Eitem Rhaglen

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·          Llongyfarchiadau mawr i’r athletwyr Eli Jones a Joseff Morgan ar gael eu dewis i gynrychioli Cymru yn nigwyddiad Athletau Rhyngwladol Loughborough a gynhaliwyd dydd Sul. Roedd Eli yn rhan o dîm ras gyfnewid 100 metr Cymru a Joseff yn cystadlu yn yr 800 medr.

 

·          Llongyfarchiadau i Tudur Jones a Begw Ffransis Roberts o Glwb Rygbi Llangefni, fu'n cynrychioli Cymru yn ddiweddar. Bu Tudur yn chwarae i dîm rygbi bechgyn Cymru dan 18 a Begw yn chwarae i ferched dan 18 Cymru yn yr Ŵyl Chwe Gwlad.

 

·          Llongyfarchiadau i Gareth Parry, ar gael ei gydnabod gan yr Undeb Rygbi am ei waith caled yn datblygu rygbi merched ar Ynys Môn a Gogledd Cymru.

 

·           Llongyfarchiadau i Osian Roberts, brodor o Fôn, ar ei lwyddiant fel hyfforddwr Clwb Pêl-droed Como 1907 yn yr Eidal. Llwyddodd Osian i arwain Como i ddyrchafiad o Serie B a bydd Como yn chwarae eu pêl-droed ym mhrif adran Yr Eidal, Serie A, y tymor nesaf.

 

·          Llongyfarchiadau i Dîm Pêl-droed Gwalchmai ar ennill Cwpan Canolradd Gogledd Cymru ddydd Sadwrn diwethaf. 

 

·          Llongyfarchiadau i bawb fu’n cystadlu yn Eisteddfod Môn dros y penwythnos. Roedd hi’n Eisteddfod lwyddiannus iawn unwaith eto eleni a llongyfarchiadau mawr i’r Cynghorydd Gwilym Jones a’r cyn-gynghorydd Bob Parry ar gael eu hurddo i Orsedd yr Eisteddfod. Pob lwc hefyd i bawb o Fôn fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod wythnos nesaf.

 

·          Mae Mr Noel Thomas, Gaerwen wedi ei gynnwys yn y rhestr o bobl fydd yn cael eu hurddo gan Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae Noel wedi gwasanaethu ei gymuned yn gydwybodol am flynyddoedd lawer fel is-bostfeistr a chynghorydd.

 

·          Llongyfarchiadau mawr i Gôr Ieuenctid Môn dan arweiniad Mari Lloyd Pritchard ar gyrraedd rownd derfynol Côr Cymru ar ôl ennill y categori “Corau Sioe”.  Roedd y gystadleuaeth o safon ryngwladol ac yn brofiad gwych i dros 100 o bobl ifanc yr Ynys.

 

·          Llongyfarchiadau i Seindorf Ieuenctid Biwmares a lwyddodd i ddod yn drydydd drwy Ewrop wrth gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop yn Palanga, Lithwania yn gynharach yn y mis.

 

·          Llongyfarchiadau mawr i aelodau Ffermwyr Ifanc Môn a fu’n cynrychioli’r sir yng Ngŵyl Siarad Cyhoeddus Ffermwyr Ifanc Cymru yn Llanelwedd ym mis Mawrth gyda thîm darllen Ynys Môn yn dod yn ail ar y gystadleuaeth ddrama yn Theatr Brycheiniog, llongyfarchiadau i glwb Rhosybol am ddod yn ail.  Llongyfarchiadau  arbennig i Elliw Mair o glwb Bodedern am ddod yn ail fel aelod y flwyddyn dan 18 Cymru.

 

·          Llongyfarchiadau i Mr Gerallt Llewelyn Jones, Menter Môn ar ennill gwobr ‘Ysbryd y Môr’ yng Nghynhadledd Ynni Morol Cymru yn ddiweddar. Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth o’i gyfraniad, ymrwymiad ac angerdd fel unigolyn i’r sector ynni morol yng Nghymru ac o lwyddiant prosiect ynni llanw Morlais yma ym Môn.

 

·          Pob dymuniad da i Mr Mark Wade yn dilyn ei benodiad i griw bad achub y RNLI yng Nghaergybi. 

 

·          Llongyfarchiadau i Lauren Amy Jones o dîm datblygu a hyfforddi'r Cyngor wedi iddi gael ei anrhydeddu fel myfyriwr y flwyddyn ar ei chwrs wrth dderbyn ei MA yn ddiweddar o Brifysgol John Moores yn Lerpwl.

 

 

*          *          *          *

 

Soniodd y Cadeirydd y bydd 80 mlynedd wedi mynd heibio ers ymgyrch D-Day yr Ail Ryfel Byd ar y 6ed o Fehefin.  Bu nifer fawr o Ynys Môn yn rhan o’r ymgyrch honno a’r brwydro dilynol, a phrofodd sawl teulu ar yr Ynys brofedigaeth.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor Sir neu Staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.

 

Safodd Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.