Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol Rheoli Asedau Corfforaethol 2024-2029

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Rheoli Asedau Corfforaethol 2024-29 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd y Cynllun Strategol gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fel dogfen lefel uchel sy’n gosod y cyfeiriad strategol a’r egwyddorion a fydd yn arwain penderfyniadau a phrosesau’r Cyngor mewn perthynas â rheoli ei asedau hyd at 2029.  Cyfeiriodd at y cyfyngiadau cyllidebol a fydd yn ei gwneud hi’n anoddach i’r Cyngor gynnal a chadw ei holl asedau i’r lefel y mae’n ei ddymuno, sy’n golygu y bydd yn rhaid iddo adolygu ei bortffolio i sicrhau bod ei asedau’n ddiogel, hygyrch ac addas i bwrpas.  Mae’r gwaith o gasglu a phrosesu gwybodaeth am bortffolio asedau’r Cyngor yn hanfodol bwysig er mwyn darparu tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau. Mae’r gwaith yma eisoes ar y gweill.

 

Adroddodd y Pennaeth Priffyrdd Gwastraff ac Eiddo mai pwrpas y cynllun Strategol yw sicrhau bod gan y Cyngor bortffolio asedau sy’n gynaliadwy yn ariannol ac amgylcheddol, sydd wedi’i resymoli i fod yn addas i bwrpas ac sy’n ddiogel er mwyn darparu gwasanaethau. Bydd hyn yn sicrhau bod asedau’r Cyngor yn cefnogi a helpu i gyflawni’r blaenoriaethau strategol yn unol â Chynllun y Cyngor.  Mae gan y Cynllun Strategol Rheoli Asedau Corfforaethol  gyswllt agos  â’r Strategaeth Gyfalaf, sy’n nodi’r egwyddorion a fydd yn cael eu defnyddio i arwain blaenoriaethau cyfalaf a dyrannu adnoddau cyfalaf ledled gwasanaethau’r Cyngor. Mae gan y Cyngor bortffolio o asedau amrywiol ond nid yw’r portffolio hwn yn cynnwys eiddo a gedwir o dan y Cyfrif Refeniw Tai na’r seilwaith priffyrdd.   Bydd y Cynllun Strategol yn cael ei arwain gan y Gwasanaeth Eiddo mewn cydweithrediad agos â gwasanaethau eraill y Cyngor sydd gan asedau megis ysgolion, canolfannau hamdden a chartrefi preswyl.  Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y bydd gwell rheolaeth o asedau’r Cyngor yn darparu gwell asedau, yn y lleoliadau cywir, gan yrru effeithlonrwydd a rhesymoli  a chefnogi’r Cyngor ar ei siwrnai tuag at ddod yn gyngor sero net yn ogystal.

 

Aeth y Prif Swyddog Eiddo ac Asedau ymlaen i sôn am y pedwar maes blaenoriaeth allweddol yn y Cynllun Strategol yn gysylltiedig â sicrhau bod asedau’n addas, cynaliadwyedd asedau, rheoli asedau ar y cyd fel adnodd corfforaethol a defnyddio data i gynllunio a gwneud penderfyniadau. Cyfeiriodd at bwysigrwydd cael gwybodaeth gywir a diweddar ynglŷn ag asedau’r Cyngor fel y gellir gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn pan fydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau prin.

 

Adroddodd y cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y hyn yr oedd y Pwyllgor wedi’i drafod wrth ystyried y Cynllun Strategol Rheoli Asedau yn ei gyfarfod ar 12 Mawrth 2024.  Roedd y pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor yn cynnwys sut fydd y Cynllun yn helpu’r Cyngor i gyflawni ei amcanion corfforaethol, fforddiadwyedd y Cynllun yn yr hinsawdd ariannol bresennol a’r trefniadau ar gyfer monitro cynnydd a mesur llwyddiant. Bu i’r Pwyllgor hefyd holi a fyddai’n briodol cynnwys gwybodaeth ychwanegol yn y Cynllun Strategol ynglyn â gwerth pob ased, y gwaith cynnal a chadw sy’n aros i gael ei gwblhau a chost y gwaith cynnal a chadw arfaethedig. Ar ôl ystyried ymatebion y Swyddogion penderfynodd y Pwyllgor argymell y Cynllun Strategol Rheoli Asedau 2024-29 i’r Pwyllgor Gwaith i’w fabwysiadu gan y Cyngor Llawn.

 

Bu i’r Pwyllgor Gwaith nodi bod portffolio asedau’r Cyngor yn cynnwys nifer o asedau hanesyddol a bod y cyfalaf sydd ei angen i foderneiddio ac uwchraddio’r asedau hyn ac i gyflawni ei amcanion strategol yn fwy na £300m dros y 5 mlynedd nesaf. Oherwydd hyn bu i’r Aelodau gydnabod, gan fod adnoddau cyfalaf y Cyngor yn brin a chan ei fod yn dal i wynebu pwysau cyllidebol, y bydd rhaid iddo ystyried yr opsiynau ar gyfer rheoli ei asedau ac y bydd yn rhaid iddo wneud penderfyniadau radical yn cynnwys rhesymoli’r portffolio, addasu adeiladau lle bo modd a chwilio am gyfleoedd i gyd-leoli gwasanaethau gan gofio’i ymrwymiad i wireddu ei Gynllun Ddatgarboneiddio a Sero Net yn ogystal.

 

Penderfynwyd argymell y Cynllun Strategol Rheoli Asedau 2024-2029 i’w gymeradwyo’n ffurfiol gan y Cyngor llawn.

 

Dogfennau ategol: