Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol Taclo Tlodi 2024-2029

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn cynnwys Cynllun Strategol Trechu Tlodi 2024-2029 i'r Pwyllgor ei ystyried a chraffu arno.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, yn absenoldeb yr Arweinydd, fod y Cynllun Strategol Trechu Tlodi yn gynllun allweddol, ei fod wedi cael ei gydnabod fel blaenoriaeth a’i fod hefyd yn cael ei lywio gan Gynllun y Cyngor 2023-2028.  Mae'r Cynllun yn darparu cyfeiriad clir ac yn cynnwys gweledigaeth a meysydd blaenoriaeth allweddol er mwyn mynd i'r afael â thlodi dros y pum mlynedd nesaf, a'r camau y mae'r Cyngor yn bwriadu eu cymryd gyda phartneriaid allanol i sicrhau bod gwasanaethau'r Cyngor yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn effeithiol wrth fynd i'r afael â thlodi. Wrth ddatblygu'r Cynllun Strategol hwn, rhoddwyd ystyriaeth i sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor, lle mae cyllid craidd ac arian grant yn gostwng yn barhaus, ynghyd â’r galw cynyddol am wasanaethau.  Mae'r Cyngor wedi ymgysylltu â swyddogion mewnol ar bob lefel, ac amryw randdeiliaid wrth baratoi'r Cynllun.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Cynllun yn rhoi cyfarwyddyd clir ynghylch sut y gall y Cyngor gynorthwyo trigolion Ynys Môn i geisio lleihau'r tlodi y maent yn ei wynebu gan eu cyfeirio at gyrff allanol eraill sy'n cynnig cymorth.  Trefnwyd sesiwn ymgysylltu gyda sefydliadau partner gyda chynrychiolwyr o'r trydydd sector, Fforwm Pobl Hŷn, Fforwm Plant a Phobl Ifanc a chynrychiolwyr o holl wasanaethau'r Cyngor i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn parhau i fod yn gynaliadwy.  Er mwyn hwyluso'r cynllun, mae dangosfwrdd costau byw newydd gael ei lansio i ddarparu data cadarn, integredig sy'n seiliedig ar dystiolaeth fel y gall y Cyngor wneud penderfyniadau cywir a gwybodus wrth fynd i'r afael â thlodi ar Ynys Môn ac i fesur faint o fwyd sy'n cael ei ddosbarthu o'r Banciau Bwyd a faint o bobl sy'n ymgysylltu â gwasanaethau oherwydd eu hanghenion. 

 

Wrth ystyried y Cynllun Strategol Trechu Tlodi, cododd y Pwyllgor y materion canlynol:–

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y gwnaed y penderfyniad gan y Cyngor i fabwysiadu'r diffiniad o dlodi - 'Mae tlodi’n golygu bod heb ddigon o adnoddau a chyfleoedd i ddiwallu anghenion sylfaenol, yn cynnwys anghenion yn gysylltiedig â bod yn rhan o gymdeithas'.  Mewn ymateb, dywedodd  Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol eu bod wedi mabwysiadu diffiniad Sefydliad Bevan.  Dywedodd nad oes un diffiniad penodol o dlodi gan y gall tlodi fod yn gysylltiedig â diffyg profiadau mewn gwahanol ffyrdd gan wahanol bobl sy'n effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau.  Gall ei union natur ddibynnu ar amgylchiadau unigol, o beidio â chael digon o arian i dalu am hanfodion fel bwyd, dillad, tai, gwresogi, i ddiffyg ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael. 

·             Codwyd cwestiynau ynghylch pwy yr ymgynghorwyd â nhw wrth baratoi'r Cynllun Strategol a ph’un ai yr ystyrir fod rhai rhanddeiliaid heb gymryd rhan.  Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Rhaglen fod y broses o baratoi'r Cynllun wedi ei chynnal ym mis Tachwedd, 2023 gyda phartneriaethau trydydd parti a rhanddeiliaid eraill i fesur blaenoriaethau cychwynnol i fynd i'r afael â thlodi.  Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Cynllun yn strategaeth 5 mlynedd, a bydd modd cynnwys gwelliannau o fewn y Cynllun, yn ôl yr angen, gan na wyddant yn siŵr pa heriau'n gysylltiedig â thlodi ac amgylchiadau a allai godi yn y blynyddoedd nesaf.  Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod hi'n bwysig nodi bod staff sefydliadau fel Canolfan J E O'Toole a CAB Ynys Môn wedi bod yn rhan o baratoi'r strategaeth gan fod ganddynt brofiad bob dydd o ddelio ag unigolion sy'n wynebu tlodi a bod eu profiadau’n hollbwysig wrth baratoi cynllun mor strategol. At hyn, dywedodd, oherwydd y galw a'r diffyg adnoddau, ei bod yn dasg anodd mynd i'r afael â thlodi.

·             Cyfeiriwyd at y ffaith fod y Cynllun drafft yn cynnwys chwe blaenoriaeth ac o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, gofynnwyd i ba raddau y mae hyn yn rhy uchelgeisiol.  Codwyd cwestiynau pellach ynghylch sut y dylid monitro a rheoli canlyniadau’r blaenoriaethau, a sut y dylid casglu'r data er mwyn galluogi'r Cyngor i nodi tlodi mewn ardaloedd ar Ynys Môn. Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol eu bod yn derbyn bod y blaenoriaethau o fewn y Cynllun yn uchelgeisiol, fodd bynnag, nodwyd ffiniau realistig gyda'r rhanddeiliaid o ran sut y gall y Cyngor gynorthwyo i fynd i'r afael â thlodi yn sgil yr hinsawdd ariannol bresennol a'r ansicrwydd ynghylch a fydd grantiau ar gael ar gyfer prosiectau trechu tlodi.  Dywedodd y bydd Grŵp Strategol yn mesur llwyddiant y Cynllun Strategol Trechu Tlodi bob chwarter a bydd y dangosfwrdd costau byw yn rhoi gwybodaeth am ofynion trigolion yr Ynys sy'n wynebu tlodi.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod dangosfyrddau yn gallu mesur y tueddiadau ar draws Ynys Môn, ond pwysleisiwyd bod prinder staff i allu diweddaru'r wybodaeth i'r dangosfyrddau. 

·             Codwyd cwestiynau ynghylch sut y caiff trigolion wybod am y cymorth sydd ar gael iddynt os ydynt yn cael trafferth talu am anghenion hanfodol, yn enwedig yr henoed a allai fod yn rhy falch i ofyn am gymorth.  Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod llawlyfr wedi'i gyhoeddi a'i ddosbarthu i lyfrgelloedd lleol, canolfannau hamdden, ysgolion a phartneriaid agos yn rhoi gwybod iddynt sut i gael gafael ar y gwasanaethau sydd ar gael i helpu pobl mewn tlodi.  Dywedodd nad yw rhai pobl yn ymwybodol o’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl i'w cael, nac yn eu hawlio.  At hyn, dywedodd fod rhai pobl yn ei chael hi'n anodd derbyn bod angen iddynt hawlio’r budd-daliadau sydd ar gael a gall mynd i'r afael â'r stigma sydd ynghlwm wrth ofyn am help i gael gafael ar gymorth ariannol fod yn heriol. 

·             Cyfeiriwyd at y bylchau mewn cyrhaeddiad plant ysgol oherwydd tlodi. Codwyd cwestiynau ynghylch a oes lle i edrych y tu hwnt i Ysgolion sy'n seiliedig ar Drawma gyda Phenaethiaid a'r Consortia a ph’un ai y gall yr ymchwil gan brifysgolion a chyrff cysylltiedig eraill helpu i leihau'r bwlch cyrhaeddiad.   Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod y gofynion ar staff ysgolion eisoes yn sylweddol gyda'r newidiadau i'r cwricwlwm, y problemau RAAC mewn dwy Ysgol Uwchradd gyda phlant yn gorfod cael eu dysgu gartref, a'r argyfwng ariannol sy'n wynebu cymdeithas.  Dywedodd ei fod yn cael ei gydnabod bod angen buddsoddi mewn pobl ifanc er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl yn eu bywydau ond oherwydd diffyg adnoddau o fewn llywodraeth leol, mae hon yn her gynyddol.  Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd ynghylch y gwaith ymchwil a wnaed gan brifysgolion a chyrff cysylltiedig eraill i leihau'r bwlch cyrhaeddiad, roedd y Prif Weithredwr yn awyddus i enghreifftiau o ymchwil gael eu hanfon at y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i'w hystyried.

·             Cyfeiriwyd at dlodi ariannol a chyflogaeth i bobl ifanc.  Codwyd cwestiynau ynghylch a ydym yn cysylltu â chwmnïau ar yr Ynys i ofyn a allant gynnig prentisiaethau i bobl ifanc fel eu bod yn gallu aros ar yr Ynys.  Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi torri'r grantiau ar gyfer cynlluniau prentisiaethau.   Cytunodd y Prif Weithredwr fod lefel y cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau yn peri pryder ac oherwydd yr argyfwng ariannol mae Coleg Menai/Llandrillo yn gorfod gwrthod derbyn pobl ifanc ar gyrsiau penodol.  Dywedodd fod rhai cwmnïau wedi bod yn dibynnu ar brentisiaethau dros y blynyddoedd ond gan nad yw'r ardoll brentisiaethau ar gael, nid ydynt yn gallu fforddio cynnig cynlluniau prentisiaeth i bobl ifanc.   Cyfeiriodd at y cyfleoedd cyllido posibl o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, os caiff adnoddau ychwanegol eu rhoi fel rhan o'r Gronfa hon.  Nododd fod yr Awdurdod hwn yn cyfrannu tuag at yr ardoll brentisiaethau a’i fod yn cael ei ailddosbarthu drwy Lywodraeth Cymru.  Ystyriodd y Pwyllgor y dylid anfon llythyr ar y cyd ar ran y Cyngor hwn a Choleg Menai/Llandrillo at Lywodraeth y DU ac at y Prif Weinidog newydd yn mynegi y dylid rhoi mwy o adnoddau ariannol tuag at gynlluniau prentisiaethau.

 

PENDERFYNWYD argymell bod Cynllun Strategol Trechu Tlodi 2024-2029 yn cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Llawn. 

 

GWEITHREDU: Anfon llythyr ar y cyd ar ran yr Awdurdod hwn a Grŵp Llandrillo Menai at Lywodraeth y DU a'r Prif Weinidog newydd yn mynegi pryderon ynghylch effaith y penderfyniad i leihau'n sylweddol yr adnoddau ariannol tuag at gynlluniau prentisiaeth yn y DU.

 

Dogfennau ategol: