Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn amlinellu cynnig i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg, ac roedd yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynnig i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn, yn ogystal â chyhoeddi rhybudd statudol i’r perwyl hwnnw. Ysgrifennwyd y papur cynnig unol â disgwyliadau’r cod diwygiedig, sef Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc at y rhesymau dros y cynnig i gau Ysgol Carreglefn, gan gynnwys y gost fesul disgybl, sef £17,200, a’r uchaf o blith yr holl ysgolion cynradd yng Nghymru, mae nifer y lleoedd gwag yn 80% ac mae disgwyl i nifer y disgyblion ostwng o 9 disgybl eleni i 5 disgybl o fis Medi 2024; costau cynnal a chadw (presennol a dyfodol) o £317,350, yn ogystal â’r her o addysgu dosbarth oedran cymysg gan fod yr holl ddisgyblion yn cael eu haddysgu mewn un dosbarth. Disgrifiodd y gweithdrefnau a ddilynwyd wrth ystyried dyfodol Ysgol Carreglefn a llunio’r cynnig i gau’r ysgol hon, sydd yn ysgol wledig ddynodedig, a chyfeiriodd at yr opsiynau amgen rhesymol a ystyriwyd ac y cyfeirir atynt yn adran 6 yn y papur cynnig. Os yw’r cynnig yn cael ei gymeradwyo yna bydd Ysgol Carreglefn yn cau ym mis Awst 2024 a’r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Llanfechell ym mis Medi 2024. Gan fod llai na 10 disgybl wedi’u cofrestr yn yr ysgol pan gynhaliwyd y cyfrifiad ym mis Ionawr 2024, mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn caniatáu i’r awdurdod ddilyn proses symlach i gau’r ysgol yn swyddogol. Os bydd yr ysgol yn cau, mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i weithio gyda chymuned Carreglefn i geisio sicrhau dyfodol hirdymor adeilad yr ysgol bresennol fel adnodd i’r gymuned, yn ogystal â darparu cludiant am ddim i ddisgyblion cymwys o Garreglefn i Ysgol Llanfechell, yn unol â pholisi trafnidiaeth ysgolion y Cyngor, gan fod y ffordd rhwng y ddau bentref yn rhy beryglus i ddysgwyr oedran cynradd gerdded arni i’r ysgol ac yn ôl.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adborth o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2024 pan ystyriwyd y cynnig i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn. Roedd y Pwyllgor wedi trafod nifer o faterion, a cheisiodd sicrwydd ynglŷn â’r ffactorau a oedd yn gyrru’r cynnig, yr opsiynau amgen a ystyriwyd, y goblygiadau ariannol, darparu cludiant, yr effaith ar ddisgyblion, staff a’r gymuned a’r gefnogaeth fyddai ar gael iddynt, yn ogystal â dyfodol adeilad yr ysgol. Wrth ystyried dyfodol adeilad yr ysgol, pwysleisiodd y Pwyllgor ei bod yn bwysig gweithio gyda’r gymuned i ganfod ffordd o gadw adeilad yr ysgol er defnydd y gymuned os yw’r ysgol yn cau. Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ac ar lafar yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor gefnogi ac argymell i’r Pwyllgor Gwaith y cynnig i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn.
Nododd Aelodau’r Pwyllgor Gwaith y ffactorau sy’n gyrru’r cynnig i gau Ysgol Carreglefn mewn perthynas â chost y ddarpariaeth addysg fesul disgybl a fyddai’n codi i £32k y disgybl os yw nifer y disgyblion yn yr ysgol yn disgyn, yn ôl y disgwyl, i 5 ym mis Medi 2024, canran y lleoedd gwag yn yr ysgol a’r ffaith fod nifer y disgyblion yn parhau i ostwng, yn ogystal â materion cynnal a chadw a heriau’n gysylltiedig ag addysgu. Cyfeiriodd yr Aelodau hefyd at yr heriau y mae ysgol gyda chyn lleied o ddisgyblion yn eu hwynebu o ran cynnig y profiadau a’r cyfleoedd amrywiol hynny y mae disgyblion mewn ysgolion mwy yn gallu manteisio arnynt, megis gweithgareddau tîm, clwb neu grŵp, yn ogystal â mwy o gyfleoedd i gymdeithasu gyda disgyblion eraill, rhywbeth sy’n fuddiol i’w llesiant a’u datblygiad. Byddai trosglwyddo i Ysgol Llanfechell yn rhoi mwy o gyfle hefyd i ddisgyblion ddefnyddio’r Gymraeg trwy gymysgu â mwy o ddisgyblion. Barn yr Aelodau oedd bod cost uchel y ddarpariaeth addysg yn Ysgol Carreglefn yn anghynaladwy yn y tymor hir a’i fod hefyd yn annheg o ran cydraddoldeb y ddarpariaeth ar draws holl ysgolion cynradd Ynys Môn. Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn cytuno â safbwynt y Pwyllgor Sgriwtini ynglŷn â phwysigrwydd diogelu adeilad yr ysgol at ddefnydd y gymuned pe byddai’r ysgol yn cau ac roeddent o blaid cynnal trafodaethau gyda’r gymuned i’r perwyl hwnnw. Nododd y Pwyllgor yr amrywiaeth o weithgareddau cymunedol a gynhelir yn adeilad yr ysgol ac y cyfeirir atynt yn yr adroddiad.
Roedd y Cynghorydd Llinos Medi, fel Aelod Lleol, yn cydnabod bod y cynnig i gau’r ysgol yn un anodd a diolchodd i bawb sydd wedi ceisio cadw Ysgol Carreglefn ar agor yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Serch hynny, oherwydd bod niferoedd disgyblion yn gostwng, ac o ystyried yr heriau a ddaw yn sgil hynny o ran addysgu a chyllido’r ysgol, roedd yn derbyn mai’r cynnig gerbron yw’r ateb gorau i fynd i’r afael â’r gyrwyr allweddol yn yr ardal. Cyfeiriodd at y cysylltiadau agos rhwng y ddwy gymuned a dywedodd hefyd fod cadw adeilad yr ysgol i’r gymuned ei ddefnyddio yn y dyfodol yn bwysicach fyth oherwydd bod cymuned Carreglefn yn cynnal cymaint o weithgareddau. Os derbynnir y cynnig, yna bydd dalgylch Ysgol Llanfechell yn cael ei ymestyn i gynnwys dalgylch presennol Ysgol Carreglefn.
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r cynnig “i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn.”
· Awdurdodi Swyddogion i symud ymlaen i ran nesaf y broses sy’n cael ei nodi yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion (2018) a chyhoeddi Rhybudd Statudol am gyfnod o 28 diwrnod (pan fydd Rhybudd Statudol yn cael ei gyhoeddi, bydd gan rhanddeiliaid 28 diwrnod i wrthwynebu’n statudol i’r cynnig).
· Awdurdodi Swyddogion i ymateb i unrhyw wrthwynebiadau (os oes gwrthwynebiadau) gan lunio Adroddiad Gwrthwynebu i’w ystyried ymhellach gan y Pwyllgor Gwaith.
· Awdurdodi Swyddogion i gynnal trafodaethau gyda’r gymuned i roi cyfle i sicrhau hyfywedd hirdymor adeilad presennol yr ysgol fel adnodd cymunedol pe bai angen.
Dogfennau ategol: