Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n gwyro

 

 10.1 – FPL/2023/359 – Pen Bryn, Rhosmeirch

FPL/2023/359

10.2 – VAR/2024/9 – Bryn Tawel, Ty Croes

VAR/2024/9

 

Cofnodion:

10.1 FPL/2023/359 – Cais llawn ar gyfer cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi annedd a ganiatawyd gynt dan ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/47 ar dir ger Pen Bryn, Rhosmeirch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod hwn yn gais i ddiwygio’r cynlluniau ar gyfer yr annedd a gymeradwywyd yn flaenorol o dan gais cynllunio rhif FPL/2021/47.  Ym mis Hydref 2023 cyflwynwyd Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon dan gyfeirnod LUE/2023/23 a oedd yn nodi bod gwaith datblygu cyfreithlon wedi dechrau ar y safle, gan ddiogelu’r caniatâd cynllunio am byth.  Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys newid lleoliad yr annedd, ffiniau’r safle, dyluniad yr annedd a’r fynedfa i’r safle. Bydd yr annedd arfaethedig yn cael ei adleoli’n ganolog o fewn y plot a bydd y fynedfa yn cael ei hadleoli o’r gornel ogledd i’r gornel ddeheuol ar y safle. Mae rhai diwygiadau i ddyluniad yr annedd arfaethedig hefyd, a bydd yn newid o fyngalo dormer brics coch gyda modurdy dwbl ynghlwm i annedd brics deulawr gyda rendr wedi’i baentio a modurdy sengl ynghlwm. Mae’r diwygiadau arfaethedig yn cael eu hystyried yn dderbyniol o ran graddfa a lleoliad, ac fe ystyrir eu bod o ansawdd gwell ac yn welliant cyffredinol i’r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol, sy’n fwy addas gyda datblygiadau lleol cyffredinol. Ymgynghorwyd â’r Awdurdod Priffyrdd mewn perthynas â newid y fynedfa ac nid oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad. Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys gwelliannau bioamrywiaeth yn cynnwys gwaith plannu a thirlunio a gosod blychau ystlumod ac adar ar dalcen yr annedd.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Jackie Lewis.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2 VAR/2024/9 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/23 (codi garej ar wahân ynghyd â newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd o dan gyfeirnod cais cynllunio 28C257B/DA) er mwyn diwygio lleoliad y modurdy ym Mryn Tawel, Croes.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle eisoes wedi’i sefydlu o dan gais cynllunio cyfeirnod 28C257A a 28C257B/DA, lle rhoddwyd caniatâd ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau. Mae gwaith wedi dechrau ar y safle i adeiladu’r fynedfa i gerbydau, ac mae’r annedd wedi’i chodi’n rhannol hyn at lefel y to.  Y cais olaf a gymeradwywyd ar gyfer y safle oedd caniatâd cyfeirnod FPL/2023/23 ar gyfer gwneud addasiadau i’r annedd a chodi garej ar wahân newydd. Dyma gynnig i godi’r garej yn nes at y ffin ddwyreiniol a chyntedd wedi’i orchuddio sy’n cysylltu’r garej a’r annedd. Bydd y garej o gwmpas yr un maint â’r hyn sydd wedi ei gymeradwyo eisoes ac ni fydd yn cael effaith negyddol ar y safle nac unrhyw eiddo cyfagos ac mae’n cydymffurfio a pholisïau cynllunio PCYFF 2 a PCYFF 3 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Neville Evans bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: