhan o'r cais cynllunio gwreiddiol a gymeradwywyd yn 2023 gyda Swyddogion Priffyrdd a Draenio'r Awdurdod o blaid y cynllun.  Mae’r ffaith bod yr adrannau hyn o'r Awdurdod wedi cymeradwyo’r cais hwn yn cadarnhau'n glir bod y trefniadau’n dderbyniol ac yn addas, ac nid oes sail gadarn dros fynd yn groes i’w cyngor.  Nid oes unrhyw sail chwaith dros fynd yn groes i gasgliad y Pwyllgor pan gafodd y cais ei gymeradwyo yn 2023.  Mae'r cais yn cydymffurfio'n llwyr â'r CDLl ac yn cael ei gefnogi'n llawn gan Swyddogion yr Awdurdod ar ôl ystyried yn fanwl, ac nid oes sail gadarn dros fynd yn groes i’w cyngor proffesiynol ac ystyriol.  Nid oes unrhyw sail chwaith dros ddod i benderfyniad gwahanol ar yr achos cyffredinol i'r hyn a benderfynwyd gan y Pwyllgor hwn ym mis Gorffennaf 2023 gan fod y datblygiad yr un fath, fel y mae'r Cynllun Datblygu Lleol, ac ni fu unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau a fyddai'n cyfiawnhau dod i benderfyniad gwahanol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ar y prif ystyriaethau yn yr adroddiad a nododd fod egwyddor y datblygiad wedi'i sefydlu o dan y caniatâd blaenorol ym mis Ionawr 2023.  Mae'r cynllun yn cynnig codi'r lefelau gorffenedig tua 700mm o gymharu â'r hyn oedd yn y cynllun a ganiatawyd yn flaenorol.  Mae'r cais yn cynnwys gwelliannau drwy newid y deunyddiau o frics ar yr wyneb a rendr i ddau arlliw o rendr gyda rhannau bach o gladin pren.  Mae'r Adran Gynllunio yn croesawu'r newid hwn mewn deunyddiau gan ei fod yn cael ei ystyried yn fwy cydnaws â chymeriad yr ardal.  Yn ogystal â hyn, mae strwythur y to wedi'i symleiddio fel y bydd y crib yr un uchder, a bydd hyn yn arwain at edrychiad mwy cyson sy'n welliant i'r cynllun blaenorol ac a fydd yn integreiddio i'r amgylchedd adeiledig.  Mae ôl troed yr adeilad yn aros yr un fath â'r hyn a ganiatawyd yn flaenorol ac felly mae'r cais hwn yn parhau i gydymffurfio â'r pellteroedd a nodwyd yng Nghanllaw Dylunio’r CCA. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Trefor Ll Hughes, ac Aelod Lleol fod ganddo bryderon ynglŷn â'r effaith ar drigolion Maes Cybi oherwydd materion yn ymwneud â goredrych, traffig a materion dŵr wyneb.  Mynegodd y Cynghorydd R Ll Jones bryderon hefyd am yr effeithiau ar drigolion Maes Cybi.  Ailadroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod gan y datblygiad ar y safle ganiatâd cynllunio ers mis Ionawr 2023 a bod y cais gerbron y Pwyllgor hwn ar gyfer mân waith.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Liz Wood y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad. 

 

Dogfennau ategol: