Eitem Rhaglen

Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 3, 2023/24

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn - AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2023/24 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer. Nododd mai dyma’r cerdyn sgorio mwyaf cadarnhaol ar gyfer Chwarter 3 ers i’r cerdyn sgorio gael ei gyflwyno fel arf ar gyfer mesur perfformiad.  Mae 91% o’r holl ddangosyddion perfformiad yn perfformio’n well na’u targed neu o fewn 5% i’r targedau ar gyfer y chwarter. Amlygodd nifer o feysydd sydd wedi perfformio’n dda yn ystod y chwarter megis y Gymraeg mewn ysgolion, NERS, nifer y cartrefi gwag sydd wedi dod yn ôl i ddefnydd, Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Digartrefedd, Rheoli Gwastraff, a’r Gwasanaeth Cynllunio. Mae angen gwaith pellach mewn perthynas ag ymateb i Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, rheoli cwynion, cyflawni’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl a’r amser a gymerir i ail-osod eiddo gwag, ac mae’r meysydd hyn yn cael eu monitro a’u harchwilio gan y Tîm Arweinyddiaeth i sicrhau gwelliannau yn y dyfodol.   Er bod y Cyngor yn dal i wynebu pwysau ariannol ac er y bydd rhaid mynd i’r afael â rhai pwysau ariannol  yn ystod y flwyddyn nesaf, mae perfformiad y Cyngor o ran i reolaeth ariannol yn gadarnhaol a rhagwelir tanwariant ar ddiwedd y flwyddyn ac, os caiff ei wireddu,  bydd yn cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor.

Bu i’r Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid ategu sylwadau’r Aelod Portffolio gan ddweud bod y cerdyn sgorio’n adlewyrchu perfformiad cadarnhaol ledled y sefydliad ac er bod ambell faes y gellir ei wella, mae’r Cyngor yn ymdrechu’n barhaus i wella ei berfformiad.

Adroddodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol  ar y materion a godwyd gan y Pwyllgor wrth graffu ar y cerdyn sgorio ar gyfer Ch3 yn ystod y ei gyfarfod ar 12 Mawrth 2024. Roedd y materion hyn yn cynnwys meysydd sy’n perfformio yn unol â’u targed ond lle mae’r tuedd ar i lawr, gwersi a ddysgwyd gan gwynion ac i ba raddau y mae’r rhain yn cael eu defnyddio i wella’r broses ac ymarfer a’r amserlen ar gyfer cyflwyno’r cerdyn sgorio newydd ar gyfer 2024/25 a’i chyswllt â Chynllun y Cyngor 2023-28. Ar ôl trafod y materion a derbyn sicrwydd gan Swyddogion ac Aelodau Portffolio ac ar ôl cydnabod y perfformiad cadarnhaol sy’n cael ei adlewyrchu yn y cerdyn sgorio ar gyfer Ch3, penderfynodd y Pwyllgor argymell yr adroddiad ar gerdyn sgorio Ch3 2023/24 a’r mesurau lliniaru yn yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

Dywedodd y Prif Weithredwr bod sicrhau’r llwyddiant a adlewyrchir yn y cerdyn sgorio ar gyfer Ch3 wedi golygu llawer iawn o waith caled a bu iddo longyfarch y Penaethiaid Gwasanaeth a’u rheolwyr a’u staff ar eu hymrwymiad. Er y bydd yn heriol cynnal ac adeiladu ar y canlyniadau cadarnhaol presennol, er mwyn parhau i ddatblygu a gwella rhaid i hyn fod yn ddyhead i’r Cyngor.

Bu i aelodau’r Pwyllgor Gwaith gydnabod canlyniadau’r cerdyn sgorio ar gyfer Ch3, sy’n amlygu perfformiad da ar draws y gwasanaethau a rhai meysydd rhagorol, a mynegi eu gwerthfawrogiad i’r staff am sicrhau canlyniadau mor gadarnhaol. Bu iddynt nodi bod y Cyngor wedi wynebu, a’i fod yn dal i wynebu, heriau allanol a’i fod yn ceisio rheoli’r rhain a bod gwasanaethau wedi gorfod dod o hyd i arbedion cyllidebol yn ystod y cyfnod hwn er mwyn datblygu’r gyllideb ar gyfer 20242/25, sy’n  golygu bod y perfformiad hwn hyd yn oed yn fwy canmoladwy. Cyfeiriodd y Cynghorydd Gary Pritchard,  yr aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai, at Ddangosydd Perfformiad Allweddol rhif 28 (yr amser cyfartalog a gymerir i gyflawni’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl) sydd wedi cael ei drafod gan y Pwyllgor Sgriwtini yn ddiweddar. Roedd yn falch o gadarnhau bod y nifer o ddyddiau wedi gostwng erbyn hyn ac, er nad yw’r targed wedi cael ei gyflawni eto, mae’r gwelliant hwn yn dangos bod y mesurau lliniaru sydd wedi cael eu rhoi ar waith yn cael effaith ac mae pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir.  Pwysleisiodd bod edrych ar dueddiadau'r un mor bwysig ag edrych ar dargedau a chyfeiriodd at y gwasanaeth Digartrefedd lle mae’r holl ddangosyddion yn perfformio’n dda ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth yn wynebu pwysau sylweddol ac mae hyn yn cael effaith ar un o’r dangosyddion. Bydd y dangosydd hwn y cael ei fonitro a'i adolygu.

Penderfynwyd derbyn y cerdyn sgorio corfforaethol ar gyfer Ch3 2023/24 a nodi’r meysydd mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn rheoli a sicrhau gwelliant pellach yn y dyfodol ynghyd â’r mesurau lliniaru fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: