Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol Digidol Cyngor Sir Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori Cynllun Strategol Digidol Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2025-29 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo.

 

Cyflwynwyd y Strategaeth gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a dywedodd ei bod yn gosod cyfeiriad a gweledigaeth glir ar gyfer gwasanaethau TG corfforaethol, a hynny’n seiliedig ar egwyddorion cyffredinol y Cyngor a’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh. Mae’n olynu’r Strategaeth Ynys Ddigidol flaenorol gan fod angen adolygu a diweddaru’r strategaeth honno yn dilyn mabwysiadu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28. Bydd cynlluniau gwasanaeth yn eistedd o dan y Strategaeth yn ôl yr angen a bydd is-strategaethau’n cael eu datblygu ar gyfer ffrydiau gwaith a rhaglenni sylweddol. Y bwriad yw llunio cynllun gweithredu blynyddol i sicrhau fod y Cynllun Strategol yn cael ei roi ar waith, ei fonitro a’i adolygu os bydd angen. Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod TG a darpariaeth ddigidol yn greiddiol i brosesau mewnol y Cyngor yn ogystal â phrofiad ei gwsmeriaid, a dyna pam fod y Cynllun mor allweddol i siwrne’r Cyngor wrth gyflawni disgwyliadau ei drigolion. Er bod y Cynllun yn nodi uchelgais y Cyngor i ddatblygu, gwella, moderneiddio a symleiddio prosesau gan ddefnyddio technoleg, mae’n cydnabod hefyd nad oes gan bawb yr un mynediad i’r byd digidol ac mae’n ceisio sicrhau fod gan drigolion Ynys Môn, ac ymwelwyr, fynediad i wasanaethau o ansawdd uchel trwy gyfrwng amrywiaeth o sianelau digidol a thraddodiadol.

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn cydnabod fod dibyniaeth ar dechnoleg yn cynyddu a bod cyfranogiad digidol yn bwysig mewn bywyd o ddydd i ddydd ac roeddent yn falch o nodi nad yw’r Cynllun Strategol Digidol, sy’n ceisio gwella a datblygu cynnig digidol presennol y Cyngor, yn atal trigolion nad oes ganddynt fynediad at dechnoleg ddigidol neu’r hyder i’w ddefnyddio rhag parhau i gysylltu â’r Cyngor trwy ddulliau traddodiadol. Roeddent o’r farn fod hyn yn hanfodol i sicrhau fod y Cyngor yn parhau’n gynhwysol ac yn agored i bawb. Ceisiodd y Pwyllgor Gwaith sicrwydd hefyd y byddai’n bosib addasu’r Cynllun Strategol er mwyn ymateb i ddatblygiadau mewn technoleg yn ystod cyfnod y Cynllun.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm TG fod prif ffocws y Cynllun ar egwyddorion yn caniatáu hyblygrwydd i ymateb i newid a gellir cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig os bydd angen  i adlewyrchu unrhyw ddatblygiadau o bwys ym maes technoleg gwybodaeth. Er hynny, mae’r diffiniad o dechnoleg a digidol yn y Strategaeth yn ddigon eang i ymgorffori elfennau ychwanegol, er enghraifft, os yw’r Cyngor yn dymuno ehangu’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial. Byddai newidiadau o’r fath yn cael eu gwneud mewn ymgynghoriad â’r un rhanddeiliaid a fu’n ymwneud â datblygu’r Cynllun a byddai’n cael ei gymeradwyo trwy’r un sianelau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cynllun Strategol Digidol yn berthnasol i bawb sy’n ymwneud â’r Cyngor, boed yn weithwyr neu drigolion, a’i bod yn bwysig sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Cynllun a’r hyn y mae’n ei olygu ar bob lefel o’r Cyngor, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddatblygu a gwella sgiliau technoleg ym mhob gwasanaeth.

 

Penderfynwyd

 

·      Cymeradwyo’r Strategaeth Ddigidol drafft a 

·      Chefnogi’r egwyddor o gynllun gweithredol blynyddol

 

Dogfennau ategol: