Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1 – FPL/2023/27 – Parc Carafanau Ty Hen, Rhosneigr

FPL/2023/27

 

Cofnodion:

10.1 Cais llawn i newid defnydd 33 llain carafanau teithiol tymhorol er mwyn lleoli 18 o garafanau gwyliau sefydlog, gosod gwaith trin carthffosiaeth ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Tŷ Hen Caravan Park, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gwyro oddi wrth bolisïau lleol cyfredol, ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y prif faterion cynllunio wrth ystyried y cais ac maent yn ymwneud â pholisi, llifogydd sy’n effeithio ar fynedfa’r safle ac effaith bosib y bwriad ar fwynderau eiddo cyfagos. Gan nad oes unrhyw bolisi penodol yn ymwneud â newid defnydd lleiniau carafanau teithiol i fod yn leiniau ar gyfer carafanau sefydlog, mae’r Awdurdod Cynllunio, yn y gorffennol, wedi asesu ceisiadau o’r fath yn drwyadl gan eu bod yn arwain at ormodedd o garafanau statig yn yr AHNE, a hynny’n groes i Bolisi TWR 3 sy’n ymwneud â cheisiadau i wella safleoedd carafanau presennol a leolir yn yr AHNE. Er hynny, yn dilyn penderfyniadau apêl yn ddiweddar, mae’r Awdurdod Cynllunio wedi ailystyried sut mae’n dehongli’r polisi ac, erbyn hyn, mae’n asesu ceisiadau o’r fath yn erbyn y meini prawf ym Mholisi TWR 3, ac yn yr achos hwn yn benodol, meini prawf (iv) a (vi) o dan baragraff 3. Mae’r meini prawf hyn yn nodi bod rhaid i’r datblygiad arfaethedig fod yn rhan o gynllun i wella amrywiaeth ac ansawdd llety gwyliau a chyfleusterau ar y safle ac y dylai’r datblygiad arfaethedig gynnig gwelliannau sylweddol a pharhaol i ddyluniad, gosodiad ac edrychiad y safle a’i osodiad yn y dirwedd leol. Mae caniatâd yn bodoli’n barod ar y safle i leoli 35 o garafanau teithiol am ddeg mis o’r flwyddyn, rhwng 1 Mawrth a 4 Ionawr, ac oherwydd y defnydd hwn o’r safle, ystyrir bod newid y defnydd, i 18 o garafanau sefydlog, ynghyd â’r cynllun tirlunio arfaethedig, yn gwella’r safle yn unol â’r meini prawf. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod sylwadau a wnaed gan Arolygydd Cynllunio mewn perthynas â phenderfyniad ar apêl cynllunio ddiweddar, sy’n cael eu dyfynnu yn adroddiad y Swyddog, yn berthnasol yn yr achos hwn gan fod y cais wedi’i leoli’n agos at safleoedd carafanau sefydlog eraill, mae ganddo ganiatâd cynllunio ar gyfer carafanau sefydlog ac mae’n bosib defnyddio’r safle carfanau teithiol presennol am ddeg mis o’r flwyddyn. Ni ystyrir felly y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar yr ardal a bydd yn gwella edrychiad gweledol y safle trwy leihau nifer yr unedau a’u hymgorffori’n well yn y dirwedd, yn unol â’r cynllun tirlunio. Ystyrir, felly, bod y bwriad yn cydymffurfio â pholisïau perthnasol yn y CDLlC.

 

Er bod tuedd i lifogydd effeithio ar y ffordd fynediad i’r safle, gan fod hwn yn gynnig i leoli 18 o garafanau sefydlog yn lle 35 o garfanau teithiol, ni ystyrir y byddai llifogydd ar y briffordd sy’n gwasanaethu’r safle yn rhoi bywyd mewn perygl. Cyflwynwyd asesiad o ganlyniadau llifogydd fel rhan o’r cais ac nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad. Ystyrir bod y safle mewn lleoliad cynaliadwy gan ei bod yn bosib cerdded o’r safle i ganol Rhosneigr a’r cyfleusterau sydd yno, mae’r orsaf drenau wedi ei lleoli gyferbyn â’r safle ac mae’n agos at y traeth a’r clwb golff hefyd. Mae’r annedd agosaf tua 150m i’r de orllewin o safle’r cais ac, oherwydd y pellter, y bwriad i leihau nifer yr unedau ar y safle, yn ogystal â’r gwelliannau tirlunio arfaethedig fel rhan o’r cynllun, ni ystyrir y byddai’r cynnig yn cael mwy o effaith ar eiddo preswyl cyfagos na’r 35 carafán deithiol bresennol. Argymhelliad y Swyddog, felly, yw y dylid caniatáu’r cais.

 

Mynegodd y Cynghorydd Neville Evans, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, ei gefnogaeth i’r cynnig gan ei fod yn gwella’r ddarpariaeth bresennol, o safbwynt gweledol ac amgylcheddol, a dywedodd fod y parc yn barc carafanau sydd wedi hen ennill ei blwyf yn Rhosneigr ac mae’n cael ei reoli’n dda. Cynigiodd fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ddeiliadaeth y carafanau, hysbyswyd y Pwyllgor fod y datblygiad ar gyfer dibenion twristiaeth yn unig a byddai amod yn cael ei gynnwys fel rhan o unrhyw ganiatâd i gyfyngu’r safle i ddefnydd gwyliau yn unig.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: