Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) /Swyddog Monitro.
Cofnodion:
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg i’w ystyried gan y Pwyllgor, ac i wneud unrhyw sylw arno cyn ei gyflwyno i’w gymerdawyo gan yr Aelod Portffolio i’w gyhoeddi.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg, yn unol â Rheoliadau Safonau’r Iaith Gymraeg 2015, bod rhaid i’r Cyngor baratoi Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â chydymffurfiaeth gyda’r safonau. Dywedodd bod cynnydd wedi bod yn nifer y staff sy’n derbyn Hyfforddiant iaith Gymraeg yn ystod y flwyddyn ac mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cefnogi’r Cyngor gyda hyn. Dywedodd ei fod yn falch fod Comisiynydd y Gymraeg ac Arolygiaeth Gofal Cymru wedi canmol yr Awdurdod am fodloni’r holl ofynion mewn perthynas â’r Gymraeg.
Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod yr Adroddiad Blynyddol yn dilyn strwythur sy’n cyd-fynd â gofynion Comisiynydd y Gymraeg, ac er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth, mae’n rhaid adrodd ar y penawdau gofynnol. Dywedodd bod sefyllfa Ynys Môn wedi’i ymgorffori yn yr adroddiad er mwyn tynnu sylw at gyflawniadau ehangach o fewn yr Awdurdod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Wrth ystyried yr adroddiad, codwyd y pwyntiau canlynol ymhlith y Pwyllgor:-
· Cyfeiriwyd at yr effaith ar brosesau recriwtio ar gyfer swyddi sy’n anodd eu llenwi a’r gofyniad, mewn rhaid gwasanaethau, i recriwtio pobl sydd angen Hyfforddiant a chymorth ychwanegol i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, ac i ba raddau mae canolbwyntio ar y Gymraeg yn cyfyngu’r gallu i ddenu unigolion at swyddi sy’n gofyn am set penodol o sgiliau? Codwyd cwestiynau pellach ynghylch y ffaith fod 178 o aelodau staff gyda sgiliau iaith Gymraeg rhwng 0 – 1, gyda dim ond 27 wedi derbyn hyfforddiant. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth ei bod yn hanfodol i’r Cyngor ddarparu hyfforddiant i staff er mwyn cefnogi eu sgiliau ieithyddol. Dywedodd bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn sgil hanfodol gyda lefelau iaith yn amrywio yn dibynnu ar ofynion y swydd. Os bydd sgiliau ieithyddol swydd yn newid, bydd angen cynnal trafodaeth gyda’r Panel Recriwtio. Dywedodd bod rhai swyddi yn gofyn am sgiliau ieithyddol lefel is, a bydd y lefel honno yn parhau yn rhan o’r swydd. Cydnabyddir bod gofyniad i fuddosddi ymhellach i wella sgiliau ieithyddol staff. Mae recriwtio ar gyfer rhai swyddi arbenigol yn heriol am nifer o resymau, gan gynnwys gofynion ieithyddol. Dywedodd y Prif Weithredwr bod grymuster y Polisi Iaith Gymraeg a’r sgiliau ieithyddol disgwyliedig yn ffordd o fesur cynnydd mewn sgiliau iaith staff a diwylliant Cymraeg yr Awdurdod. Dywedodd, pan fydd unigolyn mewn tîm yn cael effaith ar wasanaethau rheng flaen oherwydd diffyg sgiliau Cymraeg, mae disgwyliad o fewn y contract cyflogaeth i’r unigolyn hwnnw gwblhau hyfforddiant mewn perthynas â’r Gymraeg.
· Gofynnwyd cwestiynau ynghylch pa wybodaeth ychwanegol all ychwanegu gwerth i’r Adroddiad Blynyddol? Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod trafodaethau mewnol wedi bod yn mynd rhagddynt mewn perthynas â sut ellir gwella’r Adroddiad Blynyddol yn y dyfodol, yn enwedig o ran defnyddio data yn ymwneud â defnydd o’r Gymraeg mewn gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan y Cyngor, a dewis iaith cwsmeriaid. Dywedodd y byddai astudiaethau achos yn defnyddiol er mwyn gwella’r Adroddiad Blynyddol ac i olrhain datblygiadau a chynnydd staff sy’n cwblhau hyfforddiant ar yr iaith Gymraeg.
· Gwelwyd dirywiad mewn cyrsiau hyfforddi mewnol ar yr iaith Gymraeg yn 2023/24 i 30% o 55% yn 2022/23. Gofynnwyd a fyddai’n fuddiol cynnig sesiynau hyfforddiant ychwanegol a’r angen i sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n fwy effeithiol. Gofynnwyd a yw staff yn teimlo’n anhyderus i siarad Cymraeg, a phenderfynwyd y dylid darparu sesiynau ymwybyddiaeth o’r Gymraeg er mwyn rhannu mwy am hanes a diwylliant Cymru. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth efallai y bydd mwy o gyrsiau hyfforddiant dwyieithog yn cael eu darparu, a bod angen edrych ar ddata mewn perthynas â nifer y bobl sy’n cofrestru ar gyfer y sesiynau hyfforddi hyn. Nododd y byddai’n gwneud ymholiadau mewn perthynas ag argaeledd sesiynau ymwybyddiaeth o’r Gymraeg.
· Codwyd cwestiynau ynghylch a oes cyrsiau ar gael i barhau i wella sgiliau ysgrifennu ac iaith. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth eu bod hi’n bwysig cynnig amrywiaeth o hyfforddiant ar lefelau gwahanol i staff, o sgiliau sylfaenol i gyrsiau gloywi iaith. Mae gwaith wedi mynd rhagddo gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n cynnig cyrsiau hyfforddiant am ddim, ac mae cyrsiau ar gael fel bo pobl yn parhau i wella eu sgiliau ysgrifennu ac iaith Gymraeg. Dywedodd, yn ystod y broses Drafod Flynyddol gyda staff, gellir trafod lefelau iaith Gymraeg a gellir cynnig hyfforddiant i staff er mwyn defnyddio’r Gymraeg yn ffurfiol yn y gweithle.
· Nodwyd bod cynnydd wedi bod yn y defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion yng Nghaergybi, ond bod diffyg cyrsiau Cymraeg ar gyfer oedolion yn yr ardal. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod yr Awdurdod yn gweithio gyda sefydliadau partner drwy Fforwm Iaith Ynys Môn sy’n trefnu cyrsiau Cymraeg mewn cymunedau.
· Gofynnwyd a oedd canfyddiadau’r ymchwil arloesol i’r maes recriwtio, i helpu sefydliadau i recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg drwy gael gwared ar unrhyw rwystrau wrth ymgeisio, wedi’u cyhoeddi. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth y bydd y canfyddiadau yn cynorthwyo proses recriwtio’r Awdurdod ac yn helpu Rheolwyr i bennu lefelau iaith ar gyfer swyddi penodol o fewn y Cyngor.
· Cyfeiriwyd at yr asesiad ar yr effaith ar yr iaith Gymraeg pan mae ceisiadau cynllunio yn cael eu cyflwyno, yn enwedig datblygiadau sylweddol mewn cymunedau a’r effaith all ei gael yn y tymor hir. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda’r Rheolwr Polisi a’r Iaith Gymraeg wrth ystyried ceisiadau cynllunio yn ystod y broses ymgynghori. Dywedodd bod Asesiad ar yr Iaith Gymraeg yn cael ei ddarparu gan y datblygwr dan reoliadau cynllunio. Nododd y gellir ystyried y broses hon dan y Cynllun Datblygu Lleol newydd. Gwnaed sylwadau bod angen cefnogaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg i roi pwysau, ar lefel genedlaethol, ar Lywodraeth Cymru ynghylch yr angen i newid y ddeddfwriaeth lle gall datblygwyr ddarparu Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd cydweithio yn mynd rhagddo rhwng Swyddogion ar lefel strategol wrth ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol newydd, fodd bynnag, mae’n rhaid gwerthuso ceisiadau cynllunio drwy ddefnyddio data, ac mae’n rhaid ystyried yr iaith yn llawn o fewn y polisïau cynllunio cenedlaethol sy’n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg bod llythyr ganddo ef a’r Aelod Portffolio Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Newid Hinsawdd wedi’i anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru er mwyn pennu a oes canllawiau mwy cynhwysfawr ar gael mewn perthynas ag asesiadau risg ar iaith, gan fod nifer o siaradwyr Cymraeg ar yr Ynys.
· Nodwyd bod rhai aelodau Cynghorau Tref a Chymuned yn methu â chyfrannu mewn cyfarfodydd yn Gymraeg gan nad yw cyfleusterau cyfieithu ar gael. Gofynnwyd a oes cymorth cyfieithu ar gael ar gyfer cyfarfodydd y Cynghorau Tref a Chymuned. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth y bydd gwaith yn mynd rhagddo i adnabod Pencampwyr Iaith Gymraeg yn eu cymunedau, ac i sicrhau bod Cynghorau Tref a Chymuned yn deall y gofynion ac arferion presennol. Nododd bod bwriad i ystyried darpariaeth yr iaith Gymraeg yn Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned ym mis Hydref. Mae’r Rheolwr Polisi a’r Gymraeg wedi bod mewn Cyswllt â sefydliadau sy’n cynnig cyfleusterau cyfieithu i gefnogi Cynghorau Tref a Chymuned.
PEDNERFYNWYD:-
· Derbyn Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg ar gyfer 2023/24;
· Nodi ei gynnwys a bod y cwestiynau sgriwtini yn cael eu hanfon ymlaen at yr Aelod Portffolio fel rhan o’r broses o’i gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth ddirprwyedig, ac yna i’w gyhoeddi.
CAMAU:
· Bod sesiynau ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn cael eu cynnal i hyrwyddo hanes a diwylliant Cymru;
· Bod y broses ymgynghori ar yr effaith ar yr iaith Gymraeg yn cael ei hadolygu yn ystod y broses ceisiadau cynllunio.
Dogfennau ategol: