Eitem Rhaglen

Dangosyddion Perfformiad Lleol: Gwasanaethau Tai

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, a oedd yn cynnwys diweddariad ar hynt adolygiad y Gwasanaethau Tai i Ddangosydd Perfformiad 28 (nifer y dyddiau calendr y mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), i’w ystyried gan y Pwyllgor.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nicola Roberts, yr Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd ar ran y Cynghorydd Gary Pritchard, yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai, a oedd methu â bod yn bresennol oherwydd ymrwymiad arall yn gysylltiedig â’i ddyletswyddau fel aelod portffolio. Cyfeiriodd at ddatganiad a oedd wedi cael ei baratoi ymlaen llaw gan y Cynghorydd Gary Prichard a oedd yn cadarnhau ei fod ef â’r Pennaeth Gwasanaethau Tai wedi bod yn trafod Dangosydd Perfformiad Allweddol 28 ers tro oherwydd pryderon nad oedd y dangosydd yn cyrraedd y targed. Y ddau brif ffactor yw'r penderfyniad i gael gwared ar y prawf modd fel rhan o’r meini prawf cymhwystra ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ar gyfer addasiadau hyd at £10,000, sydd wedi arwain at fwy o geisiadau, a diffyg contractwyr i wneud yr addasiadau.  Mewn ymgais i fynd i’r afael â’r mater olaf, cynhaliwyd digwyddiad “Cwrdd â’r Prynwr” ym mis Rhagfyr 2023. Daeth nifer o bobl i’r digwyddiad a derbyniwyd sawl datganiad o ddiddordeb. Er na chyrhaeddodd y dangosydd y targed yn Ch3 mae’r tuedd yn Wyrdd ac mae nifer y dyddiau calendr wedi gostwng.  Bydd y sefyllfa a’r data yn parhau i gael ei fonitro i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud a bod y dangosydd yn symud i’r cyfeiriad cywir.

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai'r cynnydd mewn ceisiadau am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a dywedodd bod achosion yn dod yn fwy cymhleth o ran natur yr addasiadau sydd eu hangen ac felly maent yn cymryd mwy o amser i’w cwblhau. Nid yw Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar nifer y dyddiad a gymerir i ddarparu’r Grantiau erbyn hyn ac yn lle hynny mae’n canolbwyntio ar wariant ar addasiadau.  Mae’r Gwasanaethau Tai wedi bod yn casglu gwybodaeth am berfformiad awdurdodau eraill wrth ddarparu’r Grantiau fel y gall ddefnyddio’r wybodaeth fel meincnod i fesur ei berfformiad yn erbyn cynghorau eraill.

Bu i’r Pwyllgor drafod y materion a ganlyn –

·      Yr amserlen ar gyfer cwblhau adolygiad y Gwasanaethau Tai o Ddangosydd Perfformiad 28 a pha elfennau o’r gwaith sy’n weddill.

·      A yw cynghorau eraill yn cael yr un broblem wrth ddarparu’r Grantiau.

·      I ba raddau y mae angen datrysiad corfforaethol ar gyfer perfformiad yn erbyn Dangosydd Perfformiad 28.

Bu i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai nodi’r canlynol –

·      Mae gwaith ar y gweill i adolygu a diwygio’r polisi a bydd polisi addasiadau newydd yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo cyn diwedd y mis. Mae Cytundeb Lefel Gwasanaeth â’r cwmni sy’n gwasanaethu fel asiant wrthi’n cael ei gytuno’n ffurfiol fel rhan o’r broses. Bwriedir cynnal sesiwn hyfforddi ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Ebrill fel eu bod yn ymwybodol o’r newidiadau i’r polisi.  Mae’r Gwasanaethau tai wedi dyrannu adnoddau gweinyddol ychwanegol i ddelio â cheisiadau i wella perfformiad yn erbyn Dangosydd Perfformiad Allweddol 28. Nid yw’r rhain yn swyddi newydd ac mae’r dyletswyddau wedi cael rhannu ymysg staff y gwasanaeth.

·      Mae awdurdodau eraill hefyd yn gweld cynnydd mewn ceisiadau ac maent yn wynebu problemau tebyg  o ran capasiti. Mae’n deg dweud bod nad yw’r heriau yn unigryw i Ynys Môn a’u bod yn gyffredin ledled Cymru.   O ran mynd i’r afael â’r mater, er bod y digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2023 wedi bod yn gadarnhaol iawn a bod contractwyr wedi dangos diddordeb mewn gweithio â’r Cyngor, bydd yn cymryd amser i’r rhain ddwyn ffrwyth. 

·      Mae’r prif heriau yn ymwneud â’r ffaith bod rhan o’r broses yn ymwneud ag asesu anghenion cleientiaid, llunio cynllun gofal, cael pris ar gyfer y gwaith ac ymgysylltu â’r contractwr i wneud y gwaith. Oni bai ein bod ni’n creu tîm mewnol, tebyg i’r Uned Cynnal a Chadw Tai sy’n gofalu am stoc dai’r Cyngor, mae’r opsiynau ar gyfer ymyrryd neu ddod o hyd i ddatrysiad ar lefel gorfforaethol yn gyfyngedig iawn.

Penderfynwyd nodi’r cynnydd hyd yma gan y Gwasanaethau Tai wrth adolygu Dangosydd Perfformiad 28 (Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl).

 

Dogfennau ategol: