Eitem Rhaglen

Diweddariad ar y sefyllfa mewn perthynas â staffio'r Tim Polisi Cynllunio newydd a'r cynnydd cychwynnol tuag at baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

 Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar Staffio’r Tîm Polisi Cynllunio newydd; y Rhaglen Waith; y Cytundeb Cyflawni a Chynllun Cynnwys Cymunedol; y Grŵp Uwch Swyddogion; yr Adroddiad Monitro Blynyddol 2024; Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor Byr (Cyfarwyddyd Erthygl 4) a Hyfforddiant i Aelodau.

 

·      Staffio

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod y tri swyddog newydd a benodwyd wedi dechrau yn eu swyddi ar 8 Ionawr 2024. Mae’r swydd Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio yn dal i fod yn wag a chafodd ei hail-hysbysebu ar 13 Chwefror. Os oes diffyg capasiti o hyd o ran gweithgareddau gwaith, gellir gofyn am gymorth allanol drwy’r fframwaith contractwyr.

 

·      Rhaglen Waith

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod rhaglen waith ddangosol sy’n amlygu’r tasgau a gynlluniwyd ar gyfer y chwe mis nesaf ynghlwm i’r adroddiad yn Atodiad 1.

 

·      Cytundeb Cyflawni a Chynllun Cynnwys Cymunedau

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio mai’r bwriad yw paratoi ac ymgynghori ar y Cynllun Cyflawni a’r Cynllun Cynnwys Cymunedau. Lluniwyd amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith a’r bwriad yw eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Medi 2024 er mwyn i’r Cyngor eu cytuno cyn i’r dogfennau gael eu cyflwyno i’w cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Rheoliadau’r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi bod rhaid i’r Cyngor weithio gyda rhanddeiliaid a’r gymuned yn gynnar yn y broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Nododd y bydd gan Aelodau Lleol ran bwysig i’w chwarae o fewn eu cymunedau lleol i hyrwyddo’r gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Dywedodd hefyd y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru gytuno ar unrhyw newidiadau yn yr amserlen.

 

Gofynnwyd pryd fydd y Pwyllgor mewn sefyllfa i drafod y polisïau cynllunio mewn manylder. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod rhaid cwblhau’r Cytundeb Cyflawni cyn y gellir cynnal trafodaethau manwl ynglŷn â pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol, ond bydd modd i Aelodau gyfrannu yn ystod y broses ymgysylltu ar y Cytundeb Cyflawni.

 

·      Y Grŵp Uwch Swyddogion

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y byddai Grŵp Uwch Swyddogion yn cael ei sefydlu dan gadeiryddiaeth y Prif Weithredwr. Bydd y Grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd a’i nod fydd sicrhau bod y Cyngor cyfan yn cael llywio a chyfrannu at y gwaith o lunio a pharatoi’r CDLl newydd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion a heriau’r Ynys ac er mwyn cynnig arweiniad a chyfarwyddyd mewn perthynas â llunio’r Strategaeth a Ffafrir fel rhan o’r gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn. Bydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio’n derbyn adborth rheolaidd gan y Grŵp Uwch Swyddogion.

 

·      Adroddiad Monitro Blynyddol 2024

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod monitro polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) yn ofyn statudol. Bydd rhaid paratoi Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer 2024 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2024. Gan fod y CDLlC wedi cael ei baratoi ar y cyd â Chyngor Gwynedd, mae’r posibilrwydd o gyflwyno dau Adroddiad Monitro Blynyddol ar wahân wedi cael ei drafod gyda Llywodraeth Cymru ond mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i un adroddiad gael ei baratoi ar y cynllun unigol hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn agored i drafod y posibilrwydd o dderbyn adroddiadau unigol ar y CDLl gan y ddau awdurdod lleol ac y gellid ymestyn yr amserlen ar gyfer cyflwyno adroddiadau 2024 tan ar ôl y Nadolig os oes cyfiawnhad priodol dros wneud hynny. Er eu bod yn gwerthfawrogi problemau o ran recriwtio staff i’r Tîm Polisi Cynllunio newydd, pwysleisiodd Swyddogion Llywodraeth Cymru bod angen parhau i fonitro gweithgareddau er mwyn casglu data priodol fel sail i’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun newydd. Nododd y bydd angen parhau i drafod gyda Chyngor Gwynedd pan fydd gofyn cyflwyno data ar y cyd i amlinellu cynnydd mewn perthynas â dangosyddion blaenoriaeth y CDLlC.

 

·      Ail Gartrefi a llety gwyliau tymor byr (Cyfarwyddyd Erthygl 4)

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod y Cydlynydd Her Tai Lleol wedi dechrau yn ei swydd yn ddiweddar ac oherwydd profiad diweddar Cyngor Gwynedd o ran y Cyfarwyddyd Erthygl 4 ystyriwyd y byddai’n fanteisiol i Ynys Môn pe byddai cyfarfod yn cael ei drefnu gyda’r swyddog perthnasol o gyngor Gwynedd. Bydd monitro cynnydd Cyngor Gwynedd yn y maes hwn yn rhoi arweiniad i ni. Mae penderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ddiweddar i symud i’r cyfeiriad hwn hefyd wedi’i nodi ac rydym wedi cysylltu â’r Parc i ddweud wrthynt fod yr Awdurdod yn awyddus i ddysgu o’u profiadau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau am yr amserlen i Gyngor Gwynedd ymateb i’r Cyfarwyddyd Erthygl 4, dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y byddai’r ymateb yn digwydd ym mis Medi 2024. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod gwaith aruthrol ynghlwm â’r Cyfarwyddyd Erthygl 4. Nododd y byddai dysgu gan awdurdodau lleol eraill yn caniatáu i’r Cyngor hwn lunio CDLl cadarn.

 

·      Hyfforddiant i Aelodau

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod rhaglen hyfforddiant i aelodau’n cael ei pharatoi mewn ymateb i’r cais a wnaed yn y cyfarfod diwethaf. Bydd y rhaglen hyfforddi’n yn cynnwys trosolwg o’r broses o baratoi’r cynllun datblygu a bydd sesiynau ychwanegol yn cael eu trefnu hefyd i edrych yn fanylach ar elfennau penodol o’r broses gan ganolbwyntio ar feysydd gwaith unigol. Bydd y rhaglen hyfforddi lawn ar gyfer 2024/2025 yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y byddai sesiynau hyfforddi’n cael eu cynnig i Aelodau’r Pwyllgor Polisi Cynllunio, yn ogystal â sesiynau hyfforddi ar gyfer yr Aelodau Etholedig eraill maes o law.

 

Dogfennau ategol: