Eitem Rhaglen

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr, oedd yn amlinellu’r adolygiad ar drefniadau darparu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a monitro cynnydd y Bwrdd wrth weithredu Cynllun Llesiant 2023-2028, i’w ystyried a’i graffu gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Deddf hefyd wedi sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru, gydag aelodau’n amrywio o gyrff cyhoeddus i’r trydydd sector. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio ar y cyd fel sefydliad partner er mwyn sicrhau bod cynlluniau strategol yn cyd-fynd gydag amcanion llesiant lleol, ac yn cynnig cefnogaeth i’w cyflawni.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod diwylliant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cryfhau dros y 12 mis diwethaf ar ôl penodi Cadeirydd newydd, Mr Aled Jones-Griffiths. Roedd hefyd eisiau llongyfarch Mr Jones-Griffith ar gael ei benodi fel Prif Weithredwr newydd Grŵp Llandrillo Menai. Dywedodd bod pwysau ar drigolion cymunedau lleol oherwydd yr argyfwng costau byw, sydd wedi arwain at dlodi a phroblemau llesiant. Un o brif egwyddorion y Cyngor yw cydweithio gyda sefydliadau partner a’r trydydd sector, yn enwedig o ganlyniad i lai o gyllid a thoriadau ar y rheng flaen.

 

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn y bydd Cynllun Darparu’r Bwrdd yn destun adolygiad parhaus. Oherwydd y llwyddiant blaenorol, a ffocws parhaol ar Is-grŵp yr Iaith Gymraeg, cytunodd y Bwrdd i barhau yn ei ffurf bresennol. Mae gwaith rhanbarthol wedi’i roi ar waith yn ddiweddar mewn perthynas â recriwtio yn y sector cyhoeddus, ble mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer swyddi gwahanol. Eglurodd, yn dilyn asesiad academaidd annibynnol ar effeithiolrwydd yr Is-grwpiau, penderfynwyd parhau gyda’r argymhelliad i sefydlu mwy o Grwpiau Tasg a Gorffen penodol, gweithredol ar gyfer bob elfen o waith y Bwrdd.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

 

·         Cyfeiriwyd at y Cynllun Llesiant sydd ar waith, ac i ba raddau mae’r trefniadau presennol yn cefnogi’r ddarpariaeth, a pha gyfleoedd, heriau a risgiau sy’n wynebu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth symud ymlaen. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod y Bwrdd wedi datblygu er mwyn cyd-fynd â’r Cynllun Llesiant, ac mae wedi aeddfedu gyda sefydliadau partner wrth rannu arfer da a gwybodaeth. Cyfeiriodd at lwyddiant yr Is-grŵp Iaith Gymraeg, lle rhannwyd arferion da gyda sefydliadau partner eraill i wella’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn eu sefydliad. Dywedodd fod y risg sy’n wynebu’r Bwrdd yn gyffelyb i heriau’r awdurdod lleol, gan fod diffyg adnoddau i fodloni’r galw cynyddol ymhlith trigolion a chymunedau lleol am gymorth. Mae’r strwythurau sydd ar waith yn ogystal â dull gweithio wedi cryfhau gallu’r Bwrdd i ychwanegu gwerth.

·         Gofynnwyd rhai cwestiynau mewn perthynas â pha werth ychwanegol sydd wedi’i amlygu drwy weithio mewn partneriaeth gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ac a yw bob partner yn cyd-fynd â threfniadau gweithio mewn partneriaeth o fewn y Bwrdd. Darparodd y Rheolwr Rhaglen enghreifftiau o waith y Bwrdd a dywedodd mai un o’r amcanion yw alinio effeithiau tlodi gyda gwaith sydd eisoes yn digwydd mewn awdurdodau lleol ac felly, sicrheir bod pobl yn derbyn y budd-daliadau maent yn gymwys ar eu cyfer. Cyfeiriodd at enghraifft arall, lle mae’r Bwrdd wedi mabwysiadu dull mewn perthynas â Chynllun Cymru Iach. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at enghraifft o’r gwaith sydd wedi’i wneud mewn perthynas â’r Goedwig yn Niwbwrch, ac effeithiau nifer yr ymwelwyr ar y gymuned leol. Cyfeiriwyd hefyd at y problemau a godwyd gan y Pwyllgor hwn mewn cyfarfod blaenorol, a hynny mewn perthynas ag ymgynghorai statudol yn peidio ag ymateb i geisiadau cynllunio yn ystod y broses ymgynghori. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod y Bwrdd wedi gallu dylanwadu ar sefydliadau partner i ymateb i geisiadau cynllunio fel ymgynghorai statudol. Dywedodd y Prif Weithredwr, er bod y Bwrdd wedi dylanwadu ar y sefydliadau partner, mae hefyd yn fuddiol fod sefydliadau partner y Bwrdd yn gallu cefnogi’r awdurdodau lleol o ran yr addasiadau arfaethedig sydd eu hangen mewn polisiau cynllunio cenedlaethol.

·         Mewn ymateb i’r cwestiwn a godwyd mewn perthynas ag a yw’r holl sefydliadau partner yn cyd-fynd â’r trefniadau gweithio mewn partneriaeth o fewn y Bwrdd, dywedodd y Prif Weithredwr fod cynrychiolaeth gan bob sefydliad partner wedi cryfhau, a’i fod yn gyson. Cyfeiriodd at y rhaglen Byw’n Iach/Pwysau Iach, a nododd fod lefelau uchel o ordewdra ymhlith pobl ifanc ar Ynys Môn wedi’u hadnabod. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda’r Bwrdd i fynd i’r afael a gordewdra yn bwysig, oherwydd ni all awdurdod lleol fynd i’r afael â’r broblem ar ei ben ei hun. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch o ble ddaeth y data sydd wedi adnabod y lefelau gordewdra ymhlith pob ifanc ar yr Ynys. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod y data wedi’i rannu gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gan Iechyd y Cyhoedd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae gwybodaeth fanwl hefyd wedi’i rhannu mewn perthynas ag ardaloedd penodol mewn cymunedau lleol lle mae gordewdra wedi’i adnabod ar Ynys Môn. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai cyswllt pellach yn digwydd gydag Iechyd y Cyhoedd Cymru er mwyn casglu’r data mewn perthynas â’r ardaloedd lle mae gordewdra wedi’i adnabod, a bydd yn cael ei rannu gyda’r Arweinydd a’r Aelodau Portffolio perthnasol ynghyd ag Aelodau Etholedig eraill.

·         Dywedwyd fod y Cyngor a CAB Ynys Môn wedi derbyn gwerth £250k o gyllid gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. Gofynnwyd sut fydd y Cyngor yn osgoi dyblygu’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud i fynd i’r afael a thlodi, a sut mae amcan tlodi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyd-fynd â’r ffrwd gwaith hwn. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod y cyfle i ychwanegu gwerth, mewn perthynas â’r argyfwng costau byw, yn fwy oherwydd bod sefydliadau partner ynghlwm â’r Bwrdd a gan fod y Grŵp Tasg a Gorffen yn ymdrin â thlodi, ac mae hyn yn atal dyblygu gwaith sydd eisoes wedi’i wneud.

·         Gofynnwyd a fydd yr argyfwng costau byw yn dylanwadu ar allu’r Bwrdd i gyflawni ei amcanion mewn perthynas â thlodi. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen nad oes gan y Bwrdd unrhyw adnoddau ariannol, ond gobeithir, drwy rannu arferion da a chydweithio, y gellir cefnogi’r heriau mae cymunedau yn eu hwynebu oherwydd yr argyfwng costau byw. Dywedodd y Prif Weithredwr fod geiriad y nod Llesiant strategol yn bwysig gan fod y Bwrdd yn gweithio gyda sefydliadau partner i fynd i’r afael â’r effeithiau ar gymunedau oherwydd tlodi a’r argyfwng costau byw. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai nad oes modd i’r Cyngor fynd i’r afael â thlodi ar ei ben ei hun, ond fod gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau gwahanol o fewn y Bwrdd yn hwyluso’r gwaith o rannu arferion da a thargedu ardaloedd sy’n wynebu tlodi.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o ran gweithredu Cynllun Llesiant 2023-2028.

 

CAM: fel y nodwyd uchod.

 

 

Dogfennau ategol: