Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a
Thrawsnewid sy'n cynnwys y Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer
2024/25 i'w hystyried gan y Pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn
Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer
fel un sy'n nodi ffrydiau gwaith allweddol y Cyngor ar gyfer
2024/25 a fydd yn cyfrannu at gyflawni amcanion strategol Cynllun y
Cyngor 2023-2028.
Wrth ystyried cynnwys y Ddogfen Gyflawni Flynyddol,
trafodwyd y canlynol gan y Pwyllgor –
- Y ffyrdd y mae'r
Ddogfen Gyflawni arfaethedig yn cyd-fynd â Chynllun y
Cyngor.
- Y rhesymeg dros
osod targed i drochi 96 o ddisgyblion heb fawr ddim sgiliau Cymraeg
neu ddim sgiliau Cymraeg drwy ganolfannau iaith.
- O ystyried ymestyn
hawliau pleidleisio i bobl ifanc 16 oed yn y Senedd ac etholiadau
lleol yng Nghymru ac ymrwymiad y Cyngor i sicrhau bod cyfleoedd i
glywed lleisiau plant a phobl ifanc, y ffyrdd y mae'r Cyngor yn
bwriadu ymgysylltu'n well â phobl ifanc mewn democratiaeth
leol a defnyddio eu pleidlais, a ph’un ai a ddylai ysgolion fod yn addysgu
pobl ifanc am wahanol ffurfiau, strwythur a datblygiad
democratiaeth.
- Y risgiau a'r
heriau wrth geisio cyflawni'r blaenoriaethau a bennwyd ar gyfer
2024/25.
- P'un a yw'r
ymrwymiad i ddatblygu 30 o gartrefi newydd yn ddigon
uchelgeisiol.
- Sut mae'r Cyngor yn
bwriadu cyrraedd a dylanwadu ar gymunedau o ran ei uchelgeisiau
newid hinsawdd.
- Y cyhoeddusrwydd a
roddwyd i ddogfen Cytundeb Cyflawni Cynllun Datblygu Lleol Ynys
Môn a’i ddosbarthiad/gylchrediad ar gyfer ymwybyddiaeth
y cyhoedd.
- Yn wyneb
arwyddocâd a phwysigrwydd strategol datblygu niwclear i
economi'r Ynys ac ymhellach i ffwrdd, awgrymodd y Pwyllgor fod
cyfeiriad penodol ac ar wahân ar gyfer Wylfa yn cael ei
chynnwys o dan ymrwymiadau economaidd y Ddogfen Gyflawni, a
chefnogwyd hynny. Yn yr un modd, awgrymodd y Pwyllgor fod cyfeiriad
penodol at ymrwymiad y Cyngor i ymgysylltu â'r sector busnes
hefyd yn cael ei gynnwys yn yr un rhan o'r Ddogfen, a chefnogwyd
hynny.
Ymatebodd swyddogion i'r pwyntiau a godwyd fel a
ganlyn –
- Bod y Ddogfen
Gyflawni wedi'i llunio i gyd-fynd â blaenoriaethau strategol
Cynllun y Cyngor ac yn cynnwys y gweithgareddau y bydd y Cyngor yn
eu cyflawni yn 2024/25 a sut mae'r rheini'n adlewyrchu'r hyn y mae'r Cyngor wedi
ymrwymo i'w gyflawni erbyn 2028 yng Nghynllun y Cyngor. Bydd
perfformiad y Cyngor yn cael ei adolygu ar ddiwedd 2024/25 i asesu
i ba raddau y mae wedi cyflawni ei amcanion ar gyfer y flwyddyn a
sut mae'r rheini wedi cyfrannu tuag at wireddu blaenoriaethau
Cynllun y Cyngor.
- Gofyn i Gyfarwyddwr
Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc egluro sail y targed ar gyfer trochi
96 o ddisgyblion heb fawr ddim sgiliau Cymraeg neu ddim sgiliau
Cymraeg drwy ganolfannau iaith a'r wybodaeth a ddosbarthwyd i
aelodau'r Pwyllgor.
- Bod swyddog o fewn
y Cyngor, sydd fel rhan o’i gyfrifoldebau, yn gyfrifol am
hyrwyddo a thynnu sylw at bwysigrwydd pleidleisio ymhlith pobl
ifanc 16 oed a bod rhaglen waith wedi'i datblygu i gefnogi'r gwaith
hwnnw yn bennaf trwy’r rhwydweithiau presennol a thrwy
gydweithio â'r colegau a dosbarthiadau chweched dosbarth mewn
ysgolion. O ran addysgu am ddemocratiaeth mewn ysgolion, dywedodd y
Prif Weithredwr Cynorthwyol fod y Fforwm Plant a Phobl Ifanc wedi'i
ailsefydlu ac y byddai'n cyfleu'r neges i'r Gwasanaeth
Dysgu.
- Bod llawer o'r
ffrydiau gwaith a amlinellir yn y Ddogfen Gyflawni yn dibynnu ar
gyllid grant allanol i’w cyflawni, ond mewn rhai achosion nid
yw’r grantiau wedi’u cadarnhau eto. Mae hon yn risg a
bydd yn destun gwaith monitro parhaus ar hyd y flwyddyn. Gallai
olygu y bydd angen addasu rhywfaint ar y ddogfen yn unol ag
amgylchiadau.
- Bod modd cyflawni'r
targed o ddatblygu 30 o gartrefi newydd o safbwynt capasiti, yr adnoddau a’r tir sydd ar gael
i’r Cyngor ond mae'n annhebygol o fod yn ddigon o ran diwallu
anghenion tai lleol a digartrefedd. Mae'n hanfodol bod y Cyngor ac
eraill yn parhau i ddatblygu cartrefi newydd fel arall bydd y bwlch
rhwng y galw a'r ddarpariaeth yn ehangu a bydd y Cyngor yn wynebu
pwysau cynyddol yn sgil digartrefedd.
- Bod Cytundeb
Cyflawni'r Cynllun Datblygu Lleol yn destun ymgynghoriad chwe
wythnos ar hyn o bryd a bydd yn llywio'r broses o baratoi Cynllun
Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn. Cynhaliwyd yr
ymgynghoriad yn yr un modd â holl ymgynghoriadau eraill y
Cyngor ac mae'r Bwrdd Ymgynghori ac Ymgysylltu wedi craffu arno.
Argymhellodd y Prif Weithredwr y dylid cyfeirio'r cwestiwn at y
Pwyllgor Polisi Cynllunio fel y gall Aelodau ystyried a yw'r
cyhoedd yn ddigon ymwybodol o bolisi cynllunio a'i arwyddocâd
a sut y gallant gael dweud eu dweud am
y modd y caiff ei ddatblygu ac a oes angen cynllun o fewn
cymunedau. Cadarnhawyd ymhellach fod copïau o Gytundeb
Cyflawni Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn wedi eu dosbarthu i
lyfrgelloedd Ynys Môn a lleoliadau cyhoeddus eraill er nad
oedd gwybodaeth am union nifer y copïau a oedd ar gael wrth
law ar unwaith. Nid yw’n bolisi gan y Cyngor i argraffu a
dosbarthu copïau papur oni bai y gofynnir
amdanynt.
- Bod y Cyngor wedi
ymrwymo i fod yn sefydliad sero net erbyn 2030. Mae wedi sefydlu
targedau heriol i leihau ei allyriadau carbon. O ran yr hyn sy'n
digwydd ar lefel gymunedol mae'r Cyngor yn datblygu cyfraddau
ailgylchu gwastraff cartref, gwaith lliniaru llifogydd, llwybrau
teithio llesol yn ogystal â pharatoi i weithredu rhaglen i
osod pwyntiau gwefru EV ar hyd a lled yr Ynys. Mae ymateb i'r
argyfwng newid hinsawdd gyda’r adnoddau cyfyngedig sydd ar
gael yn her sylweddol ac er bod y ffocws ar y Cyngor ei hun ar hyn
o bryd, mae cymaint o gefnogaeth â phosibl yn cael ei rhoi i
ddiogelu cymunedau trwy brosiectau, prosesau a systemau'r
Cyngor.
Ar ôl craffu ar y
dogfennau, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol gymeradwyo Dogfen Gyflawni
Flynyddol 2024/25 i'r Pwyllgor Gwaith gyda'r argymhelliad bod y
ddogfen yn cynnwys cyfeiriad penodol ac ar wahân at Wylfa o
dan yr adran ymrwymiadau economaidd yn ogystal â chyfeiriad
at ymrwymiad y Cyngor i ymgysylltu â'r sector
busnes.
Camau ychwanegol
–
-
Gofyn
i Gyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc egluro sail y targed ar
gyfer trochi 96 o ddisgyblion heb fawr ddim sgiliau Cymraeg neu
ddim sgiliau Cymraeg drwy ganolfannau iaith a rhannu’r
wybodaeth i aelodau'r Pwyllgor.
-
Bod y
cyhoeddusrwydd a roddwyd i ddogfen Cytundeb Cyflawni Cynllun
Datblygu Lleol Ynys Môn ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r
ddogfen yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Polisi Cynllunio i'w
ystyried. Y Prif Weithredwr i gadarnhau nifer y copïau a
baratowyd ac a ddosbarthwyd.