Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol Taclo Tlodi 2024-29

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd y cynnwys y Cynllun Strategol Taclo Tlodi ar gyfer 2024 – 2029 i’w ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd y Cynllun Strategol Taclo Tlodi gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gosod gweledigaeth a phrif feysydd blaenoriaeth y Cyngor i fynd i’r afael â thlodi ar Ynys Môn dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r angen ar gyfer y Cynllun Strategol Taclo Tlodi hwn wedi cael ei gydnabod fel blaenoriaeth, ac mae’n cael ei yrru gan Gynllun y Cyngor 2023-28 sy’n rhagweld Ynys Môn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu. Mae’r Cynllun wedi cael ei ddatblygu gan Swyddogion a rhanddeiliaid ac mae’n dibynnu ar eu cefnogaeth barhaus a chydweithrediad. Wrth ddatblygu’r Cynllun mae’r Cyngor wedi ystyried ei gyfyngiadau ariannol ac mae’n cydnabod bod rhaid iddo gyflawni mwy gyda llai. Mae’r dangosfwrdd costau byw sydd newydd gael ei lansio yn darparu data a gwybodaeth fel y gall y Cyngor wneud y penderfyniad cywir er mwyn mynd i’r afael â thlodi ar Ynys Môn yn ogystal â monitro cynnydd yn effeithiol.

 

Adroddodd y Cynghorydd Gwilym O. Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar yr hyn a drafododd y Pwyllgor wrth graffu ar y Cynllun Strategol Taclo Tlodi yn ei gyfarfod ar 13 Mawrth 2024. Wrth drafod y Cynllun Strategol bu i’r Pwyllgor godi nifer o faterion yn ymwneud â’r diffiniad o dlodi a sut y penderfynwyd ar y diffiniad hwnnw, cynwysoldeb y broses ymgysylltu, y broses ar gyfer casglu gwybodaeth am dlodi ar yr Ynys ynghyd â’r trefniadau ar gyfer monitro’r camau gweithredu sy’n gysylltiedig â’r blaenoriaethau allweddol a gwerthuso llwyddiant y Cynllun. Bu i’r Pwyllgor gwestiynu a yw’r chwe blaenoriaeth allweddol yn rhy uchelgeisiol yn yr hinsawdd bresennol ac wrth drafod tlodi ariannol gofynnodd y Pwyllgor am eglurder ynglŷn â pha mor hygyrch yw’r cyngor sydd ar gael ar fudd-daliadau a rheoli dyledion a hefyd y cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael i bobl leol yn enwedig mewn perthynas â chydlynu â chwmnïau sy’n gweithredu ar yr Ynys i greu prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc. Wrth argymell y Cynllun strategol i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, roedd y Pwyllgor wedi cytuno ar gam gweithredu ychwanegol sef y byddai llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru ar ran yr Awdurdod a Grŵp Llandrillo Menai i fynegi eu pryder ynglŷn ag effaith y penderfyniad diwedar i leihau’r cyllid sydd ar gael ar gyfer cynlluniau prentisiaeth yn y DU yn sylweddol. Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i’r Pwyllgor Sgriwtini am ei gyfraniad a chytunodd i gefnogi'r weithred ychwanegol a gynigiwyd ganddo.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod hi’n bwysig deall bod tlodi yn golygu lawer iawn mwy na diffyg arian a’i fod yn cynnwys y profiadau a chyfleodd sydd ar gael i bobl, yn enwedig pobl ifanc, a sut y gall diffyg cyfleoedd effeithio ar eu bywydau a’u cyfleodd bywyd ac mae hyn yn ychwanegu at faint y dasg o fynd i’r afael â thlodi yn enwedig pan fo’r argyfwng costau byw wedi gwneud pethau’n anoddach i blant a theuluoedd.

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r Cynllun Strategol fel cynllun hynod bwysig i geisio lliniaru effaith tlodi a all fod y bellgyrhaeddol ac a all gynnwys nifer o elfennau megis diffyg trafnidiaeth gyhoeddus a diffyg mynediad at wasanaethau yn ogystal â thlodi mewn gwaith o ganlyniad i incwm isel a chostau tai uwch oherwydd rhenti preifat. Nododd yr aelodau bod yr ystadegau mewn perthynas â thlodi ar Ynys Môn yn heriol, ac roeddent yn cydnabod er na all y Cyngor roi diwedd ar dlodi ar yr Ynys, fe all, drwy weithio â phartneriaid a thrwy ganolbwyntio ar y chwe blaenoriaeth yn y Cynllun, fynd i’r afael ag effaith tlodi a helpu pobl i wella eu sefyllfa. Roedd yr aelodau’n cydnabod bod nifer o bobl yn gyndyn o gyfaddef eu bod mewn caledi a’i bod yn bwysig felly codi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael ledled Ynys Môn a sut y gall pobl gymryd mantais ohono.

 

Penderfynwyd –

·       Cymeradwyo’r Cynllun Strategol Taclo Tlodi drafft ar gyfer 2024-29.

·      Cefnogi’r argymhelliad gan Sgriwtini bod llythyr ar y cyd ar ran yr Awdurdod hwn a Grŵp Llandrillo Menai yn cael ei anfon i Lywodraeth Cymru a San Steffan i fynegi pryder ynghylch effeithiau penderfyniadau diweddar i leihau’r cyllid yn sylweddol ar gyfer cynlluniau prentisiaethau yn y DU.

 

Dogfennau ategol: