Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio ac Datblygu Economaidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Rhaglen Ffyniant Bro ar gyfer Caergybi i'r Pwyllgor ei hystyried a chraffu arni.
Dywedodd Aelod Portffolio Gwasanaeth Oedolion, yn absenoldeb Arweinydd y Cyngor ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd mai pwrpas y Gronfa Ffyniant Bro (LUF), sy’n gronfa gyfalaf yn unig, yw buddsoddi mewn seilwaith economaidd-gymdeithasol craidd sy'n gwella bywydau pobl ledled y DU. Lansiwyd y gronfa gwerth £4.8 biliwn ym mis Mawrth 2021 ac mae'n canolbwyntio ar 3 maes allweddol i helpu i adfywio canol trefi a'r stryd fawr: prosiectau trafnidiaeth lleol, ac asedau diwylliannol a threftadaeth. Penderfynodd y Cyngor Sir fod cais yn canolbwyntio ar 'dreftadaeth; diwylliant a threflun Caergybi yn hytrach nag anghenion adfywio ehangach yr Ynys yn debygol o fod yn fwy apelgar i Lywodraeth y DU. Ni ellir tanbrisio maint a chymhlethdod y gwaith a wnaed i ddatblygu'r cais. Arweiniodd
hyn at gydweithio sylweddol a dwys gan y Cyngor Sir gyda phartneriaid o Gaergybi.
Adroddodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y bydd yr amserlen ar gyfer cwblhau'r prosiectau erbyn diwedd mis Mawrth 2025 yng Nghaergybi yn heriol, fodd bynnag, mae'r Cyngor yn bwriadu gofyn am estyniad i'r amserlen sy'n debyg i brosiectau LUF eraill yn y rhanbarth. Mae chwyddiant wedi dylanwadu ar y rhaglen gyda chostau cynyddol, a phwysleisiodd ei bod yn bwysig bod yn realistig o ran yr hyn y gellir ei gyflawni o fewn yr amserlen a'r cyllid sydd ar gael. At hyn, dywedodd fod prosiectau pwysig ac amlwg yng Nghaergybi wedi dechrau, a bod yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar brosiect Canolfan Ucheldre. Dywedodd hefyd bod modd gweld nodau a manylion pob prosiect yng Nghaergybi ar-lein sy'n rhoi gwybodaeth i'r gymuned leol am y rhaglen. Mae'r Tîm Ffyniant Bro wedi’i leoli yng Nghaergybi ac mae aelodau’r tîm ar gael i'r gymuned ymgysylltu â nhw a chynnig gwybodaeth yn ôl yr angen.
Wrth ystyried yr adroddiad, cododd y Pwyllgor y materion canlynol:–
· Gofynnwyd i ba raddau y mae'r gyllideb yn ddigonol i gyflwyno'r rhaglen gyfan ar sail yr amserlen a bennwyd. Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Rhaglen Ffyniant Bro fod gofyn i'r prosiectau ddilyn proses gaffael y Cyngor. Bu’n rhaid ail-hysbysebu rhai tendrau sy’n golygu bod yr amserlen wedi’i hymestyn. Yn dilyn y broses gaffael, mae'n amlwg nad yw'r cyllid sydd ar gael yn ddigon ar gyfer yr holl brosiectau a nodwyd yng Nghaergybi ac mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda'r sefydliadau partner i ystyried amserlen a chostau pob prosiect unigol. Codwyd cwestiynau pellach ynghylch a yw hyn wedi arwain at fethu â chwblhau rhai o'r prosiectau ac a fydd y Bwrdd yn penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn cyfran o'r cyllid yn unig. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr y bydd angen addasu nifer y prosiectau o fewn y rhaglen ac y gallai hyn fod â goblygiadau gan fod gwaith yn cael ei wneud gyda sefydliadau allanol. Yn sgil chwyddiant, mae'r costau wedi codi o fewn y prosiectau ac mae'n fater sensitif ar hyn o bryd. Gellir addasu rhai prosiectau ond does dim pwrpas dechrau prosiect os nad yw'r cyllid ar gael. Mae gan nifer o sefydliadau partner nifer o brosiectau o fewn y rhaglen a bydd angen iddynt benderfynu pa brosiect sy’n cael blaenoriaeth.
· Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau mae gallu partneriaid allweddol i gyflawni yn peri risg i lwyddiant y rhaglen gyfan. Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Rhaglen Ffyniant Bro fod risgiau wedi'u nodi ar ddechrau'r rhaglen o ran gallu sefydliadau partner i gyflawni eu prosiectau. Mae'r Tîm Ffyniant Bro yn cyfarfod y partneriaid yn fisol i fesur cynnydd pob prosiect a chynhelir adolygiad chwarterol i gael trosolwg o gyllid ac amserlen y prosiectau.
· Codwyd cwestiynau ynghylch faint o weithwyr lleol sy'n cael eu cyflogi gan gontractwyr yn y prosiectau a phryd y rhagwelir y gwelir budd y prosiectau. Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Rhaglen Ffyniant Bro, fel rhan o'r rhaglen, y gofynnir i sefydliadau partner gadw cofrestr o'u gweithwyr a ph’un ai a ydynt yn byw’n lleol ai peidio. Nododd fod un o'r sefydliadau partner wedi cynnig dwy brentisiaeth gydag adeiladwyr Môn. Bydd y budd a geir o’r prosiectau yn cael ei fesur ar sail yr adeiladau a adnewyddwyd yng Nghaergybi a nifer y cyfleoedd cyflogaeth a gynigwyd i bobl leol.
· Codwyd cwestiynau ynghylch pa drefniadau a wnaed i gyfathrebu er mwyn hyrwyddo'r rhaglen a sut y gellir eu cryfhau. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ei fod yn bwysig bod lefel uchel o gyfathrebu â’r gymuned leol. Mae manylion y prosiectau yng Nghaergybi ar gael ar-lein ac yn rhoi trosolwg o bwy sy'n arwain y prosiectau. Nododd fod dau ddigwyddiad cyfathrebu wedi'u trefnu sy'n sicrhau eu bod yn ymgysylltu’n gyson â chymuned Caergybi ac mae disgwyl i ddigwyddiad arall gael ei gynnal ym mis Ebrill.
PENDERFYNWYD:-
GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.
Dogfennau ategol: