Eitem Rhaglen

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2024-2054

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2024 i 2054, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Mae’r CRT yn nodi sut y caiff adnoddau eu gwario i gynnal, gwella a datblygu stoc dai’r Cyngor.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nicola Roberts, yr Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd, ar ran y Cynghorydd Gary Prichard, yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai. Nodwyd bod y Cyngor yn gweithredu yn unol â Deddf Tai Cymru (2014) sy’n gosod dyletswydd statudol ar Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru i ddarparu, cymryd cyfrifoldeb dros waith cynllunio ariannol a rheoli stoc dai’r Cyngor ac mae wedi ymrwymo i gyrraedd Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023. Mae’r Cyngor yn parhau i ddarparu tai o ansawdd i drigolion Ynys Môn ac mae ganddo 3,981 o dai yn ei feddiant. Mae’n mynd ati’n rhagweithiol i gynnwys tenantiaid er mwyn gwella’r gwasanaeth a’r ddarpariaeth.

Trafodwyd y pwyntiau a ganlyn gan y Pwyllgor –

·      Y dull ar gyfer dylunio stoc dai’r Cyngor ac i ba radau mae cymeriad a rhinweddau gweledol yn cael eu hystyried wrth ddatblygu tai cyngor newydd.

·      Fforddiadwyedd Cynllun Busnes y CRT yng nghyd-destun adnoddau sy’n prinhau. 

·      A oes modd i’r Cyngor gydweithio â mwy o Gymdeithasau Tai er mwyn darparu mwy o dai cyngor yn unol â’r cynllun 5 mlynedd. 

·      Y syniad y tu ôl i gynhyrchu Cynllun Busnes 30 mlynedd.

·      A yw’r flaenoriaeth i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 yn gyraeddadwy.

·      Canran y tai cyngor sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

Aeth y Pennaeth Gwasanaethau Tai a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ymlaen i nodi’r canlynol –

·      Mae gan y Cyngor raglen ar waith i gynyddu ei stoc dai a hoffai feddwl ei fod yn cefnogi dyluniadau o ansawdd dda a bod y stadau tai y mae’n helpu i’w datblygu  yn edrych yn ddeniadol. Cyfeiriwyd at y stad newydd yn Llanfachraeth fel enghraifft o ddatblygiad dymunol sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd o’i gwmpas.

·      Nod Cynllun Busnes y CRT yw blaen gynllunio i sicrhau bod gan y Cyngor gynllun hyfyw ar gyfer ariannu ei stoc dai. Mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau ei fod yn cynhyrchu digon o elw drwy renti i’w alluogi i gyflawni’r blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Busnes, yn cynnwys cynnal a chadw’r stoc bresennol i gyrraedd SATC a buddsoddi mewn tai cyngor newydd lle bo modd. Eglurodd y Swyddog Adran 151 y broses ar gyfer profi hyfywedd ariannol y Cynllun Busnes a’r ffactorau y mae’n rhaid eu hystyried, yn cynnwys modelu gwahanol opsiynau yn seiliedig ar bob math o ragdybiaethau yn ymwneud â chwyddiant, cynnydd mewn rhenti, cyfraddau llog a chostau. Tra bydd cronfa wrth gefn y CRT yn cael ei defnyddio i ddatblygu tai newydd, wrth i’r gronfa wrth gefn leihau rhagwelir y bydd rhaid benthyg arian ryw bryd yn y dyfodol ac os ydi’r costau’n dal i fod yn uchel bydd rhaid teilwra’r gyfradd ddatblygu yn unol â hynny. 

·      Mae’r Grant Tai Cymdeithasol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i ariannu tai cymdeithasol yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar fformiwla ac yr un yw’r swm ni waeth faint o gymdeithasau tai y mae’r Cyngor yn dewis cydweithio â hwy. Felly, os ydi’r Cyngor yn dewis cydweithio â mwy o gymdeithasau tai, yr un fydd y dyraniad ond bydd yn rhaid iddo ei rannu’n deneuach.

·      Mae oes 30 mlynedd y Cynllun Busnes yn deillio, yn fwy na thebyg, o’r trefniadau benthyca rhwng y banciau a chymdeithasau tai i sicrhau bod dyledion yn cael eu talu dros gyfnod o 30 mlynedd ac maent wedi dod yn rhan o brosesau Llywodraeth Cymru wedi i’r cynghorau a gadwodd eu stoc dai dalu i adael Cynllun Cymhorthdal y CRT.   Mae Cynllun Busnes y CRT yn cael ei adolygu’n flynyddol ac mae hefyd yn cael ei gywasgu i gynllun pum mlynedd i ddarparu gwell dealltwriaeth o gynlluniau’r Cyngor yn y tymor canolig.

·      Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gyflawni SATC 2023. Ef oedd yr ail gyngor yng Nghymru i gyrraedd SATC yn 2012. Cynhaliodd y Gwasanaethau Tai arolwg o’i stoc dai yn  2022/23 i sefydlu gwaelodlin i baratoi ar gyfer y safonau newydd ac mae’n fodlon bod stoc gyfan yn cydymffurfio â’r safonau gwreiddiol lle bo hynny’n rhesymol ymarferol ac eithrio’r rhai a wrthododd neu’r rhai sydd wedi’u dynodi’n fethiannau derbyniol. Mae’r gwasanaeth hefyd yn gweithio i ddatblygu llwybr ynni fel bod cartrefi fodloni’r gofynion o ran effeithlonrwydd ynni. Dywedodd y swyddog Adran 151 bod gan y Cyngor rywfaint o dai na fydd yn gallu cyrraedd y safonau newydd a’r safonau dilynol yn enwedig mewn perthynas â datgarboneiddio. Bydd rhaid i’r Cyngor adolygu ei stoc dai i weld a oes modd iddo, neu a yw’n gost-effeithiol, buddsoddi ym mhob eiddo fel bod y stoc gyfan yn bodloni SATC 2023.

Ar ôl craffu ar Gynllun Busnes y CRT 2024 i 2054 penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell y Cynllun i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dogfennau ategol: