Eitem Rhaglen

Cynnig i Drosglwyddo DisgyblionYsgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a Chau Ysgol Carreglefn

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried a’i graffu, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn nodi’r cynnig i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a’r Gymraeg, a dywedodd fod gofyn i’r pwyllgor i graffu ar y cynnig i drosglwyddo disgyblion Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a Chau Ysgol Carreglefn, yr argymhelliad bod y Pwyllgor Gwaith yn awdurdodi Swyddogion i gyhoeddi rhybudd statudol ar y cynnig, ynghyd â’r argymhelliad i awdurdodi Swyddogion i gynnal trafodaethau gyda’r gymuned ynglŷn â sicrhau dyfodol tymor hir adeilad yr ysgol bresennol fel adnodd i’r gymuned, ac yna cyflwyno ei safbwyntiau i’r Pwyllgor Gwaith.

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc grynodeb o’r sail dros y cynnig a dywedodd fod y papur yn cyflwyno canlyniad y gwaith a wnaethpwyd i edrych ar nifer o opsiynau ar gyfer dyfodol Ysgol Carreglefn am y rhesymau canlynol –

·      Ysgol Carreglefn sydd â’r gost uchaf fesul disgybl o holl ysgolion cynradd Cymru, sef £17,200 y disgybl,

·      Mae gan Ysgol Carreglefn 80% o leoedd gwag, a dim ond 9 disgybl sy’n mynychu’r ysgol ar hyn o bryd, gyda 4 ohonynt ym mlwyddyn 6. Yn ôl rhagolygon yr ysgol, disgwylir i 5 neu lai o ddisgyblion fynychu’r ysgol o fis Medi 2024 ymlaen.

·      Allyriadau carbon Ysgol Carreglefn yw’r ail uchaf fesul disgybl o holl ysgolion cynradd Ynys Môn, sef 1,167kgCO2e y disgybl, o gymharu â chyfartaledd o 217kgCO2e y disgybl.

·      Mae cost cynnal a chadw cyfredol a rhagamcannol Ysgol Carreglefn yn £317,350.

·      Mae holl ddisgyblion Ysgol Carreglefn yn cael eu haddysgu mewn un dosbarth ac mae plant rhwng 4 ac 11 oed yn cael eu haddysgu gyda’i gilydd, a gall hyn greu heriau o ran diwallu anghenion plant o wahanol oedrannau.

·      Mae Ysgol Carreglefn wedi cael anhawster penodi pennaeth ac mae’n rhannu pennaeth gydag ysgol arall ar hyn o bryd.

Gan fod llai na 10 o ddisgyblion wedi eu cofrestru yn Ysgol Carreglefn ar ddyddiad y Cyfrifiad ym mis Ionawr 2024, mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn caniatáu i awdurdodau lleol gynnal proses symlach i gau ysgol yn swyddogol. Yr unig beth sydd rhaid ei wneud yw cyhoeddi hysbysiad i gau, gan hepgor y gofyn i gynnal ymgynghoriad cyffredinol. Os yw’r Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r cynnig, cyhoeddir rhybudd cau statudol ac yn dilyn hynny bydd cyfnod gwrthwynebu 28 diwrnod o hyd yn cael ei gynnal rhwng 1 Mawrth a 1 Ebrill 2024. Yn dilyn hynny bydd adroddiad gwrthwynebu’n cael ei lunio a’i gyflwyno i’r pwyllgor(au) perthnasol cyn gwneud y penderfyniad terfynol. Os bydd penderfyniad yn cael ei wneud i gau Ysgol Carreglefn, yna byddai’r ysgol yn cau ym mis Awst 2024, gyda disgyblion o Ysgol Carreglefn yn trosglwyddo i Ysgol Llanfechell o fis Medi 2024.

Gan gydnabod bod y bwriad i gau ysgol yn fater anodd, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad a sicrwydd mewn perthynas â’r materion isod wrth ystyried y cynnig –

 

·      Y sefyllfa mewn perthynas â chae chwarae’r ysgol gan fod Cofeb Carreglefn wedi’i leoli ger y cae chwarae.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y cae chwarae yn rhan o’r ysgol.

·      A fyddai rheini disgyblion y byddai cau Ysgol Carreglefn yn effeithio arnynt yn cael enwebu ysgol wahanol i’w plentyn/plant fynychu, yn hytrach nac Ysgol Llanfechell.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn datgan, os yw cynnig yn ymwneud â chau ysgol, yna mae’n rhaid cynnwys gwybodaeth am enw a lleoliad y ddarpariaeth amgen arfaethedig, sef Ysgol Llanfechell yn yr achos hwn. Er bod y cynnig yn nodi y byddai disgyblion o Ysgol Carreglefn yn trosglwyddo i Ysgol Llanfechell os yw ysgol Carreglefn yn cau, mae’n rhaid i’r hysbysiad statudol ddatgan yn glir fod hawl gan rieni ddewis. Gall rhieni wneud cais i’w plant fynychu unrhyw ysgol ac wrth nodi mai Ysgol Llanfechell yw’r ddarpariaeth amgen, mae’r Awdurdod yn rhoi sicrwydd i rieni a’u plant y gallant barhau eu haddysg yn yr ysgol agosaf oni bai eu bod wedi nodi’n wahanol.

·      A oes unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol i’r cynnig, heblaw am yr arbedion net blynyddol o £126k y disgwylir i’r cynnig ei gynhyrchu trwy’r fformiwla ariannu ysgolion.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc wrth y Pwyllgor y byddai costau ychwanegol yn gysylltiedig â chludo disgyblion cymwys o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell, yn unol â pholisi cludiant yr Awdurdod, gan nad yw’r lôn rhwng Carreglefn a Llanfechell yn cael ei hystyried yn addas i ddysgwyr o’r oedran honno gerdded arni i’r ysgol ac yn ôl adref. Er hynny, bychan iawn fyddai’r costau hyn. Efallai y bydd costau eraill yn gysylltiedig â rhoi’r cynnig ar waith, fel y nodir yn adran 8 yn y papur cynnig, lle ceir manylion am yr effaith ariannol pe byddai’r cynnig yn cael ei roi ar waith.

Esboniodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y broses a’r addasiadau y byddai’n rhaid eu gwneud i gyllidebau Ysgol Llanfechell ac Ysgol Carreglefn hyd at gau’r ysgol honno (os yw’r cynnig yn cael ei roi ar waith), ac wedi hynny, gan nad yw’r cynnig hwn yn cynnwys prosiect i adeiladu ysgol newydd.

Mewn perthynas â’r posibilrwydd o drosglwyddo cyllid ychwanegol i Ysgol Llanfechell cyn dechrau blwyddyn ariannol 2024/25 er mwyn cynorthwyo i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cyllidebau ysgolion yn seiliedig ar niferoedd disgyblion ym mis Medi yn ystod y flwyddyn flaenorol. Os yw’r cynnig yn cael ei gymeradwyo, yna bydd Ysgol Llanfechell yn derbyn arian ychwanegol o fis Ebrill 2025 i adlewyrchu’r disgyblion sy’n trosglwyddo o Ysgol Carreglefn. Er hynny, gan fod y cynnig yn golygu cau Ysgol Carreglefn ar ganol y flwyddyn ariannol ym mis Medi 2024, byddai cyfran o’r cyllid ychwanegol yn trosglwyddo i Ysgol Llanfechell bryd hynny. Er bod rheoliadau ariannu ysgolion yn datgan bod rhaid dyrannu arian yn unol â’r fformiwla ariannu ysgolion, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y byddai Ysgol Llanfechell yn debygol o dderbyn mwy o gyllid ychwanegol nag a fyddai’n cael ei ddyrannu iddi drwy addasu’r fformiwla ar gyfer 4 disgybl ychwanegol a byddai’r ysgol yn gallu ei ddefnyddio i’r perwyl hwnnw.

·      Dyfodol adeilad ysgol Carreglefn pe byddai’r ysgol yn cau.

Dywedodd y Cynghorydd Llio Owen, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, bod nifer o bobl leol yn deall y rhesymau dros y cynnig, ond er hynny, roedd y posibilrwydd o weld yr ysgol yn cau yn eu tristau. Pwysleisiodd, serch hynny, bod y gymuned yn awyddus i gadw adeilad yr ysgol gan ei fod yn adnodd hanesyddol a fu yn y pentref ers amser maith ac roedd yn dymuno gwybod pa mor debygol oedd hyn o ddigwydd.

Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y Pwyllgor fod dyfodol adeilad yr ysgol, a’r gofeb sy’n gysylltiedig ag o, yn fater ar wahân i’r cynnig sydd gerbron, sef rhoi’r gorau i ddarparu addysg yn yr ysgol, ac nid yw’n ystyriaeth na’n elfen o’r cynnig. Bydd dyfodol adeilad Ysgol Carreglefn yn destun trafodaethau dilynol os caiff y cynnig ei weithredu.

·      Trefniadau i gynorthwyo plant o Ysgol Carreglefn i symud i Ysgol Llanfechell ac addasu i amgylchedd ysgol newydd a dosbarthiadau mwy.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc wrth y Pwyllgor na chaiff unrhyw gymorth ei drefnu cyn i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud. Os yw’r cynnig yn cael ei gymeradwyo, disgwylir y byddai ymgysylltu rhwng y ddwy ysgol cyn diwedd y flwyddyn ysgol trwy weithgareddau ar y cyd, rhannu gwybodaeth a threfnu ymweliad ag Ysgol Llanfechell. Byddai taflenni cwestiwn ac ateb ar gyfer rhieni a disgyblion yn cael eu paratoi hefyd.

·      Y gweithdrefnau a’r gofynion ychwanegol a ddilynwyd gan y Cyngor wrth lunio’r cynnig i gau Ysgol Carreglefn, a ddynodwyd yn ysgol wledig, gan fod y Cod Trefniadaeth Ysgolion wedi sefydlu rhagdybiaeth weithdrefnol yn erbyn cau ysgolion gwledig ac mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddilyn cyfres o weithdrefnau mwy manwl wrth lunio unrhyw gynigion o’r fath.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a’r Rheolwr Rhaglen wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi ystyried nifer o opsiynau amgen eraill, heblaw am gau’r ysgol, yn unol â gofynion y Cod ac fel y nodir yn adran 6 yn y papur cynnig. Mae’r opsiynau eraill, yn ogystal â’r cynnig sydd gerbron, wedi cael eu hasesu o ran eu heffaith debygol ar ansawdd a safonau addysg, y gymuned a threfniadau teithio disgyblion (adran 7.2 yn y papur). Paratowyd asesiad o’r effaith ar y gymuned (a nodir yn Atodiad 2) i edrych ar effaith gyffredinol cau ysgol wledig ar bobl a’r gymuned yn y tymor hir. Dengys yr asesiad o’r opsiynau y byddai’r opsiynau amgen rhesymol a ystyriwyd yn arwain at rywfaint o effeithiau cadarnhaol a negyddol. Dengys y dadansoddiad y byddai’r cynnig i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn yn gyffredinol yn cael effaith gadarnhaol ar safonau, agweddau cymunedol a threfniadau teithio disgyblion. Er y gwelir y byddai’r cynnig yn cael effaith negyddol ar drefniadau teithio, ni chredir y bydd yr effaith hwn yn sylweddol gan nad oes ond pellter o 2.2 milltir rhwng Ysgol Llanfechell ac Ysgol Carreglefn, ac, ar hyn o bryd, dim ond 47% o ddisgyblion sy’n byw yn nalgylch Ysgol Carreglefn sy’n mynychu’r ysgol.

·      P’un a fyddai’r cynnig yn cynorthwyo i gryfhau’r Gymraeg.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc wrth y Pwyllgor fod Ysgol Llanfechell ac Ysgol Carreglefn yn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac mae’r ddwy yng nghategori 3 o ran categori iaith, sy’n golygu mai’r Gymraeg yw prif iaith yr ysgol. Mae gan yr ysgol ethos Cymraeg cryf a bydd yr holl ddisgyblion yn cael eu cynorthwyo i ddefnyddio’r Gymraeg yn y dosbarth a thu allan i’r dosbarth. Ni fyddai newid, felly, o ran y categori iaith. Ym mis Ionawr 2023, dim ond 10% o ddisgyblion Ysgol Carreglefn oedd yn siarad Cymraeg gartref, o gymharu â 48% o ddisgyblion yn Ysgol Llanfechell. Gallai’r cynnig, felly, ddarparu mwy o gyfleoedd i ddisgyblion o Garreglefn gael eu trochi yn y Gymraeg gyda disgyblion eraill sy’n siarad Cymraeg yn Ysgol Llanfechell.

·      Y trefniadau ar gyfer cefnogi staff fyddai’n cael eu heffeithio o roi’r cynnig ar waith.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc wrth y Pwyllgor y byddai’r Awdurdod yn sicrhau trafodaeth barhaus gyda staff, gan gynnwys rhoi gwybod iddynt am swyddi posib neu gyfleoedd am swyddi gwahanol, yn ogystal â chefnogi eu llesiant. Byddai trefniadau diogelu cyflog ar waith am gyfnod hefyd.

Pwysleisiodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Lleol yn yr achos hwn, bwysigrwydd adeilad Ysgol Carreglefn oherwydd dyma’r adnodd cymunedol olaf sydd ar gael i gymuned Carreglefn, sydd, fel y tystia’r adroddiad, yn gymuned hynod weithgar. Dywedodd ei bod yn gwerthfawrogi ymdrechion pawb a oedd wedi ceisio cadw’r ysgol yn agored yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond, oherwydd y gostyngiad yn niferoedd y disgyblion, ystyrir mai’r cynnig a gyflwynwyd yw’r ateb gorau i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r ddwy ysgol a’r ardal. Wrth bwysleisio pa mor agos yw cymunedau Carreglefn a Llanfechell, cyfeiriodd at y ffaith fod yr un cyngor cymuned yn gwasanaethu’r ddwy ardal.

Er bod y Pwyllgor yn cydnabod ac yn derbyn yr heriau ynghlwm â chynnal Ysgol Carreglefn gyda chyn lleied o ddisgyblion, roedd consensws cryf ymysg aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini y dylid gwneud pob ymdrech, os caiff y cynnig ei gymeradwyo a’i roi ar waith, i sicrhau bod adeilad ysgol Carreglefn yn cael ei gadw fel adnodd i’r gymuned. Wrth gefnogi’r dymuniad hwnnw, roedd y Cynghorydd Arfon Wyn yn teimlo y dylid cefnogi cymunedau eraill sy’n dymuno cael meddiant o’r hen adeiladau ysgol yn sgil cau yr ysgol  leol ym Mro Aberffraw, Llangaffo a Bodorgan er enghraifft. Roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones o’r farn na fyddai’r sefyllfa hon wedi codi pe byddai’r Awdurdod wedi delio’n wahanol â’r sefyllfa yng Ngharreglefn rai blynyddoedd yn ôl, gan fod rhieni wedi penderfynu symud eu plant i ysgolion eraill yn sgil hynny ac roedd niferoedd disgyblion Ysgol Carreglefn wedi gostwng oherwydd hynny. Gwnaethpwyd rhai awgrymiadau ynglŷn â chynnwys y papur cynnig a nodwyd y byddai’n fuddiol cynnwys crynodeb o ofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion mewn perthynas ag ysgolion gwledig, er mwyn dangos eu bod wedi cael eu hystyried, yn ogystal ag eglurhad o Bolisi Cludiant Ysgol yr Awdurdod.

Roedd y Prif Weithredwr yn cydnabod bod cynnig i gau ysgol yn fater anodd ei ystyried, ac nid yw cynnig o’r fath yn cael ei gyflwyno ar chwarae bach, a dywedodd fod y papur cynnig yn un cynhwysfawr ac mae’n darparu sicrwydd bod pob opsiwn amgen rhesymol wedi cael eu hystyried a’u harchwilio. Roedd yn cydnabod hefyd cryfder y teimladau mewn perthynas â diogelu adeilad yr ysgol i’r gymuned ei ddefnyddio a rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor bod yr Awdurdod wedi ymrwymo, os yw’r cynnig yn cael ei weithredu, i drafod hynny gyda chymuned Carreglefn a chanfod yr ateb gorau o dan yr amgylchiadau, ac yn unol â’r polisïau a’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r Awdurdod.

Ar ôl craffu ar y cynnig i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn, ac wedi ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd, yn ysgrifenedig yn y papur cynnig ac ar lafar gan Swyddogion yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor –

·         Gefnogi ac argymell i’r Pwyllgor Gwaith, y cynnig i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn. (Pleidleisiodd y Cynghorydd Aled M. Jones yn erbyn am y rheswm a nodwyd uchod).

·         Cefnogi ac argymell i’r Pwyllgor Gwaith awdurdodi Swyddogion i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig. (Pleidleisiodd y Cynghorydd Aled M. Jones yn erbyn am y rheswm a nodwyd uchod).

·         Cefnogi, yn unfrydol, ac argymell i’r Pwyllgor Gwaith awdurdodi Swyddogion i gynnal trafodaeth gyda’r gymuned i geisio darparu cyfle i sicrhau dyfodol tymor hir adeilad presennol yr ysgol fel adnodd i’r gymuned.

 

Dogfennau ategol: