Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach ar gyfer 2022/23

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog

Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys adroddiad blynyddol a chyfrifon Stad Elusennol David Hughes ac Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2022/23 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid, a roddodd drosolwg o gefndir Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn a’r tair cronfa, sef Cronfa Waddol David Hughes, Cronfa Addysg Bellach Ynys Môn 1/3 a Chronfa Ymddiriedolaeth Addysg Ynys Môn 2/3 sy’n darparu budd addysgol i bobl ifanc sydd yn, neu sydd wedi, mynychu ysgolion uwchradd yr Ynys. Cyfeiriodd at y cyllid a ddyrannwyd i ysgolion uwchradd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref 2019 a sut y cafodd y cyllid hwn ei ddefnyddio gan yr ysgolion yn ystod 2022/23 fel y nodir yn adran 5 a 6 yn yr adroddiad. Gan na chynhyrchodd Stad Elusennol David Hughes unrhyw warged yn 2022/23 nid oedd unrhyw gyllid ar gael i’w drosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth y flwyddyn honno ac felly nid oedd unrhyw ddyraniad i’r ysgolion. Mae gwaith ar y gweill i sicrhau bod Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn yn cael ei ddefnyddio i’r eithaf a’i bod yn dal i fod yn addas i bwrpas.

 

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y cyfrifon ar gyfer 2022/23  yn dangos bod costau rhedeg y stad yn fwy na’r incwm rhent a gynhyrchir drwy fân-ddaliadau’r stad ac felly nid oedd incwm ar gael i’w ddosbarthu i Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn yn 2022/23. Mae’r stad, sy’n cynnwys mân-ddaliadau a buddsoddiadau eraill, werth oddeutu £4.88m. Er bod gwerth y stad wedi cynyddu nid yw incwm net y gronfa wedi cynyddu ac os ydi’r sefyllfa hon yn parhau bydd rhaid ystyried ffyrdd o gynhyrchu mwy o incwm fel y gellir parhau i ddosbarthu cyllid i’r Ymddiriedolaeth Addysg Bellach, neu mae risg y bydd yr Ymddiriedolaeth yn dod i ben yn ogystal â’r buddion i ysgolion uwchradd a disgyblion Ynys Môn.

 

Yn sgil y cyngor hwn ynglŷn ag incwm y stad, cynigodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor Gwaith yn gwneud argymhelliad penodol a fyddai’n caniatáu i’r Swyddog Adran 151 ystyried yr opsiynau sydfd ar gael fel y gall Stad Ddiwydiannol David Hughes gynhyrchu mwy o incwm er mwyn diogelu hyfywedd yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach yn yr hirdymor er budd pobl ifanc Ynys Môn. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiad pellach ar yr opsiynau i benderfynu ar y ffordd ymlaen gan ystyried anghenion tenantiaid yn ogystal â phobl ifanc Ynys Môn. 

 

Penderfynwyd –

 

·      Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn 2022/23 (Atodiad A yr adroddiad).

·      Dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yr awdurdod i lofnodi'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon Terfynol a'u ffeilio gyda'r Comisiwn Elusennau ar ôl cwblhau'r archwiliad yn foddhaol.

·      Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, yr awdurdod mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, i edrych ar opsiynau ar gyfer cynyddu incwm o Ystâd Elusennol David Hughes, er mwyn diogelu hyfywedd tymor hir Cronfa Addysg Bellach Ynys Môn er budd pobl ifanc Ynys Môn. Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith er mwyn dewis yr opsiwn i’w ddilyn.

 

Dogfennau ategol: