Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb - 2022/2023

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb Blynyddol – 2022/2023 i'r Pwyllgor ei ystyried a chraffu arno.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, yn absenoldeb Arweinydd y Cyngor, fod yn rhaid i'r Cyngor, o dan Reoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011 Deddf Cydraddoldeb 2010, gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb.  Prif bwrpas yr adroddiad yw dangos sut mae'r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau cydraddoldeb a rhaid cyhoeddi'r adroddiad erbyn 31 Mawrth yn y flwyddyn yn dilyn y cyfnod adrodd.

 

Adroddodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg mai Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2022/2023 yw'r adroddiad olaf yn ei ffurf bresennol a bydd trefniadau newydd yn cael eu sefydlu i gyd-fynd â'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2024-2028.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cododd y Pwyllgor y materion canlynol:–

 

·     Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y cyflawnodd y Cyngor ei amcanion a'i flaenoriaethau cydraddoldeb yn llawn ar gyfer 2020-2024.  Mewn ymateb, dywedodd  y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020-2024 yn cynnwys 20 dangosydd o'r hyn y dylid disgwyl ei weld pan fydd camau gweithredu wedi'u cwblhau.  Nododd fod 19 o'r dangosyddion wedi'u cwblhau a bod un dangosydd, sy'n destun pryder, sef casglu gwybodaeth am nodweddion cydraddoldeb ymhlith gweithwyr y Cyngor.  At hyn, dywedodd fod angen cryfhau cydraddoldeb o fewn y gweithlu ac ar draws yr Ynys hefyd gyda'r rhan fwyaf o flaenoriaethau cydraddoldeb yn trosglwyddo i'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2024-2028.  Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod y Cynllun Cydraddoldeb presennol wedi'i gymeradwyo yn 2020 a bod sawl ffactor, fel yr argyfwng costau byw, yn effeithio ar y gallu i gyflawni rhai o'r amcanion o fewn y cynllun.

·     Codwyd cwestiynau ynghylch y risg i'r Cyngor fod bylchau data yn dal i fodoli yn y wybodaeth am gydraddoldeb ynghylch gweithwyr y Cyngor.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod casglu gwybodaeth ynglŷn â gweithlu'r Cyngor yn heriol gan ei fod yn dibynnu ar barodrwydd staff i rannu gwybodaeth yn wirfoddol.  Mae casglu gwybodaeth gan weithwyr newydd yn dasg haws gan fod disgwyl iddynt rannu gwybodaeth am gydraddoldeb pan fyddant yn llenwi ffurflenni cais a hefyd yn ystod y broses sefydlu.  Fel rhan o'r ffactorau risg, dywedodd fod angen casglu cymaint o wybodaeth â phosibl gan y gweithwyr er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gyflogwr teg ac yn gallu cynnig cyfle cyfartal i'r staff.  Dywedodd hefyd ei bod yn bwysig cyfleu i'r gweithwyr na wneir unrhyw ddefnydd amhriodol o'r wybodaeth a gaiff ei rhannu.  Fodd bynnag, os nad yw'r wybodaeth gan weithwyr yn cael ei rhannu, gallai'r Cyngor fod yn rhagfarnu yn ddiarwybod.  Mae data o ansawdd yn hanfodol er mwyn sicrhau cydraddoldeb o fewn y gweithlu a bod y Cyngor yn gyflogwr cynhwysol ac apelgar.

·      Cyfeiriwyd at y polisi gweithio hybrid a chodwyd cwestiynau ynghylch yr effaith ar staff o ystyried y feirniadaeth a’r sylwadau amhriodol/negyddol a welwyd ar gyfryngau cymdeithasol oherwydd bod staff yn gweithio gartref.   Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod staff y Cyngor yn gweithio'n galed er budd trigolion Ynys Môn a bod sylw ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dwysáu dros y blynyddoedd diwethaf gyda sylwadau amhriodol yn cael eu gwneud am sawl mater.  Fel Prif Weithredwr, roedd o'r farn bod y Cyngor wedi elwa o drefniant gweithio hybrid gyda chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith er budd y Cyngor.  Mae'n ofynnol i staff weithio oriau craidd a rhoddir cymorth i staff o safbwynt llesiant. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod hyfforddiant a chwnsela ar gael i staff y Cyngor.

·     Cyfeiriwyd at y ffaith fod yr Adroddiad Blynyddol yn nodi y bydd trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd cadarn yn cael eu sefydlu ar gyfer 2024-2028.  Codwyd cwestiynau ynghylch sut mae'r trefniadau hyn yn effeithio ar adroddiadau blynyddol y Cyngor ar gydraddoldeb yn y dyfodol.  Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Democratiaeth fod Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2024-2028 wedi'i gymeradwyo'n ddiweddar a bydd trefniant yn cael ei wneud i adolygu arddull a fformat yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb.  Bydd Grŵp Mewnol yn cael ei gynnull i arwain y gwaith ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd a bydd yn ystyried a ellir cynnwys gwybodaeth ychwanegol yn yr Adroddiad hefyd.  Bydd gwaith ychwanegol yn cael ei wneud gyda Thimau Cyfathrebu'r Cyngor i sicrhau cysondeb â chyhoeddiadau eraill gan fod nifer o gynlluniau strategol eraill yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd gan y Cyngor.

·     Cyfeiriwyd at Atodiad 3 yr Adroddiad Blynyddol sy'n nodi ei fod yn hyderus nad yw'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn deillio o dalu cyflog gwahanol i ddynion a menywod am yr un gwaith neu waith cyfatebol.  Codwyd cwestiynau ynghylch sut y gellir rhoi sicrwydd o hyn rhag i’r Cyngor orfod wynebu canlyniadau ariannol sylweddol fel y gwelwyd mewn rhai awdurdodau lleol, fel Cyngor Dinas Birmingham.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod hawliadau cyflog cyfartal wedi cael effaith ar adnoddau ariannol Cyngor Dinas Birmingham.  Cynhaliwyd proses gwerthuso swyddi o fewn y Cyngor hwn sawl blwyddyn yn ôl. Bryd hynny cafodd pob swydd ei gwerthuso, ei hadolygu a'i sgorio gan Banel Annibynnol.  Dywedodd efallai bod achosion unigol posibl o hawliadau cyflog cyfartal wedi codi ond mae polisïau Adnoddau Dynol cadarn a graddfeydd cyflog yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda'r Undebau Llafur.

·     Codwyd cwestiynau ynghylch ymateb staff i'r cwrs Cymraeg a gynigiwyd gan y Cyngor.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod trafodaethau ynghylch anghenion hyfforddi staff yn cael eu cynnal yn ystod y Sgwrs Flynyddol am eu Datblygiad gyda'u Rheolwyr Llinell.   Mae sgiliau Cymraeg hefyd yn cael eu gwerthuso yn ystod y Sgwrs Flynyddol am eu Datblygiad gyda chyfle i nodi cyfleoedd datblygu.  Yna cesglir data gan y Tîm Adnoddau Dynol a chynigir rhaglen hyfforddi i staff. At hyn, dywedodd fod cynrychiolaeth dda o holl wasanaethau'r Cyngor ar y cyrsiau Cymraeg. Dywedodd hefyd fod disgwyliad ychwanegol ar staff yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, fel rhan o fframwaith cenedlaethol 'Mwy na Geiriau' a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, y dylai pobl allu derbyn gofal yn eu dewis iaith, oherwydd gall hyn gael effaith ar y bobl fwyaf bregus pan mai'r Gymraeg yw eu hiaith gyntaf.  Bydd manylion am ddadansoddi'r anghenion hyfforddi o ran y Gymraeg o fewn y gweithlu yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol ar Safonau'r Gymraeg a gyhoeddir ym mis Mehefin. 

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2022/2023.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: