Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2023/24

Ystyried adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.16 y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2022/2023.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y Cyngor wedi cymeradwyo un o’i gyllidebau mwyaf heriol ym mis Mawrth ar ôl goresgyn bwlch ariannol cychwynnol o £14 miliwn. Cyfeiriodd at fabwysiadu Cynllun y Cyngor a’i weledigaeth i greu Ynys Môn fydd yn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu.

 

Wrth sôn am addysg cyfeiriodd yr Arweinydd at agor ysgol newydd Corn Hir ym mis Ebrill 2023. Dywedodd ei bod hi’n braf gweld plant yr ynys yn derbyn cyfleoedd addysgu mewn adeilad modern. Cyfeiriodd at y cyfnod heriol mewn dwy ysgol uwchradd ar Ynys Môn o ganlyniad i newid yn y ddeddfwriaeth yn ymwneud a RAAC. Ni fu’n bosib ailagor Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol Uwchradd ar ôl y gwyliau haf a bu’n rhaid i waith trwsio brys gael ei wneud mewn nifer o wahanol adeiladau ar dir y ddwy ysgol. Fe gydweithiodd nifer o wasanaethau’r Cyngor yn effeithiol iawn er mwyn sicrhau bod yr ysgolion yn parhau i ddarparu addysg tra roedd y safleoedd ar gau ac ail agor yn ddiogel cyn gynted ag y bo modd. Diolchodd i’r Penaethiaid, staff, a’r disgyblion a’u teuluoedd am gydweithio’n agos â’r Cyngor ar adeg anodd iawn. Aeth yr Arweinydd ymlaen i nodi bod proffil Estyn Ynys Môn wedi bod yn arbennig yn ystod 2023,  gyda dim un ysgol yn cael ei rhoi mewn categori. Nododd bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n defnyddio llyfrgelloedd yr ynys.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y maes gofal cymdeithasol ac fe amlygodd bod Ynys Môn ar y blaen o ran ei gweledigaeth i ddod yn Ynys Ystyriol o Drawma. Dywedodd bod y Cyngor wedi gweithio’n ddiflino i weithredu a hybu’r Strategaeth Ynys sy’n ystyriol o Drawma o fewn y cyngor, gyda phartneriaid ac yn y gymuned. Aeth ymlaen i ddweud bod y Cyngor wedi cael ei dderbyn fel aelod o Rwydwaith Byd-eang o Gymunedau Oed-gyfeillgar ym mis Mehefin 2023 a bod hyn yn arwydd o ymrwymiad y Cyngor i greu Ynys Môn Oed-gyfeillgar, lle nad oes unrhyw rwystrau’n atal pobl rhag heneiddio’n dda. Cyfeiriodd yr Arweinydd at y prosiect Dementia Actif Môn a’r cynnydd sylweddol dros y 12 mis diwethaf. Erbyn hyn mae gan y prosiect Cartrefi Clyd bedair uned sy’n darparu cartref i hyd at chwech o blant sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr economi ac fe amlygodd cyllid a dderbyniwyd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Ffyniant Bro. Cyfeiriodd hefyd at y rhaglen Arfor. Nododd lwyddiant y prosiectau hyn a’r gwaith ychwanegol sy’n cael ei gyflawni gan staff yr Adran Datblygu Economaidd ar y cyd â chymunedau lleol.  Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Du wedi cymeradwyo cais Ynys Môn i fod yn un o borthladdoedd rhydd cyntaf Cymru, sydd â’r potensial i ddarparu gwir newid i gymunedau ledled Ynys Môn a rhanbarth ehangach gogledd Cymru.  Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddweud y bydd y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru am drydedd bont dros y Fenai. Dywedodd bod canolfan ymwelwyr modern newydd wedi agor ym Mharc Gwledig y Morglawdd Caergybi sydd wedi ennill gwobrau fel rhan o gynllun Cymru gyfan i greu a gwella cyfleusterau allweddol i ymwelwyr

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y maes Tai a dywedodd mai  hon oedd y flwyddyn fwyaf heriol fyth i’r Gwasanaethau Tai gyda 790 o aelwydydd yn cysylltu â’r Cyngor oherwydd eu bod mewn perygl o ddod yn ddigartref. Mae’r Gwasanaethau Tai wedi parhau â’r gwaith i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Cafodd fflatiau newydd eu datblygu ym Miwmares. Mae hyn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i ddarparu tai cymdeithasol fforddiadwy i denantiaid lleol yng nghanol y gymuned.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at gynnwys y Gymraeg fel amcan strategol yng Nghynllun y Cyngor 2023-2028, sy’n cadarnhau statws yr iaith o fewn y Cyngor. Mae gwaith y Fforwm Iaith yn mynd rhagddo ac fe dderbyniodd y Cyngor gydnabyddiaeth genedlaethol gan Gomisiynydd y Gymraeg am ei ymrwymiad i’r iaith ac mae hyn y  rhoi sicrwydd i ni fod ein gwasanaeth Cymraeg o safon uchel. 

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod hi’n ddiolchgar i staff y Cyngor am eu hymrwymiad i sicrhau llwyddiant yr awdurdod ac i ddarparu gwasanaethau da i drigolion Ynys Môn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Pip O’Neill i’r Arweinydd am yr Adroddiad Blynyddol a’i llongyfarch am y gwaith a gyflawnwyd.

 

Dogfennau ategol: