Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Gwrthwynebu ar y cynnig i drosglwyddo disgyblion Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg, a adroddodd bod y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo’r cynnig yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2024 a bod Rhybudd Statudol o fwriad y Cyngor i drosglwyddo disgyblion Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell wedi cael ei gyhoeddi ar 1 Mawrth 2024. Roedd gan randdeiliaid 28 diwrnod i gyflwyno gwrthwynebiad statudol i’r cynnig. Roedd yr adroddiad yn nodi’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb y cynigiwr [h.y. y Cyngor] a gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwaith eu hystyried cyn dod i benderfyniad terfynol ynglŷn â’r cynnig. Amlygodd yr Aelod Portffolio bod gan Ysgol Carreglefn lai na 10 disgybl ar y gofrestr pan gynhaliwyd y Cyfrifiad ym mis Ionawr 2024, ac felly mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn caniatáu i’r awdurdod lleol ddilyn proses symlach i gau’r ysgol yn swyddogol ac mae’r gofyn i gynnal ymgynghoriad cyffredinol yn cael ei hepgor.
Adroddodd yr Uwch Reolwr Addysg ar gyfer y Sector Uwchradd bod y Cyngor wedi derbyn 8 ymateb a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig - 7 gan ddisgyblion Ysgol Carreglefn a’r llall gan Gorff Llywodraethol Ysgol Carreglefn. Mae’r materion a godwyd ac ymateb y Cyngor wedi’u crynhoi yn Nhabl 1 yn yr Adroddiad Gwrthwynebu. Yn ogystal â’r ymatebion yma, derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Cymuned Mechell wedi i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben ar 2 Ebrill 2024. Mae’r sylwadau hyn wedi’u crynhoi yn rhan 4 yn yr Adroddiad Gwrthwynebu a chan mai sylwadau ydynt yn hytrach na gwrthwynebiadau, a chan eu bod wedi dod i law ar ôl y cyfnod gwrthwynebu statudol, nid yw’r cyngor wedi delio â hwy ac ymateb iddynt fel gwrthwynebiadau statudol ac maent yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad er budd tryloywder. Pe byddai’r Pwyllgor Gwaith yn cadarnhau ei benderfyniad i drosglwyddo disgyblion Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn bydd llythyr penderfyniad yn cael ei gyhoeddi a bydd trefniadau’n cael eu rhoi ar waith i weithredu’r penderfyniad hwnnw a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Llanfechell, a darparu cefnogaeth i’r plant a’u rhieni a staff yr ysgol yn ystod y broses.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg bod y gwrthwynebiadau wedi cael eu hystyried a bod yr ymatebion wedi’u cynnwys yn yr Adroddiad Gwrthwynebu. Cynigodd yr argymhellion yn yr adroddiad sef cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Carreglefn a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Llanfechell. Wrth wneud hynny diolchodd i’r Swyddogion a’r rhai a oedd wedi cyfrannu i’r broses a thalodd deyrnged i staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni Ysgol Carreglefn yn ogystal â’r gymuned ehangach am eu gwaith caled i gefnogi a chynnal Ysgol Carreglefn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Cafodd y diolchiadau hynny eu hategu gan Aelodau’r Pwyllgor Gwaith a wnaeth hefyd gydnabod yr urddas y mae Ysgol Carreglefn a chymuned Carreglefn wedi’i ddangos yn ystod y broses, sydd fyth yn broses braf, ac fe wnaethant ymrwymo i weithio gyda’r gymuned i ddiogelu’r adeilad fel adnodd ar gyfer y gymuned gyfan. Siaradodd y Cynghorydd Carwyn Jones am ei brofiad ei hun yn Llanddona lle daeth y gymuned at ei gilydd i greu canolfan gymunedol lewyrchus wedi i’r ysgol leol gau. Wrth siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi bod yr ysgol a’r gymuned yn deall y rhesymau dros y cynnig a chan mai dim ond 5 disgybl fydd yn yr ysgol ym mis Medi 2024 nid yw’r ysgol yn gynaliadwy yn y tymor hir. Cyfeiriodd at sylwadau’r Cyngor Cymuned ac er nad ydynt yn rhan o’r gwrthwynebiadau statudol maent yn ategu sylwadau’r Pwyllgor Gwaith ynglyn â phwysigrwydd parhau i gefnogi gweithgareddau cymunedol yn yr adeilad.
Penderfynwyd –
· Trosglwyddo disgyblion Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn ar 31 Awst 2024.
· Awdurdodi swyddogion i gyhoeddi rhybudd o’r penderfyniad terfynol ar ffurf llythyr penderfyniad yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018.
· Ymestyn dalgylch Ysgol Llanfechell i ymgorffori dalgylch presennol Ysgol Carreglefn.
Dogfennau ategol: