Eitem Rhaglen

Cytuno ar y Trefniadau ar gyfer Sefydlu Porthladd Rhydd Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn nodi’r trefniadau ar gyfer sefydlu Porthladd Rhydd Ynys Môn, yn cynnwys y trefniadau lywodraethu ac ystyriaethau cyllidebol, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr grynodeb o’r gwaith sydd wedi cael ei gwblhau hyd yma. Er mwyn cyrraedd y cam yma yn y broses mae’r Cyngor wedi cynnal trafodaethau helaeth â rhanddeiliaid ac mae ymgynghorwyr y Cyngor yn ogystal â Swyddogion o’r gwasanaeth Datblygu Economaidd, Adnoddau, Cyfreithiol a Rheoli Risg wedi cyfrannu at y broses, yn ychwanegol i’w dyletswyddau dydd i ddydd. Rhoddodd ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar hynt yr Achos Busnes Amlinellol drafft (OBC) ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn a’r amserlen ar gyfer ei gyflwyno a’r Achos Busnes Llawn (FBC) a’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a fydd yn cael eu cwblhau wedi hynny.

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar y dull arfaethedig ar gyfer llywodraethu endid y Porthladd Rhydd a’r gyllideb ddrafft ar gyfer y Porthladd Rhydd, fel y nodir yn yr adroddiad. Yn ei gyfarfod ym mis Mawrth penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ddirprwyo awdurdod i Swyddogion, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, i gytuno ar Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni Porthladd Rhydd arfaethedig a’r Cytundeb Aelodau ac i barhau i negodi â rhanddeiliaid allweddol a’u gwahodd i ddod yn aelodau o’r cwmni. Mae Penawdau Telerau’r cwmni arfaethedig, a fydd yn cael ei adnabod fel Porthladd Rhydd Ynys Môn Cyf., wedi cael eu drafftio ac maent ynghlwm yn Atodiad 1 yn yr adroddiad. Mae’r amserlen ar gyfer cwblhau’r OBC yn awgrymu y bydd y Porthladd Rhydd yn dod yn weithredol ym mis Gorffennaf 2024, sy’n golygu bod rhywfaint o oblygiadau mewn perthynas â sefydlu endid cyfreithiol y Porthladd Rhydd, rhoi’r cytundebau tirfeddianwyr ar waith a sicrhau bod gennym rywfaint o gapasiti i weithredu’r Porthladd Rhydd. Mae’r adroddiad yn mynd i’r afael â’r materion hyn, ac yn cyfeirio at y gweithgareddau y mae disgwyl i’r Porthladd Rhydd eu cyflawni fel rhan o’r rhaglen Porthladd Rhydd. Mae’r adroddiad hefyd yn ymhelaethu ar y gyllideb ddrafft arfaethedig. 

 

Bu i’r Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor Gwaith gydnabod y gwaith sydd wedi cael ei gwblhau gan Swyddogion y Cyngor i sefydlu’r Porthladd Rhydd. Trafodwyd amserlen yr Achos Busnes Amlinellol a’r Achos Busnes Llawn a holwyd ynglyn â’r ffactorau a/neu ddatblygiadau a all effeithio ar yr amserlenni hynny yn ogystal â’r risgiau i’r Cyngor. Bu i’r Swyddogion gynnig eglurhad a sicrwydd mewn perthynas â’r materion a godwyd.

 

Penderfynwyd -

·      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Cyfarwyddwr Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Adnoddau/Swyddog Adran 151, i wneud y Cyngor yn Aelod Sefydlol o Borthladd Rhydd Ynys Môn cyf (y Cwmni Porthladd Rhydd) ar y cyd â rhanddeiliaid lleol allweddol.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Cyfarwyddwr Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Adnoddau/Swyddog Adran 151, i gwblhau ac arwyddo Erthyglau Porthladd Rhydd Ynys Môn cyf (y Cwmni Porthladd Rhydd) a’r Cytundeb Aelodau.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Cyfarwyddwr Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Cyllid/Swyddog Adran 151, i gwblhau ac arwyddo Cytundebau Tirfeddiannwr rhwng CSYM, Porthladd Rhydd Ynys Môn cyf (y Cwmni Porthladd Rhydd) a phob perchennog tir a/neu feddiannwr perthnasol yn ôl y gofyn.

·      Cymeradwyo cyllideb ddrafft arfaethedig Porthladd Rhydd Ynys Môn a rôl CSYM fel Corff Atebol.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Adnoddau/Swyddog Adran 151, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio Cyllid, i adolygu a chymeradwyo’r gyllideb derfynol pan gaiff ei chyflwyno gan Gwmni Porthladd Rhydd Ynys Môn. Disgwylir y bydd gwariant yn 2024/25 (gan gynnwys cyllideb wrth gefn), yn unol â’r tabl ar dudalen 7.

·      Nodi y bydd unrhyw oblygiadau fydd yn effeithio ar gyllideb y Cyngor yn cael eu cynnwys, i’w cymeradwyo, yng Nghyllideb y Cyngor Llawn ar gyfer 2025/26.