Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2024/25 - Cynigion ar gyfer y Gyllideb Gyfalaf

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cyd-destun ar gyfer y broses o osod cyllideb ar gyfer 2024/25 ynghyd â’r prif faterion a chwestiynau y dylid craffu arnynt wrth werthuso cynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb gyfalaf. Bydd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 29 Chwefror, 2024, ac mae’n gosod y gyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2024/25 fydd yn cael ei argymell i’r Cyngor Llawn, ac roedd wedi’i atodi yn Atodiad 1.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, yr adroddiad a chyfeiriodd at yr arian sydd ar gael er mwyn ariannu’r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2024/25 yn Nhabl 1 yr adroddiad. Mae’r Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys incwm a gwariant sy’n ymwneud â stoc tai’r Cyngor, ac ni ellir defnyddio’r arian hwn at unrhyw ddiben arall. Mae’r cyllid Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 £12k yn uwch na’r hynny a ddyfarnwyd yn 2023/24, ac mae’n cyd-fynd â lefelau ariannu a welwyd yn ystod y 12 mlynedd ddiwethaf.  Ni welwyd cynnydd sylweddol yn y cyllid hwn er bod ei werth wedi dirywio’n sylweddol oherwydd chwyddiant yn ystod y cyfnod hwn. Golyga hyn ei bod yn fwyfwy heriol i gynnal a buddsoddi yn asedau cyfalaf y Cyngor. Gweler crynodeb o’r rhaglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2024/25 yn Nhabl 3 yr adroddiad, ac mae werth £43.838m.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr opsiynau mewn perthynas â gwariant a buddsoddiad cyfalaf yn gyfyngedig oherwydd y cyfyngiadau ar adnoddau cyfalaf. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi ystyried y hyfywedd o gael gwared ar fenthyca digymorth, ond oherwydd lefelau cyfradd llog a’r ffaith y bydda’r gost o fenthyca digymorth angen ei fodloni drwy ddefnyddio’r gyllideb refeniw, sydd eisoes dan bwysau, mae’r opsiwn hwn wedi cael ei ddiystyru ar gyfer 2024/25. Dim ond estyniad Ysgol y Graig sydd wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Cymunedau sy’n Dysgu ar hyn o bryd. Yn y rhaglen arfaethedig ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2024/25, bydd y buddsoddiad yn y stoc bresennol yn parhau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r SATC, a bydd yn cael ei ariannu fel yr amlinellir yn adran 7 yr adroddiad, sy’n cynnwys elfen o fenthyca digymorth sydd wedi’i drefnu fel rhan o Gynllun Busnes y CRT.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid at gyfarfod y Panel ar 15 Chwefror 2024, lle rhoddwyd ystyriaeth i’r cynigion ar gyfer cyllideb cyfalaf 2024/25. Ymhlith y materion a gafodd eu trafod gan y Panel roedd y diffyg ffynonellau o gyllid cyfalaf sydd ar gael i’r Cyngor ar gyfer prosiectau sylweddol yn ymwneud â stoc, oni bai am y CRT sy’n cael ei wario ar stoc tai’r Cyngor yn unig, yr adnoddau fyddai eu hangen i alluogi’r Cyngor i fuddosddi yn ei asedau yn y tymor canolig, a’r heriau wrth gwblhau prosiectau grant cyfleusterau i’r anabl, sy’n peri goblygiadau o ran gallu’r Cyngor i wario adnoddau ei gyllideb cyfalaf yn brydlon. Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a thystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Panel yn cefnogi cynigion cyllideb cyfalaf 2024/25 fel y’u cyflwynwyd, ac argymhellwyd y cynigion i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

 

Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor –

 

·      A yw strategaeth gyfalaf tymor hir y Cyngor yn cynnwys cynlluniau ar gyfer buddsoddi yn ysgolion uwchradd yr Ynys.

·      A yw’r cynigion yn canolbwyntio ar y meysydd y mae angen gwariant a buddsoddiad arnynt fwyaf, o ystyried y diffyg cyllid cyfalaf sydd ar gael ar gyfer y Gronfa Gyffredinol.

·      Sut yr ymdrinnir ag unrhyw arian o’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl nad yw wedi’i wario ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Ymatebodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid a’r Swyddogion fel a ganlyn i’r pwyntiau a godwyd –

 

·      Fod Rhaglen Amlinell Strategol yn cael ei datblygu fydd yn gosod cynlluniau’r Cyngor ar gyfer buddsoddi mewn addysg yn ystod y blynyddoedd nesaf, a bydd yn cyfeirio at y sector eilradd. Mae’r Cynllun yn dibynnu ar gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.

·      Fod y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2024/25 yn ystyried yr egwyddorion sydd wedi’u gosod yn y Strategaeth Gyfalaf mewn perthynas â’r meysydd lle mae adnoddau cyfalaf yn cael eu gwario gan ystyried hefyd y diffyg cyllid cyfalaf sydd ar gael. Nid oes cynnydd sylweddol wedi’i weld yn y grant cyfalaf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac oherwydd chwyddiant, mae gwerth y cyllid wedi lleihau. Mae’r rhaglen gyfalaf yn canolbwyntio ar gadw asedau’r Cyngor yn eu safon bresennol, ac mae’n ymatebol gan nad yw adnoddau cyfalaf yn ddigon i alluogi’r Cyngor i wneud unrhyw welliannau sylweddol ymhlith ei asedau.

·      By unrhyw gyllid o Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl nas wariwyd yn ystod y flwyddyn yn llithro i’r flwyddyn ariannol nesaf. Mae swm y llithriad yn dibynnu ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, lefel y tanwariant a nifer y ceisiadau sy’n disgwyl dyraniad grant.

·      Mewn ymateb i argymhelliad ynghylch y posibilrwydd o gael gwared ar yr amodau clustnodi mewn perthynas â’r CRT, dywedwyd wrth y Pwyllgor nad yw’r gyfraith yn caniatáu i’r amod gael ei dorri gan ddefnyddio cyllid y CRT at unrhyw ddiben nad yw’n ymwneud â stoc tai’r Cyngor. Mae arian dos ben y CRT yn cael ei gynhyrchu drwy incwm rhent gyda’r bwriad o ddefnyddio’r arian er budd y tenantiaid.

Dywedodd y Prif Weithredwr bod gan y Cyngor amrywiaeth o asedau, ac oherwydd y diffyg cyllid cyfalaf, nid yw’n gallu cynnal yr asedau i’r ansawdd a safon dymunol. Er bod gan y Cyngor weledigaeth ac amcanion tymor hir ar gyfer ei asedau, mae’r adnoddau sydd ar gael yn ei gwneud hi’n anodd i wireddu’r dyheadau hynny. Mae grantiau cyfalaf ar gyfer prosiectau penodol sy’n cael eu dyfarnu’n aml yn gystadleuol yn dod yn fwyfwy pwysig o ran ychwanegu gwerth i gyllid cyfalaf craidd y Cyngor. Bydd Cynllun Strategol Cyfalaf, Cyllideb Cyfalaf a Chynllun Strategol Rheoli Asedau ar gael i’r Pwyllgor Gwaith yn ystod yr wythnosau nesaf, fydd yn destun trafodaeth mewn perthynas â blaenoriaethau’r Cyngor a sut y dylid fuddosddi amser ac adnoddau yn ei brosiectau.

Ar ôl craffu cynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyllideb gyfalaf drafft 2024/25, ac ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod, yn ogystal â safbwynt y Panel Sgriwtini Cyllid, penderfynwyd cefnogi ac argymell y cynigion terfynol ar gyfer cyllideb gyfalaf drafft 2024/25 I’r Pwyllgor Gwaith fel y’u cyflwynwyd.

 

Dogfennau ategol: