Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer. Nododd mai dyma’r adroddiad chwarter tri mwyaf cadarnhaol ers cyflwyno’r cerdyn sgorio fel arf ar gyfer rheoli perfformiad. Mae 91% o’r Dangosyddion Perfformiad yn perfformio yn uwch neu o fewn 5% i’r targed. Mewn perthynas â dangosyddion Rheoli Perfformiad yn benodol, mae 97% yn uwch neu o fewn 5% i’r targed. Dim ond un dangosydd sydd yn Goch ar y cerdyn sgorio. Mae rhai llwyddiannau nodedig wedi’u hamlygu ym mharagraff 4.3 yn yr adroddiad ac mae’r Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Digartrefedd wedi perfformio’n dda yn ogystal, fel y nodir ym mharagraff 4.5 yn yr adroddiad. Mae dangosyddion perfformiad rheoli gwastraff a dangosyddion gwasanaethau cynllunio i gyd yn dangos yn Wyrdd yn erbyn eu targedau. Nodir rhai meysydd sy’n tanberfformio yn ymwneud á nifer y ceisiadau rhyddid gwybodaeth sy’n derbyn ymateb o fewn yr amserlen, rheoli cwynion gan gwsmeriaid, yr amser a gymerir i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a’r amser a gymerir i ailosod unedau llety. Mae perfformiad yn gysylltiedig â rheoli perfformiad hefyd yn is na’r targed a’r prif reswm am hynny yw absenoldebau salwch tymor hir. Mae’r pwysau ariannol a’r cynnydd yn y galw am wasanaeth hefyd yn peri risg barhaus. Mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn monitro’r meysydd sy’n tanberfformio ac mae camau lliniarol / adferol yn cael eu rhoi ar waith i wella perfformiad yn y meysydd hyn, fel y nodir yn yr adroddiad.
Bu i’r Pwyllgor gydnabod y perfformiad cadarnhaol a’r cynnydd a diolchodd y Pwyllgor i bawb a gyfrannodd at y canlyniadau yn ystod Ch3. Wrth graffu ar yr adroddiad trafodwyd y materion a ganlyn –
· Y mesurau lliniaru a roddwyd ar waith i atal dirywiad pellach o ran y dangosyddion sy’n Wyrdd ar y cerdyn sgorio ar hyn o bryd lle mae’r tuedd ar i lawr.
· A yw cwynion yn cael eu defnyddio mewn modd cadarnhaol ac a yw gwersi’n cael eu dysgu er mwyn gwella prosesau ac ymarfer.
· Y sefyllfa mewn perthynas â diwygio’r cerdyn sgorio i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â Chynllun y Cyngor 2023-28 a’r amserlen ar gyfer rhoi’r cerdyn sgorio newydd ar waith.
Bu i’r Swyddogion a’r Aelodau Portffolio ymatebi i’r pwyntiau a godwyd fel a ganlyn –
· Mewn perthynas â Dangosydd Perfformiad 10 (Canran y cleientiaid NERS yr oedd eu hiechyd wedi gwella wrth gwblhau’r rhaglen ymarfer corff) lle mae’r tuedd ar i lawr nodwyd bod cronfa ddata newydd wrthi’n cael ei rhoi ar waith a bod y gostyngiad oherwydd bod data’n cael ei gofnodi’n wahanol erbyn hyn. Fodd bynnag, oherwydd y newid yn y modd y caiff yr wybodaeth yma ei chasglu mae’n bosib na fydd y Dangosydd Perfformiad hwn yn cael ei gynnwys ar y cerdyn sgorio newydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Er bod y dangosyddion rheoli gwastraff yn Wyrdd yn erbyn y targedau, nid yw dangosydd perfformiad 32 wedi perfformio cystal oherwydd bod cyfraddau ailgylchu’n dueddol o fod yn is dros gyfnod y Nadolig a’r gaeaf. Mae’r Gwasanaeth Rheoli Gwastraff wrthi’n gweithio â Llywodraeth Cymru i wella cyfraddau ailgylchu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod cyflawni statws Gwyrdd ar gyfer Dangosyddion Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi golygu llawer iawn o waith caled oherwydd y galw sylweddol ac nid oedd yn poeni gormod am gyfeiriad Dangosyddion Perfformiad 15,18 a 23 gan eu bod yn delio â phobl ac felly mae’r galw’n gallu newid o un chwarter i’r llall, felly mae’r perfformiad y dangosyddion hyn yn dal i fod yn iach.
· Mae’r Cyngor yn chwilio am ffyrdd o ddefnyddio data ynglŷn â Chwynion a Chanmoliaethau i wella gwasanaethau a bydd y ffocws ar weithio gyda’r Gwasanaeth TG i ddefnyddio’r system CRM i gefnogi cwynion, ymatebion a’r modd y cânt eu trin yn ogystal â nodi tueddiadau, patrymau a themâu a defnyddio’r wybodaeth i wella prosesau ac ymarfer fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i barhau i wella.
· Mae’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol wrthi’n cael ei adolygu ynghyd â’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol a fydd yn cael eu cynnwys ynddo a fformat yn y cerdyn sgorio newydd ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod gyda’r nod o sicrhau bod y cerdyn sgorio, a pherfformiad Cyngor, yn cyd-fynd â’r chwe amcan strategol yng Nghynllun y Cyngor. Y nod yw cyflwyno’r cerdyn sgorion newydd yn ystod sesiwn briffio i aelodau ym mis Ebrill 2024.
Ar ôl adolygu’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Ch3 2023/24, ac ar ôl nodi ymateb yr Aelodau Portffolio a’r Swyddogion i’r materion a godwyd, penderfynwyd –
· Nodi’r adroddiad ar y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Ch3 2023/24 yn cynnwys y meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn rheoli a sicrhau gwelliant pellach yn y dyfodol mewn perthynas â cheisiadau rhyddid gwybodaeth sy’n derbyn ymateb o fewn yr amserlen, rheoli cwynion cwsmeriaid, nifer y dyddiau y mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a nifer y dyddiad calendr y mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i osod unedau llety y mae modd eu gosod (ac eithrio Eiddo Anodd eu Gosod).
· Argymell y cerdyn sgorio a’r mesurau lliniaru a amlinellwyd i’r Pwyllgor Gwaith.
Dogfennau ategol: