Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol Rheoli Asedau 2024-2029

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Rheoli Asedau 2024 - 2029, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, yr Aelod Portffolio Busnes  Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer  ar ran y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd methu â bod yn bresennol oherwydd ymrwymiad arall yn gysylltiedig â’i ddyletswyddau fel aelod portffolio. Pwrpas y Cynllun Strategol Rheoli Asedau yw sicrhau bod gan y Cyngor bortffolio asedau sy'n gynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol, sydd wedi'i resymoli i fod yn addas i bwrpas ac sy’n ddiogel ar gyfer darparu gwasanaethau. Mae’r Cynllun yn nodi meysydd blaenoriaeth allweddol mewn perthynas ag addasrwydd, cynaliadwyedd, cydweithio, a data, ac mae’n nodi’r risgiau wrth ddarparu’r Cynllun ac yn amlinellu’r trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd.

Cyfeiriodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo at y Cynllun fel cynllun corfforaethol sy’n cael ei arwain gan y Gwasanaeth Eiddo mewn cydweithrediad â gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor sy’n gyfrifol am asedau megis ysgolion, canolfannau a chartrefi gofal. Nod y Cynllun yw sicrhau bod asedau’r Cyngor yn cael eu rheoli’n dda a’u bod yn addas i bwrpas er mwyn sicrhau arbedion effeithlonrwydd a chyfleoedd i resymoli eiddo fel bod adeiladau’r Cyngor yn gynaliadwy ac yn cyfrannu at ei ymrwymiad i ddatgarboneiddio a dod yn gyngor  sero net.  Mae’r Cyngor yn wynebu heriau rheolaeth asedau sylweddol ar hyn o bryd ar adeg pan fo cyllid cyfalaf yn brin ac mae hyn yn cael ei nodi yn y rhagair i’r Cynllun. Mae’n hanfodol bod data a gwybodaeth gywir a diweddar ar gael er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gwneud penderfyniadau effeithiol ynglŷn â’i asedau ac yn cyflawni ei amcanion.

Aeth y Prif Swyddog Eiddo ac Asedau ymlaen i sôn mwy am y pedwar maes blaenoriaeth a’r hyn y maent yn ei olygu. Fe amlygodd yr asedau eang ac amrywiol sydd gan y Cyngor, y costau cynnal a chadw sylweddol a’r bwlch rhwng yr hyn yr hoffai’r Cyngor ei wneud a’r hyn y mae’n gallu ei wneud gyda’r adnoddau sydd ar gael iddo.

Mae’r prif bwyntiau a drafodwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn –

·       A fyddai’n ddefnyddiol a phriodol pe byddai tabl asedau’r Cyngor yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol ynglyn â gwerth pob ased, y gwaith cynnal a chadw sydd ei angen fel y gellir parhau i ddefnyddio’r ased a chost y gwaith hwnnw er mwyn i’r cyhoedd gael gwell dealltwriaeth o gostau rhedeg y Cyngor a’r gost o gynnal a chadw asedau.

·      Y trefniadau i fonitro cyrhaeddiad a mesur llwyddiant

·       Y cyfrifoldeb dros reoli a chynnal a chadw adeiladau rhestredig

Cynghorwyd y Pwyllgor ynglyn â’r canlynol –

·      Mae gwaith ar y gweill i gasglu a chrynhoi data i gael darlun gyflawn o asedau’r Cyngor. Fel y nodir yn y rhagair mae angen dros £300m o gyfalaf ar y Cyngor i’w alluogi i foderneiddio a diweddaru ei asedau fel y gall gyflawni ei amcanion strategol dros y 5 mlynedd nesaf. Rhaid i’r Cyngor edrych ar ei anghenion hirdymor wrth reoli ei asedau er mwyn iddo fod yn glir ynglyn â’r buddsoddiad sydd ei angen dros y blynyddoedd i ddod. Mae gan y Cynllun Strategol Rheoli Asedau gyswllt agos â’r Strategaeth Gyfalaf sy’n nodi’r egwyddorion a fydd yn cael eu defnyddio fel canllaw ar gyfer blaenoriaethau cyfalaf a dyrannu adnoddau ar draws gwasanaethu’r Cyngor. Fodd bynnag, nid yw’r Cynllun Strategol Rheoli Asedau yn cynnwys y seilwaith priffyrdd gan fod cynllun ar wahân ar gyfer hynny.

·      Bydd nifer o gynlluniau cyflawni yn gysylltiedig â’r Cynllun Strategol a bydd amserlen ar gyfer cyflawni pob elfen / prosiect a bydd eu cynnydd yn cael ei fonitro drwy brosesau corfforaethol. Mae cylch gorchwyl y Grŵp Tir ac Asedau hefyd yn cael ei adolygu i sicrhau bod y grŵp yn parhau i fod yn addas i bwrpas. 

·      Mae rhai adeiladau yn adeiladau rhestredig ac mae’n rhaid ystyried hynny wrth eu haddasu neu eu hatgyweirio a’u cynnal a’u cadw, ac mae’n bosib y bydd angen caniatâd adeiladau rhestredig yn ogystal. Y Gwasanaeth Cynllunio, ar y cyd â CADW,  sy’n gyfrifol am reoli datblygu mewn perthynas ag adeiladu rhestredig ac mae’n rhaid i’r Gwasanaeth Eiddo gydymffurfio â’r gofynion mewn perthynas ag adeiladu rhestredig wrth gwblhau gwaith.

Ar ôl craffu ar y Cynllun Strategol Rheoli Asedau 2024 i 2029 penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell y Cynllun i’r Pwyllgor Gwaith i’w fabwysiadu gan y Cyngor llawn.

 

Dogfennau ategol: