Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a’r Iaith Gymraeg mai diben yr adroddiad yw darparu diweddariad blynyddol ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod ysgolion wedi derbyn cefnogaeth gan y Gwasanaeth Dysgu, canolfannau addysg, y Siarter Iaith a GwE yn ystod 2023/24 i sicrhau darpariaeth o safon sy’n adlewyrchu categorïau ysgolion ac anghenion disgyblion mewn ysgolion ar yr Ynys. Nododd bod rhaid cyflwyno’r adroddiad cynnydd ar y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru er mwyn adrodd ar y cynnydd i fodloni blaenoriaethau’r Cyngor a mynd i’r afael ag amcanion y Cynllun. Mae’r adroddiad yn nodi sefydlogrwydd allbynnau 1,2,3, 5 a 6 gyda dirywiad yn allbwn 4 (disgyblion sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac allbwn 7 (nifer y staff sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg). Mae’r categorïau iaith wedi’u trafod gyda’r ysgolion Categori 1 – Cyfrwng Saesneg, Categori 2 – Dwyieithog a Chategori 3 – Cyfrwng Cymraeg. Mae cyfnod trawsnewid ar gyfer gweithio tuag at Gyfrwng Cymraeg (T3). Fel y nodwyd yn yr adroddiad, mae pob ysgol gynradd, oni bai am un, yn Gategori 3 ac mae 4 ysgol uwchradd o fewn Categori 3, gydag un ysgol uwchradd yn T3. Aeth ymlaen i grybwyll ‘Cynllun y Llan’, sy’n arbennig ar gyfer y Canolfannau Iaith Gymraeg a’r 96 o ddisgyblion cynradd sy’n mynychu’r canolfannau hyn, a’r 150 disgybl sy’n derbyn cymorth ieithyddol ôl-ofal. Bydd un aelod o’r ganolfan yn gweithio ar safle Ysgol Uwchradd Caergybi, fel elfen strategol o’r cynllun trawsnewid i gefnogi’r ysgol i symud o Gategori T3 i Gategori 3.
Cafodd y pwyntiau canlynol eu trafod ymhlith y Pwyllgor:-
· Gofynnwyd sut y gellid sicrhau rhieni y bydd eu plant yn derbyn addysg yn Gymraeg ar ôl symud o ysgol gynradd Categori 3 i Ysgol Uwchradd Caergybi. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd cynllun yn cael ei baratoi yn Ysgol Uwchradd Caergybi sy’n cynnwys creu ffrwd Categori 3 ym mlwyddyn 7 o fis Medi 2024. Erbyn 2029, bydd gan bob blwyddyn ffrwd Categori 3 yn yr ysgol. Penodir un dosbarth blwyddyn 7 i dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg o fis Medi 2024, gan gynnal hynny o flwyddyn 8 i 11. Mae staff eisoes wedi cwblhau cyrsiau Cymraeg ac maent yn frwdfrydig y bydd disgyblion o ysgolion cynradd Caergybi yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Caergybi. Codwyd cwestiynau pellach ynghylch a fydd y ddarpariaeth ar gael i rieni gysylltu â’r ysgolion mewn perthynas â phroblemau eraill a all godi sy’n ymwneud ag iaith. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod Swyddog Siarter Iaith wedi cael ei benodi, fydd yn canolbwyntio ar sut i wella’r Gymraeg yn yr ysgol a thu allan i’r ystafell ddosbarth.
· Gofynnwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau mae gwasanaeth y Canolfannau Iaith yn ymateb yn llawn i anghenion trochi ledled Ynys Môn? Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod un Canolfan Iaith cynradd ac uwchradd sy’n ymateb i anghenion disgyblion sy’n symud i’r ardal. Gwneir ceisiadau am gyllid grant er mwyn gwella’r capasiti yn y Canolfannau Iaith, a phenodir athro o fewn y ddarpariaeth trochi uwchradd. Dywedodd ei bod yn amlwg fod angen am y Canolfannau Iaith gan fod rhestr aros llawn disgyblion sydd eisiau mynychu’r canolfannau hyn. Bob tymor, gwelir 32 o ddisgyblion o ysgolion cynradd a 30 disgybl o ysgolion uwchradd yn mynychu’r canolfannau hyn. Mae llwyddiant y canolfannau yn amlwg iawn, gan fod awdurdodau eraill wedi mabwysiadu’r un ddarpariaeth. Fodd bynnag, mae heriau ariannol yn parhau o ran darparu gwasanaeth y Canolfannau Iaith. Gwnaed sylwadau pellach fod disgyblion yn gorfod disgwyl am y ddarpariaeth. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod athrawon mewn ysgolion eisoes yn meddu ar y sgiliau iaith i addysgu’n ddwyieithog, ond yn sgil y cynnydd mewn galw am Ganolfannau Addysg, mae’n anffodus bod disgyblion yn gorfod disgwyl i fynychu’r Canolfannau Iaith.
· Gofynnwyd cwestiynau ynghylch yr heriau a ragwelir o ran symud Ysgol Uwchradd Caergybi o Gategori T3 i Gategori 3. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr ysgol wedi ymrwymo i barhau â’r broses drawsnewid er mwyn sicrhau bod disgyblion yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg o flwyddyn 7 ymlaen. Mae parhau i fonitro ac ymgynghori â rhieni yn hanfodol o ran ymateb i unrhyw bryderon a all godi.
· Nodwyd bod yr Ysgol Eglwys yng Nghaergybi yng Nghategori 2, a gofynnwyd a oes modd symud yr ysgol i Gategori 3. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl ifanc fod yr ysgol Eglwys wedi’i rhoi yng Nghategori 3 yn sgil gwaith caled yr ysgol. Yr ysgol arall o fewn yr Awdurdod sydd yng Nghategori 2 ar hyn o bryd yw’r Ysgol Sefydledig, ac mae ymrwymiad o fewn yr ysgol i sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu haddysgu ac i benodi athro i ganolbwyntio ar ddarpariaeth yn y Gymraeg, sy’n rhan o’u cynllun datblygu er mwyn gwella’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol.
· Gofynnwyd gwestiynau ynghylch i ba raddau mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn debygol o gyflawni’r hyn sy’n ofynnol ac a yw ar y trywydd iawn? Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod heriau o fewn y Cynllun Strategol i fynd i’r afael â’r targedau disgwyliedig. Mae Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050, sy’n her o fewn y sector Addysg gan fod lefel uchel o bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg yn symud i’r Ynys. Mae cofnodion y Cyfrifiad hefyd wedi dangos bod nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg ar aelwydydd wedi disgyn. Fodd bynnag, mae tystiolaeth gref o fewn ysgolion yr Ynys yn dangos bod yr iaith Gymraeg yn rhan hollbwysig o addysg plant. Dywedodd y Prif Weithredwr fod cofnodion y Cyfrifiad yn dangos bod 70% o’r boblogaeth yn meddu ar ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg o gymharu a 25% mewn rhannau eraill o Gymru. Dywedodd fod y targed o gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn heriol, ac mae sefydliadau partner angen bod yn ymwybodol fod polisïau a deddfwriaeth, ynghyd â chyllid, yn bwysig er mwyn cyfateb â’r targedau hyn.
· Nodwyd y ffaith bod plant yn dueddol o droi i siarad Saesneg gyda’i gilydd yn yr ysgol yn dilyn cyfnod chwe wythnos o wyliau haf. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch y ddarpariaeth sydd ar gael i rieni ddysgu Cymraeg, er mwyn cefnogi eu plant i siarad Cymraeg gartref. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cyrsiau ar gael drwy Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor a darpariaethau eraill, i ddysgu Cymraeg ac fe hysbysir hyn mewn ysgolion, gyda rhai ohonynt yn hwyluso’r ddarpariaeth i ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion.
· Nodwyd bod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dod i Ynys Môn yn 2026. Gofynnwyd a ellir ymgorffori’r gwaith o hyrwyddo’r Urdd yn y Cynllun Strategol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd yn gyfle i dynnu sylw at ddatblygiad y Gymraeg ar yr Ynys pan fydd yn Eisteddfod yn cael ei chynnal yn 2026, a gellir cynnwys hyn yn y Cynllun Strategol. Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau sydd ynghlwm â phlant a phobl ifanc yn hanfodol o ran hyrwyddo’r iaith. Nododd y bydd yn gyfle i deuluoedd nad ydynt yn siarad Cymraeg fynychu’r Eisteddfod.
PEDNERFYNWYD nodi’r diweddariad mewn perthynas â data’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Ynys Môn 2022-2023 a’r dull arfaethedig ar gyfer rhannu’r wybodaeth hon.
CAM: Fel y nodwyd uchod.
Dogfennau ategol: