Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – FPL/2023/118 – Wern Farm, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

FPL/2023/118

 

12.2 – FPL/2023/328 – Capel Jerusalem, Llangoed

FPL/2023/328

 

12.3 – FPL/2024/28 - Maes Chwarae Gwalchmai, Maes Meurig, Gwalchmai

FPL/2024/28

 

 

Cofnodion:

12.1 FPL/2023/118 – Cais llawn i newid defnydd tir er mwyn lleoli 55 o garafanau/cabanau gwyliau sefydlog, newid defnydd adeilad allan i fod yn olchdy, derbynfa a swyddfa, ynghyd ag adeiladu ffyrdd newydd ar y safle, codi adeilad trin carthffosiaeth, adeiladu maes parcio, gwaith tirlunio meddal a chaled a gwaith cysylltiedig yn Wern Farm, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol oherwydd gwrthwynebiad cryf y Cyngor Cymuned o ganlyniad i faint y datblygiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol, i’r Pwyllgor ymweld â safle’r cais oherwydd pryderon lleol a phryderon y cyngor cymuned ynglŷn â’r fynedfa, gallu adnoddau, cyfleusterau ac isadeiledd yn yr ardal i ymdopi â’r cynnig, yn ogystal â phryderon am golli tir amaethyddol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod ymweliad safle’n cael ei gynnal, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Alwen Watkin.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle, yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a nodwyd.

 

12.2 FPL/2023/328 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd y capel i fod yn 3 uned wyliau ynghyd ag addasu ac ehangu yng Nghapel Jerusalem, Llangoed

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol, oherwydd pryderon am ddiffyg llefydd parcio a phroblemau traffig, ac oherwydd bod gormod o lety gwyliau yn yr ardal.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Lleol, i’r Pwyllgor ymweld â safle’r cais oherwydd pryderon lleol a phryderon y cyngor cymuned ynglŷn â phroblemau parcio posib o ganlyniad i’r cynnig, ynghyd â’i leoliad mewn ardal brysur o’r pentref.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cynnal ymweliad safle, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Neville Evans.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle, yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a nodwyd.

 

12.3 FPL/2024/28 – Cais llawn i leoli dau gynhwysydd i’w defnyddio fel hwb cymunedol ym Maes Meurig, Gwalchmai

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â safle sy’n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y prif ystyriaethau cynllunio, sef a yw’r cynnig yn cydymffurfio â pholisïau presennol a’i effaith bosib ar yr ardal ac ar eiddo cyfagos. Ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â Pholisi ISA 2, sy’n ymwneud â datblygu cyfleusterau cymunedol newydd, gan y bydd yn darparu cyfleuster hanfodol ar gyfer cymuned Gwalchmai, mae ei raddfa’n briodol, a chaiff ei osod yn y cae chwarae presennol mewn lleoliad canolog cynaliadwy ar gyfer y gymuned gyfan. Bydd y ddau gynhwysydd yn cael eu gorffen gyda chladin pren er mwyn gwella’r ymddangosiad gweledol a sicrhau bod yr adeilad yn cydweddu â’r ardal. Ystyrir bod y dyluniad a’r deunydd gorffen arfaethedig o ansawdd uchel, a’u bod yn welliant gweledol sylweddol o gymharu â chynhwysydd llong cyffredin. Oherwydd maint bychan y datblygiad, defnydd presennol y safle fel maes chwarae, a gwerth cymunedol y cynnig, ni chredir y bydd yn cael effaith ar breifatrwydd a mwynderau eiddo preswyl cyfagos. Mae’r bwriad yn cynnwys gwelliannau ecolegol a bioamrywiaeth ac mae’n dderbyniol i’r Adran Briffyrdd, gan na fydd yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch y briffordd, ac mae digon o lefydd parcio gerllaw. Argymhelliad y Swyddog felly yw y dylid cymeradwyo’r cais.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Neville Evans, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, ei fod yn falch iawn o gynnig fod y cais yn cael ei gymeradwyo gan y bydd yn gwireddu ymdrechion a gwaith caled y gymuned leol i sicrhau adnodd cymunedol fydd yn gwasanaethu stad Maes Meurig a chymuned ehangach Gwalchmai. Dywedodd na fyddai’r hwb yn cael ei chysylltu â’r grid nwy ac y byddai’n defnyddio ynni solar a dŵr glaw. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: